blog

Roedd ein cred yn ffactor allweddol wrth ddod yn ofalwyr maeth

Mae Kaynat (Kanu) a Nadeem, yn wreiddiol o India, wedi bod yn maethu gyda Maethu Cymru Gwynedd ers Awst 2020. O bobl ifanc heb warchodwyr i fabanod- mae’r cwpl ynghyd â’u mab ifanc eu hunain, wedi croesawu llawer o blant gwahanol i’w cartref. Mae Kanu wedi cymryd amser o’i diwrnod prysur i rannu eu profiadau o faethu a sut bod eu cred fel Mwslimiaid wedi bod yn ffactor allweddol wrth ddod yn ofalwyr maeth.

Y foment gyntaf yna …

Pan oedd fy mab yn fabi, roeddwn i’n arfer mynd ag ef i grwpiau babanod. Sylweddolais fod un o’r babanod oedd yn gorwedd wrth ei ochr mewn gofal maeth ac ar y pryd, a dim ond am 2 awr y diwrnod yr oedd yn cael gweld ei fam. Torrodd hyn fy nghalon.

O’r adeg hynny, wnes i erioed stopio meddwl am ddod yn ofalwr maeth. Mae Islam yn annog trin plentyn maeth yn yr un modd a’ch plant eich hun. Os oeddwn i’n gallu cynnig fy amser a chariad i blant eraill sydd mewn angen, yna pam lai?

Roedd hyn yn ôl yn 2016 pan oedd fy mab yn 6 mis oed. Ond nid oedd modd i ni faethu ar y pryd gan nad oedd gennym drigfan barhaol yn y DU.  Felly fe dreuliais lawer o amser yn darllen, ymchwilio ac yn perswadio ein teuluoedd am faethu.  Mae cymorth teuluol yn bwysig iawn wrth faethu – nid yw’n rhywbeth yr ydych yn penderfynu gwneud a bod pawb yn cytuno, mae angen iddynt ddeall beth mae’n ei olygu a chofleidio a chefnogi eich penderfyniad i fod yn rieni maeth. Gan ein bod yn ifanc, roedd yna gwestiynau megis Pam nad ydym eisiau cael mwy o blant ein hunain? Pam ein bod ni eisiau edrych ar ôl plant pobl eraill?

Mae fy chwaer yn gweithio i’r Gymdeithas Gofal Maeth yn India ond nid yw fy nheulu’n gwybod llawer am Faethu oherwydd nad yw’n gyffredin iawn yn India.  Roedd fy chwaer wedi esbonio ychydig ynghylch y broses yn y DU wrth iddi fod efo cysylltiadau yma. Felly, pam gawson ni ein preswyliad, fe ddechreuon ni ar ein cais i faethu.

Prophet text
“Byddaf i, a’r un sy’n gofalu am amddifad gyda’n gilydd ym Mharadwys fel y ddau yma” ac ystumiodd a’i ddau fys, yn golygu’r bys blaen a’r bys canol – Y Proffwyd

Roedd ein cred yn bendant yn ffactor allweddol i ddod yn ofalwyr maeth. Ni all y Qu’ran fod yn fwy eglur am ein cyfrifoldebau fel Mwslimiaid i ddangos trugaredd a gofal i blant amddifad; yr elusen amddifad yw un o’r ffyrdd hyfryd i barchu Allah a rhoi’r holl gyfleoedd a chariad mae plant bregus yn eu haeddu.    

Roedd y neges bwerus yma wedi ein hysbrydoli i ddod yn ofalwyr maeth ac i fod yn Fwslimiaid da. 

Ein proses yn y pandemig…

Roedd yn broses hirach i ni yn sgîl y ffaith ein bod ni wedi byw yn India am 27 mlynedd felly roedd rhaid i ni fynd trwy’r gwiriadau cefndir yn India ac yma yn y DU. Ac wrth gwrs, roedden ni’n mynd drwy’r broses yng nghanol pandemig Covid, oedd hefyd yn ffactor. Fe wnaeth gymryd tua blwyddyn o wneud y cais tan ein cymeradwyo a dechreuom faethu gyda Maethu Cymru Gwynedd ym mis Awst 2020.

