pam maethu gyda ni?

pam ein dewis ni?

pam ein dewis ni?

Mae dewis Maethu Cymru yn golygu ymuno â’n cenhadaeth i sicrhau dyfodol gwell i blant lleol. Fel sefydliad nid-er-elw, rydyn ni’n rhoi popeth tuag at hyn – rydyn ni’n falch o fuddsoddi yn y sgiliau, yr arbenigedd a’r gofalwyr maeth gwych sydd gennyn ni, oherwydd dyna sy’n gwneud gwahaniaeth. 

Dim ond un o’r 22 Awdurdod Lleol sy’n ffurfio’r gwasanaeth maethu cenedlaethol hwn yw Maethu Cymru Gwynedd. Gyda’n gilydd, mae gennyn ni gyfoeth o arbenigedd y gallwn ei rannu. Mae gennyn ni gyfleoedd hyfforddi a datblygu ar adegau sy’n gyfleus i chi, gweithwyr proffesiynol ymroddedig i’ch cynghori, a chefnogaeth ddydd a nos pryd bynnag y bydd ei hangen arnoch. 

Family of 2 adults and 2 children together on coastline

ein cenhadaeth

Ein pwrpas yw bod yno i blant lleol, pryd bynnag y bydd ein hangen ni arnyn nhw – ac rydych chi’n rhan o hynny hefyd. 

Gallen nhw fod yn blant bach, yn eu harddegau, yn rhieni ifanc neu’n frodyr a chwiorydd. Mae stori ac amgylchiadau pob plentyn yn unigryw, ond yr un peth sydd ei angen arnyn nhw: rhywun i ofalu, ac i wrando. 

Dyna pam rydyn ni yma. I ddarparu’r gefnogaeth honno. I roi’r adnoddau sydd eu hangen ar ofalwyr maeth i fod y gorau y gallan nhw fod.

Adult and teenager embracing by sea with backs to us

ein cefnogaeth

Rydyn ni yma, pryd bynnag y bydd arnoch chi ein hangen ni. Rydyn ni’n dîm profiadol sy’n byw’n lleol, felly mae rhywun wrth law bob amser os a phan fydd eu hangen. 

Dim ond galwad ffôn sydd raid. Ac ar ben hynny – rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad, yn gofalu amdanoch chi yn eich rôl fel rhiant maeth.

Yn ogystal â gweithiwr cymdeithasol hyfforddedig, mae gwybodaeth ac arbenigedd tîm cyfan Maethu Cymru Gwynedd ar gael i chi.

Adult helping young boy with homework in kitchen

ein ffyrdd o weithio

Er mwyn gwneud ein gorau dros y plant yn ein gofal, rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd. Rydyn ni’n cadw mewn cysylltiad – mae’n ganolog i bwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud.

Dydyn ni ddim yn bell nac yn anodd ein cyrraedd. Rydyn ni’n lleol hefyd – rydyn ni’n rhan o’ch cymuned – ac rydyn ni’n yno i chi. Rydyn ni hefyd yn unigolion, gyda’n cryfderau ein hunain, yn union fel y gofalwyr maeth rydyn ni’n eu cefnogi.

Adult and young girl baking together in kitchen

eich dewis

Mae dewis maethu yn newid eich bywyd, ac mae cael y cymorth iawn o’ch cwmpas yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Gyda Maethu Cymru, rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu popeth sydd ei angen arnoch chi – dyna sydd yn bosibl gyda’n holl gyllid a’n harbenigedd. Drwy ein dewis ni, rydych chi’n cael teulu o bobl o’r un anian, gyda’r profiad a’r ddealltwriaeth i’ch helpu i wneud gwahaniaeth go iawn.

Siaradwch â ni heddiw a chychwyn ar eich taith faethu.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.