pwy all faethu

pwy all faethu yng ngwynedd?

Yma yng Ngwynedd, rydyn ni’n mynd ati i ddod o hyd i’r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn – a does dim dau deulu yr un fath. Felly, os ydych chi’n pendroni ynglŷn â sut berson yw gofalwr maeth, y gwir yw, mae gofalwyr maeth yn bobl fel chi.

Eich prif gyfrifoldeb fel rhiant maeth yw gofalu, cynnig sefydlogrwydd a diogelwch – a gallwch chi wneud hynny p’un ai ydych yn briod neu’n sengl, p’un ai oes gennych forgais neu rent i’w dalu, a beth bynnag yw eich ethnigrwydd neu eich cyfeiriadedd rhywiol.

Mae amrywiaeth a hunaniaeth ein gofalwyr maeth yn rhywbeth rydyn ni’n ei ddathlu. Gyda’ch cais i faethu, rydyn ni’n edrych ar beth sy’n eich gwneud chi’n unigryw. Yr hyn sydd bwysicaf yw’r sgiliau, y meddylfryd a’r profiad sydd gennych chi.

Ydych chi’n dal i fod yn ansicr a yw maethu yn addas i chi? Daliwch ati i ddarllen i ddysgu mwy.

mythau maethu: gwahaniaethu rhwng ffaith a ffuglen

Beth rydych chi’n ei weld pan fyddwch chi’n meddwl am ofal maeth? Mae maethu’n gallu bod yn nifer o wahanol bethau – o ymweliadau byr i rywbeth yn y tymor hwy – ond yn ei hanfod, mae’n ymwneud â gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned leol. Oherwydd ei bod yn rôl amrywiol, mae arnon ni angen gofalwyr maeth amrywiol hefyd, pob un â stori, diwylliant a phrofiad gwahanol.

Rydyn ni’n cefnogi’r gymysgedd wych hon o bobl gyda chyngor, hyfforddiant pwrpasol a chefnogaeth, ddydd a nos – rydyn ni wastad yno i chi. Ni yw eich tîm o arbenigwyr ymroddedig, eich teulu maethu. Ochr yn ochr â’r bobl sydd bwysicaf i chi – ffrindiau, teulu a chymuned – rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i sicrhau dyfodol mwy disglair i blant lleol.

Mae un prif gwestiwn y dylech ei ofyn cyn i chi dechrau eich cais i faethu: ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth? Os mai ‘ydw’ yw’r ateb, byddwn ni’n eich cefnogi chi bob cam o’r ffordd.

alla i faethu os ydw i’n gweithio’n llawn amser?

Gallwch chi weithio yn ogystal â bod yn ofalwr maeth – gallai swydd amser llawn fod yn rhywbeth y mae angen meddwl mwy amdano, ond dydy hyn ddim yn mynd i’ch rhwystro. Yn y pen draw, mae’n golygu gwneud yn siŵr bod rhywun yno – pryd bynnag fo angen. Gallai hyn olygu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer oriau ysgol a chyfnodau gwyliau, ac edrych ar y rhwydwaith cefnogi sydd o’ch cwmpas. 

Mae rhai gofalwyr maeth yn maethu’n llawn amser. Mae gofalwyr eraill yn maethu’n rhan amser, yn gweithio ond hefyd yn cynnig seibiant byr. Rydyn ni’n edrych ar eich amgylchiadau unigol ac yn canfod, gyda’n gilydd, beth sydd orau i chi.

alla i fod yn ofalwr maeth os ydw i’n byw mewn llety rhent?

Y peth pwysig yw eich bod chi’n teimlo’n ddiogel ac yn sefydlog yn lle rydych chi’n byw, fel bod y plant maeth rydych chi’n gofalu amdanyn nhw yn teimlo felly hefyd. Gallwch fod yn ofalwr maeth, p’un ai ydych yn rhentu neu’n talu morgais.

Os yw eich ystafell sbâr yn wag, neu’n cael ei defnyddio ar gyfer storio, mae’r potensial yno i gynnig lle diogel a chyfforddus i blentyn sydd ei angen.

alla i faethu os oes gen i blant fy hun?

Mae gan lawer o’n rhieni maeth blant eu hunain. Gall y profiad o gael brawd neu chwaer maeth fod yn addysgol a boddhaol iawn – mae’n helpu plant i ddysgu am bwysigrwydd gofal a thosturi, sut i ddeall a gofalu am bobl eraill – ac mae’r rhain yn sgiliau sy’n para am oes. 

Dydy gofalu am blant maeth ddim yn rhywbeth rydych chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Yn y pen draw – mae’n golygu ehangu eich teulu ac ymuno â phobl eraill i wneud rhywbeth arbennig.

ydw i’n rhy hen i faethu?

Does gennyn ni ddim terfyn oedran uchaf pan mae’n dod i fod yn rhiant maeth. Gallech chi fod yn eich 20au neu’ch 70au – cyn belled â’ch bod yn eithaf iach ac yn medru symud, dydy eich oed ddim yn rhwystr. Mae ein holl rieni maeth, ni waeth beth yw eu hoedran, yn cael yr un hyfforddiant a chymorth lleol arbenigol, i sicrhau eich bod chi’n gwbl barod ar gyfer y daith sydd o’ch blaen.

ydw i’n rhy ifanc i faethu?