Y tro cyntaf fe wnaethom ymgeisio i faethu plant oedd heb warchodwyr ond ers hynny rydym wedi darparu pob math o ofal maeth i wahanol fath o deuluoedd maethu – o blant yn eu harddegau, babanod a gofal ysbaid.

Addasu i fywyd Maethu

Daeth ein lleoliad cyntaf i ben yn gynt na’r disgwylir – oedd yn eithaf anodd i’n mab.  Ond ers hynny, mae wedi dod i ddeall bydd y plant yn mynd ac yn dod ac mae nawr yn iawn gyda hynny. Mae’n mwynhau eu cwmni ac wrth ei fodd yn helpu! 

Maethu o amgylch ein Cred 

Mae wedi bod yn waith dysgu pan fo’n dod i faethu a’n cred ond gyda chymorth tîm Maethu Cymru yng Ngwynedd, rydym bob amser yn trafod ein crefydd yn agored gyda rhieni biolegol y plant sy’n ein gofal a byddem bob amser yn parchu eu dymuniadau. Os nad yw’r rhieni biolegol eisiau i ni fynd â’r plant i’r Mosg neu fynychu ein dathliadau crefyddol er enghraifft, byddem yn gweithio o amgylch hynny a gwneud iddo weithio i bawb. 

Roeddem yn gofalu am berson ifanc ac aethom i gyd i Lundain i ddathlu Eid. Ar ôl i ni esbonio’r hyn oedd y cwbl yn ei olygu fe brynon ni ffrog newydd iddi ar gyfer y digwyddiad.  Fe wnaethom i gyd wisgo i fyny gan fwynhau bwyd da gyda’n ffrindiau. Roedd yn brofiad da iawn iddi – ac yn wyliau bach braf! Pan nad yw teuluoedd y plant, neu’r plant eu hunain eisiau mynychu’r Mosg, byddem yn parchu hynny ac yn trafod gyda nhw sut y byddem yn dathlu Eid er enghraifft, a bod yn feddylgar o’u penderfyniad.

Gyda phob un plentyn sy’n dod i’n gofal, rydym yn gofyn iddynt droi’r teledu neu gerddoriaeth i ffwrdd a bod yn ddistaw ar gyfer ychydig o funudau ar adegau penodol yn ystod y dydd tra ein bod ni’n gweddïo, ac maent yn parchu hynny. Nid ydynt yn gweddïo gyda ni ond maent yn deall ac yn rhoi’r amser a’r llonyddwch yr ydym ni ei angen i weddïo.

Mae bwyd hefyd yn ffactor oherwydd ein bod ni ond yn bwyta bwyd halal, felly nid ydym yn gallu cynnig bwydydd penodol megis cig moch a byrgers yn ein cartref. Byddwn yn creu bwydlen o’r bwydydd mae’r plant yn eu hoffi a be allwn ni gynnig iddynt, a thrafod a symud ymlaen wedi hynny. Os ydym yn mynd allan i fwyta, mae’r plant yn bwyta beth bynnag yr hoffent oddi ar y fwydlen (o fewn rheswm) – felly os ydynt eisiau byrger neu frechdan gig moch rydym yn caniatáu iddynt archebu un os ydym mewn bwyty! 

Adeiladu dyfodol a chymunedau gwell ar gyfer ein plant

Pan fo pobl yn gofyn imi pam fy mod yn gofalu am blant pobl eraill, rwy’n dweud wrthynt mai’r plant yma yw sylfeini ein cymuned ac os ydym yn edrych ar eu holau ac yn gofalu am y plant yma, byddem yn adeiladu dyfodol gwell iddynt a chymuned well o’n hamgylch i gyd. A gobeithio, bydd rhai o’r plant yma yn mynd yn eu blaenau i ddod yn ofalwyr maeth eu hunain un diwrnod. Unwaith fe ofalais am ferch yn ei harddegau dim ond am ddau ddiwrnod ac wrth adael, dywedodd wrtha i ei bod hi am faethu hefyd wedi iddi dyfu i fyny!  Roedd hynny yn braf i’w glywed oherwydd roedd yn golygu ei bod hi’n deall ac yn gwerthfawrogi’r hyn yr ydym yn ei wneud.   

I mi, mae maethu yn rhoi boddhad mewn modd heddychlon ac ysbrydol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.