blog

Robin a Ffi: Maethu arddegwyr

Mae Robin a Ffi yn byw yn y Bontnewydd. Mae ganddyn nhw 3 o blant sydd wedi tyfu i fyny, Steffan, Alwena ac Eben. Mae Robin yn Feddyg Teulu yn gweithio yng Ngwynedd ac mae Ffi yn therapydd lleferydd ac iaith yn gweithio mewn unedau newyddenedigol yng Ngogledd Cymru. Maent yn ofalwyr maeth hirdymor.

Pan wnaethant gyfarfod, roedd Robin yn gweithio mewn uned adsefydlu Gristnogol a Ffi gydag elusen sy’n cefnogi pobl ddigartref. Flwyddyn ar ôl iddynt briodi, gofynnodd y ganolfan adsefydlu i deuluoedd ddarparu cartrefi i arddegwyr oedd yn gaeth i gyffuriau ar gyfer rhaglen cymuned. Gwnaeth Robin a Ffi wirfoddoli a symudodd eu person ifanc ‘ychwanegol’ cyntaf i mewn. Dros y 30 mlynedd diwethaf, maent wedi magu 17 o arddegwyr, 3 o’r rheini yn rhai ein hunain.

“Rydyn ni’n caru arddegwyr. Maen nhw’n darganfod pwy ydyn nhw, yn archwilio beth yw pwrpas bywyd. Angerddol, ansicr; maen nhw’n anhygoel. Roedd ein arddegwr cyntaf yn byw efo ni cyn inni gael ein mab cyntaf ac roedd yn gyffrous iawn pan ddaeth Steffan. Roedd arddegwyr yn byw efo ni ar draws genedigaethau ein holl blant. Tra roedd Alwena ac Eben yn fach, roedd dau person ifanc yn byw efo ni. Cawsom seibiant cyn symud i Ogledd Cymru, tra gwnaeth Robin ei hyfforddiant meddygol ond yna cofrestru efo gwasanaeth maethu Gwynedd ac wedi maethu ers hynny.

Mae ein plant wedi bod yn anhygoel yn cynnwys bobl ifanc yn ein teulu mewn ffordd gynnes a hwyliog. Mae arddegwr maeth wedi profi’r trawma o gael ei symud o’i gartref ei hun efo’r trawma o gael o leiaf un lleoliad yn chwalu cyn dod atom ni. Mae derbyn arddegwr i’ch teulu yn golygu eu derbyn yn llawn fel eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i’r teulu. Mae hyn yn golygu bod yn barod i newid ac addasu tuag atyn nhw, ac i fod yn le diogel iddyn nhw archwilio pwy maen nhw wir eisiau bod. Gall cynnal eich perthnasoedd teuluol, a chynnwys person arall yn llawn i galon eich cartref fod yn aberthol i bawb.

Pa mor bell fydd ein cariad yn cyrraedd?

Mae ffiniau yn helpu unigolion a’r teulu fod a theimlo’n ddiogel a chael yr hwyl mwyaf posibl. Ar yr un pryd gall gosod rheolau rwystro cysylltiad, felly rydym yn gosod cyn lleied o reolau â phosib wrth rhannu’r neges graidd ‘mae eich calon yn werthfawr i ni, wnewch chi amddiffyn ein calonnau wrth i ni ofalu am un chi’. Mae hyn wedi galluogi sgyrsiau dwfn a heriol – ar ôl i ni ddod o hyd i berson ifanc mewn caffi efo’i ffrindiau ar ôl iddyn nhw fynd ar goll ers oriau, neu ar ôl i berson ifanc ddod adref ag anaf migwrn yn drewi o mariwana.

Cadw caead ar ddicter i gadw ein cariad wedi troi at y person ifanc i ddarganfod ‘pam’ maent wedi gwneud rhywbeth i’w helpu i wneud penderfyniadau mwy synhwyrol yn y dyfodol. Her arall oedd dilyn ein cariad at Iesu a cefnogi ffydd ein plant wrth dderbyn yn llawn pob arddegwr oedd wedi’i leoli efo ni fel yr oeddent.

Mae un o straeon Iesu wedi ein herio a’n hysbrydoli. Rydym ni’n ei alw stori’r Tad Da. Yn y stori hon chwalodd perthynas y tad â’i ddau fab. Mae ei fab ieuengaf yn gofyn am ei etifeddiaeth ac yn gadael cartref ac mae’r mab hynaf yn feirniadol o’r mab ieuengaf a’i dad. Pan mae’r mab ieuengaf yn dychwelyd adref mae’r tad yn rasio allan i’w dderbyn cyn fedrith cael ei wrthod gan y gymuned na’r teulu. Mae’n estyn gras a derbyniad, ac yn ei adferu i gyflawn faboliaeth, nid gwasanaethgarwch. Roedd y mab hynaf yn ddig wrth y tad a’r mab ieuengaf, yn gofidio fod cariad y tad yn cynnig gras lle y dylasai farnu, yn cynnal parti lle y dylasai fod disgyblaeth. Mae’r tad yn gadael y parti i estyn allan at y mab hŷn blin i’w wahodd i rannu yn y dathliad.

Mae’r bobl ifanc wedi’i cartrefi efo ni wedi cael heriau nad yw ein teulu erioed wedi gwynebu ac mae’r dewrder a’r cydnerthedd maent wedi’i ddangos yn eu bywydau wedi heplu ni barchu nhw pan fo eu hymddygiad yn anodd a dryslyd i ni. Rydym ni’n ceisio cysylltu â nhw ac anrhydeddu eu penderfyniadau hyd yn oed pan dydyn ni’n cytuno â nhw. Rydyn ni’n dangos ein bod ni iddyn nhw, a thrwy hynnu gobeithiwn rydyn ni’n dangos sut olwg sydd ar gariad Duw, gan gredu fedrith Ef adfer pob peth – hyd yn oed drylliad a thrawma. Mae ein hymatebion i’w ymddygiadau heriol yn gwneud inni sylweddoli’r cariad a trugaredd aruthrol sydd gan Dduw Dad tuag atom, fel mae Ef yn ein derbyn fel yr ydym. Rydyn ni’n ddiolchgar ei fod yn gallu dod ag iachâd i’n hunaniaeth a’n bywydau.

Mae wedi ein cadw’n ifanc!

Hyd yn oed ar ôl 17 arddegwr, rydym yn dal i ddysgu sut i fod yn rieni, gan ddysgu i’w caru i’r fersiwn orau ohonyn nhw eu hunain. Rydyn ni’n cael hwyl efo’n pobl ifanc. Maent yn dod â llawenydd a chwerthin i ni ac rydym mor falch pan fyddant yn cyflawni pethau. Gall cadw cydlyniad teuluol hyd yn oed efo’ch harddegwyr eich hun yn heriol wrth iddynt ddatblygu eu hunaniaeth a’u diddordebau. Mae dod o hyd i ffyrdd o wasanaethu hyn wrth gynnwys arddegwyr o gefndiroedd toredig yn hynod bwysig. Wnaethom ni osod nos Wener neu ddydd Sadwrn unwaith y mis i’n bobl ifanc gymryd tro i ddewis beth i wneud…. A byddai’r teulu cyfan yn gwasanaethu’r dewis hwnnw, hyd yn oed pe na baent yn ei fwynhau. Mae wedi ein cadw ni’n ifanc! Mae eu syniadau wedi bod yn ddiddiwedd o greadigol – acwariwm, sglefrio iâ, gwibgartio, gemau bwrdd, teithiau cerdded mynydd, caiacio, sinema, reidiau asennau… I gefnogi eu diddordebau byddem yn gwahanu ar ddydd Sadwrn i ollwng un person ifanc yng Nghaergybi i ddawnsio, un arall ym Mangor i siopa efo ffrind, un arall ym Mhorthaethwy am fand, cyfarfod ein gilydd mewn maes parcio am goffi a chacen cyn mynd yn ôl i’w casglu i gyd o’u gwahanol weithgareddau. Mae cael amser efo’ch gilydd tra’n magu arddegwyr yn sgil ynddo’i hun!

Gweithio a maethu

Mae maethu a gweithio yn heriol… ond mae’r llawenydd pan fydd person ifanc yn rhannu ei galon â chi yn foment werthfawr. Nid yw bron byth yn gyfleus. Byddem yn codi pobl ifanc o weithgareddau ar ôl ysgol, yn bwyta efo nhw, ar gael drwy’r nos ond trwy gydol y cyfan dim ond yn cael ymatebion sgwrs ‘teen grunt’ … yna am 10.30pm pan fyddan ni’n ysu am gwsg ac yn mynd i’r gwely, maen nhw’n troi fyny yn y gegin am eu byrbryd hwyr, yn pwyso yn erbyn yr oergell ac yn dechrau siarad… am fraint! Fel y dywedodd rhywun doeth wrthym ‘Rhaid i chi fod yn bresennol i gael eich anwybyddu er mwyn cael y llawenydd o’u hadnabod pan fyddant yn barod’ … ond mae’n rhaid i ni weithio’r diwrnod canlynol – felly mae yna gyfyngiadau!

Beth all eglwysi wneud i gefnogi teuluoedd sy’n maethu?

Byddwch yn gyfaill gwirioneddol i’r bobl ifanc. Maen genynt teuluoedd toredig a chyfeillgarwch ansefydlog. Mae angen pobl i fod yn frodyr, chwiorydd, ffrindiau, modrybedd, ewythrod, neiniau a theidiau iddynt, hyd yn oed os yw am gyfnod byr. Gall cyfeillgarwch gwirioneddol fod yn iachâd iddynt ac yn rhoi seibiant i’r teulu maeth. Gall y teulu eglwysig fod yn rhywle maent yn perthyn cyn iddynt gredu.

Gwrando a gofalu am bob aelod o’r teulu maeth. Profodd un o’n arddegwyr maeth PTSD pan chwaraewyd cerddoriaeth addoli felly am 18 mis nid oeddem yn gallu chwarae cerddoriaeth addoli yn ein cartref. Roedd hyn yn aberth i’r teulu cyfan. Dywedodd ffrind gwerthfawr ‘Mae aberthu chwarae addoliad yn eich cartref wedi dod yn aberth o addoliad i chi’. Roedd hyn mor ddefnyddiol. Roedd yr aberth costus ond gallem ei wneud yn llawen gan wybod bod Duw Dad yn deall.”

Gyda diolch i ‘Cristion’, cylchgrawn Cristnogol Cymraeg, am rannu’r erthygl yma gan ein gofalwyr maeth Robin a Ffi sy’n trafod pam eu bod yn maethu pobl ifanc yn eu harddegau a sut maent yn cyfuno gweithio a maethu, gyda chefnogaeth eu teulu eglwysig.

Allwch chi faethu gyda eich awdurdod lleol? 

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn dod i gysylltiad efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw orfodaeth i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.   

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.