Does dim terfyn oedran isaf ar gyfer maethu chwaith. Mae rhai pobl yn teimlo eu bod eisiau maethu’n llawer cynharach mewn bywyd, a chyda’n cymorth a’n harweiniad ni, maen nhw’n cydweddu’n berffaith â’r rôl. Er bod profiad bywyd yn fonws mawr, mae gofalwyr maeth iau yr un mor werthfawr ac maen nhw’n cynnig rhywbeth ychydig yn wahanol. Beth bynnag fo’ch oed, mae dewis bod yn ofalwr maeth yn benderfyniad mawr – a byddwn ni gyda chi bob cam o’r ffordd.

a oes rhaid i gyplau sy’n maethu fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil?

Gallwch chi faethu os ydych chi’n sengl, ac os oes gennych chi bartner, does dim rheolau arbennig ynglŷn â pha fath o berthynas rydych chi ynddi. Dydy bod yn briod, neu mewn partneriaeth sifil, ddim yn amod rydyn ni’n chwilio amdano – beth sy’n bwysig yw’r sefydlogrwydd y gall y ddau ohonoch chi ei gynnig. 

Fel person pwysig yn eich bywyd, mae eich partner yn cael ei gynnwys yn eich cais i fod yn ofalwr maeth.  Bydd tîm Maethu Cymru Gwynedd yn gweithio gyda chi, a’ch rhwydwaith cefnogi estynedig o deulu a ffrindiau, i wneud yn siŵr bod maethu’n addas i chi.

alla i faethu os ydw i’n drawsryweddol?

Gallwch. Dydy eich hunaniaeth o ran rhywedd ddim yn cael unrhyw effaith ar ba mor addas fyddwch chi ar gyfer maethu – eich natur dosturiol, eich profiad a’ch sgiliau sy’n bwysig i ni, ac i’r plant fydd yn eich gofal.

alla i faethu os ydw i’n hoyw?

Gallwch. Beth bynnag yw eich cyfeiriadedd rhywiol, os ydych chi’n barod i ymrwymo i fod yn rhiant maeth, fe wnawn ni eich cefnogi a’ch arwain chi. Mae maethu yn golygu dewis gofalu, gwrando a chefnogi. Bod yn chi eich hun a bod yno, pryd bynnag y bydd eich angen, yw’r peth pwysicaf.

alla i faethu os oes gen i gi neu gath?

Os oes gennych chi anifeiliaid anwes, byddwn ni’n eu cynnwys yn eich cais ac yn asesu pa mor dda y bydden nhw’n ymdopi ag unrhyw blant maeth y byddwch chi’n gofalu amdanyn nhw yn y dyfodol. Mae anifeiliaid anwes yn gallu cynnig math gwerthfawr o gyfeillgarwch a chefnogaeth a bod yn gadarnhaol iawn mewn teulu maeth, felly dydyn nhw ddim yn rhwystr.

alla i faethu os ydw i’n ysmygu?

Mae ysmygu yn rhywbeth rydyn ni’n ei ystyried wrth eich paru â phlant yn ein gofal. Fydd ysmygu ddim yn eich atal rhag bod yn rhiant maeth – ond gallai olygu bod rhai plant yn fwy addas i chi nag eraill. Byddwn ni hefyd yn rhoi arweiniad i chi ar sut i roi’r gorau i ysmygu os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech chi ei wneud.

alla i faethu os ydw i’n ddi-waith?

Rydyn ni i gyd yn mynd drwy newidiadau o ran gwaith, ac mae hyn yn rhywbeth rydyn ni’n ei gydnabod o ran bod yn ofalwr maeth. Os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, fydd hyn ddim yn eich rhwystro – a dydy hyn ddim yn rheswm dros beidio â gwneud cais. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i wneud yn siŵr bod yr amseru’n iawn, ac yn eich cefnogi drwy’r broses er mwyn i chi fod yn siŵr eich bod yn gwneud y penderfyniad cywir.

alla i faethu os nad oes gen i dŷ mawr?

Mae pob cartref maeth yn unigryw. Does gan bob gofalwr maeth ddim tŷ mawr, ac yn y pen draw dim dyma’r peth pwysicaf. 

Y peth pwysicaf yw darparu rhywle lle gall plentyn deimlo’n ddiogel. Felly, cyn belled â bod gennych ystafell sbâr, gall eich tŷ fod yn gartref maeth.

rhagor o wybodaeth am faethu

Two young boys in playground playing together on seesaw

mathau o faethu

Mae maethu’n wahanol i bob teulu a phlentyn. Mae’n gallu golygu nifer o bethau – o ymweliadau byr rheolaidd i rywbeth mwy parhaol. Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o faethu a sut gallai weithio i chi.

dysgwych mwy
Woman helping young girl with homework

cwestiynau cyffredin

O’r pethau bach bob dydd i’r digwyddiadau a’r cyfleoedd hyfforddi, cewch wybod beth i’w ddisgwyl gyda maethu yma.

dysgwych mwy
Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.