maethu yng ngwynedd

cydweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol

maethu yng ngwynedd

Ein nod yw cysylltu, cefnogi a rhannu arbenigedd – a chydweithio i roi dyfodol gwell i blant lleol.

Ni yw Maethu Cymru Gwynedd – gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol. 

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Stori Sian a Jake

meddwl am faethu yng ngwynedd? dysgwch fwy:

Social worker, foster carer and young person

cwestiynau cyffredin

Sut beth yw bywyd bob dydd gofalwr maeth a sut gefnogaeth rydyn ni’n ei chynnig? Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod.

dysgwych mwy

pam maethu gyda ni?

Gwneud gwahaniaeth i blant lleol yw’r rheswm pam ein bod ni’n codi yn y bore. Rydyn ni’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, o waith cymunedol i amddiffyn plant, felly mae ein harbenigedd heb ei ail. Rydyn ni’n ymroddedig, yn brofiadol, a gallwn gynnig yr holl gefnogaeth a’r arweiniad sydd eu hangen arnoch chi. Mae ymuno â ni yn golygu gwneud rhywbeth arbennig.

I’ch helpu chi i fod y gorau y gallwch chi fod, rydyn ni’n cynnig cyngor arbenigol a hyfforddiant rheolaidd, yn ogystal â chymorth pwrpasol ac amrywiaeth o fanteision ariannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

sut mae’n gweithio yng ngwynedd

beth yw’r cam cyntaf tuag at fod yn rhiant maeth a ble rydych chi’n mynd o’r fan honno? bydd maethu yn newid eich bywyd. Mae’n her ond mae’n werth chweil hefyd.

Foster carer, young person and young girl going for a walk

y broses yng ngwynedd

Dysgwch sut gallwch chi ddechrau eich cais i fod yn ofalwr maeth a beth fydd yn digwydd nesaf.

y broses
Heart with hands behind beach sunset

cefnogaeth a manteision

Pryd bynnag a ble bynnag y bydd ein hangen arnoch chi, byddwn ni yno i’ch cefnogi. Rydym yn rhan o'r gymuned yng Ngwynedd.

cefnogaeth a manteision
Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth