blog

Rhoi brofiad teuluol sefydlog i’n plant maeth – pam ein bod yn maethu hirdymor

Mae maethu yn golygu ychwanegu at eich teulu. Golyga hyn dderbyn plentyn neu blant fel rhan o’ch teulu pan fyddant wedi bod i ffwrdd o’u teulu eu hunain. Boed yn noson, yn fis, yn flwyddyn neu sawl blwyddyn – mae’n ymroddiad i wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd plentyn.  

Mae yna lawer o wahanol fathau o faethu y gall gofalwyr maeth ddewis i arbenigo ynddynt, o dymor-byr i rhywbeth fwy hir-dymor.  

Mae gofal maeth hir-dymor yn golygu dod â’r plentyn maeth cywir at y teulu maeth cywir am gyn hired y byddent eu hangen. Golyga hyn ymrwymo i ddarparu cartref cariadus a sefydlog i blant sy’n methu byw gartref.

Mae cymaint o fuddion i faethu hir-dymor. Mae’n rhoi cysondeb i blant mewn gofal maeth a synnwyr gwell o berthyn a sefydlogrwydd drwy fyw mewn cartref teuluol sefydlog, diogel a llawn cariad.

Mae’r gofalwyr maeth tymor-hir Nici a’i gŵr Dan wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Ngwynedd ers dros 14 mlynedd.  

Gyda 4 bachgen eu hunain, 4 o blant maeth a chi, mae Nici’n rhannu beth mae’n olygu iddi hi a’i theulu ymrwymo i’w phlant maeth am yr hir dymor a sut maent yn gwneud atgofion all barhau am oes.

“I ni, nid faint o blant yr ydym wedi maethu sy’n bwysig. Yr hyn sy’n bwysig ydy’r gwahaniaeth yr ydym wedi’i wneud i’r plant yr ydym wedi eu maethu,” dywedodd Nici, sydd ar hyn o bryd â 7 o blant yn byw gartref rhwng 6 ac 16 oed, 6 bachgen a merch.  

“Mae’n rhaid fod pobl yn meddwl bod ein tŷ ni’n wallgof, yn enwedig gyda llond lle o fechgyn! Ond nid o gwbl. Ar y cyfan, mae’n gartref eithaf tawel a digynnwrf! Rydym yn ffodus bod gennym grŵp mor arbennig o blant a rhwydwaith cymorth mor wych o’n cwmpas i’n cefnogi.”  

Gwyliwch fideo o sut mae cymuned o ofalwyr maeth yn cefnogi ei gilydd yng Ngwynedd.

Yr amser iawn i faethu

Daw Nici o gefndir gofal plant a bu’n gweithio mewn meithrinfeydd Dechrau’n Deg lle’r oedd hi’n gofalu rhan amlaf am blant difreintiedig. Mi darodd hyn ddeuddeg gymaint iddi nes ei bod eisiau maethu ers hynny. 

“Gwelodd mam hysbyseb am faethu a gofynnodd a oeddwn erioed wedi meddwl am y peth. Roedden nhw hefyd yn ystyried y peth.

Roeddwn i’n 24 ar y pryd, gyda dau o fechgyn ifanc o dan 3 felly doeddwn i ddim  yn siŵr os mai dyma’r amser iawn i ddechrau maethu. Ond ar ôl i mi weld fy rhieni yn mynd amdani, a gyda digon o le yn ein tŷ, gwnaethom yr ymchwiliadau cychwynnol am y posibilrwydd o gynnig gofal ysbaid efallai, i helpu fy rhieni.”

Pan edrychodd Nici a Dan ar faethu am y tro cyntaf, gwnaethant rai ymholiadau cychwynnol gydag asiantaeth faethu annibynnol sydd fel arfer â phlant hŷn y mae angen eu maethu na’r rhai ag awdurdod lleol. Gan fod gan y cwpl blant ifanc eu hunain, roedden nhw’n teimlo y byddai maethu plant iau na’u rhai nhw yn fwy addas iddyn nhw ar y pryd.

“Mi wnaethom gysylltu gyda’n Tîm Maethu Awdurdod Lleol yng Ngwynedd a groesawodd ein diddordeb mewn maethu a gwneud iddo weithio i ni. Daethom yn ofalwyr maeth cymeradwy yn 2008 ac rydym wedi bod yn maethu ers hynny!”    

Maethu a’ch plant eich hun

Mae Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdod lleol nid-er-elw yng Nghymru, yn croesau gofalwyr maeth o bob math o gefndiroedd. Nid oes terfyn oedran uchaf a gallwch faethu hyd yn oed os oes gennych chi blant ifanc eich hunain. Gall cael brodyr/chwiorydd maeth fod yn fuddiol iawn hefyd. Gall roi mewnwelediad i blant, eu helpu i ffurfio cyfeillgarwch ac adeiladu eu gallu i ofalu am eraill. Wrth gwrs, nid oes rhaid i chi gael plant eich hunain i fod yn ofalwr maeth.   

Aeth Nici a Dan ymlaen i gael dau blentyn arall eu hunain ac maent wedi parhau i faethu gyda’u pedwar mab, gan ddarparu sefydlogrwydd ac amgylchedd teuluol cariadus i blant sydd ei angen fwyaf. Ar hyn o bryd maent yn maethu 4 o blant ar sail llawn amser, hir-dymor, gan gynnwys brodyr a chwiorydd. Mae rhieni Nici hefyd yn parhau i faethu ond yn bennaf yn gwneud gofal maeth cefnogol i Nici a Dan.

“Er ein bod wedi dechrau maethu gyda’r bwriad o wneud ychydig o ofal maeth seibiant byr i ddechrau arni, mi arhosodd ein plentyn maeth cyntaf gyda ni am 8 mlynedd! Ers hynny, rydym wedi dilyn ein calonnau a maethu’n hir-dymor rhan amlaf, sy’n gweddu’n dda iawn i ni fel teulu.

Gyda maethu hir-dymor, rydym yn teimlo ein bod ni’n gallu cynnig sefydlogrwydd teuluol i’r plant a rhoi profiad teuluol iddynt. Gwyliau teulu, dewis eu hystafelloedd, ail addurno…a chael ci bach – yr holl bethau gwirion yr ydym ni fel rhieni yn cytuno i wneud ar ryw adeg!”

Mae’n golygu bod y plant yn dod yn rhan o’n teulu, a ni’n deulu iddynt hwythau.”

Ffurfio Perthnasau gydol oes  

Un o fanteision bod yn ofalwr maeth hirdymor yw’r cyfle i fod yn rhan o a gweld cynnydd a datblygiad plentyn neu berson ifanc tra bu yn eich gofal, boed hynny’n ymddygiadol, cymdeithasol, emosiynol neu addysgol.

“Eu gweld yn tyfu ac yn ffynnu. Cyrraedd cerrig milltir. Eu gwylio’n gwneud ffrindiau, ymgartrefu yn yr ysgol ac o fewn y gymuned o’u cwmpas.” – Nici

Yn aml ar ôl symud ymlaen o ofal maeth hirdymor bydd y berthynas rhwng pobl ifanc a’r teulu maeth yn parhau i fod yn oedolion a thrwy gydol eu hoes, pan fyddant yn rhannu llawer o gerrig milltir ac eiliadau arbennig gyda’i gilydd. 

Cynnig profiadau newydd

Mae maethu yn golygu darparu plentyn gyda’r holl bethau sydd eu hangen arnynt. Bwyd, cynhesrwydd, lloches, cariad, gofal, cymorth ac addysg. Mae hefyd yn ymwneud â dod ynghyd fel teulu i gynnig profiadau a chyfleoedd newydd, waeth pa mor fach, fel rhannodd Nici.

“Gall rhai o’r profiadau cyntaf y byddwch yn eu rhannu gyda phlentyn maeth fod y pethau mwyaf annisgwyl. Gallai’r pethau bob dydd y mae llawer ohonom yn eu cymryd yn ganiataol, fel eistedd o amgylch y bwrdd i fwyta pryd o fwyd gyda’n gilydd, fod y tro cyntaf i blentyn sy’n dod i ofal.” 

Gwyliau a maethu

Mae pawb angen seibiant ac amser i ffwrdd o bryd i’w gilydd. Dylai plant maeth bob amser gael eu cynnwys mewn teithiau a gwyliau teuluol, os yn briodol, fel nad ydynt yn teimlo eu bod wedi’u gadael allan neu deimlo’n wahanol i weddill y teulu. Mae hefyd yn gyfle gwych iddynt fwynhau profiadau ac anturiaethau newydd. Mae Nici yn trafod y math o wyliau a gweithgareddau maent yn mwynhau fel teulu.

“Rydym yn byw mewn lle gwych ar gyfer gweithgareddau awyr agored ac rydym yn mynd i hwylio, canŵio a phadlfyrddio o hyd. Mae’r plant wrth eu boddau yn mynd yn wlyb, ac mae cael siocled poeth i’w cynhesu pan fyddent yn dod allan o’r dŵr yn mynd i lawr yn dda!

Yr adegau syml mewn bywyd sydd yn aml yn creu’r atgofion anwylaf i blant maeth.”

Ynghyd â rhieni Nici a’u plant maeth, mae’r teulu wedi mwynhau llawer o wyliau gyda’i gilydd, hyd yn oed dramor. Ond mae Nici a Dan wedi sylweddoli bod gwyliau byrrach yn agosach at adref yn gweddu llawer gwell i’r plant maeth ar hyn o bryd. 

“Gwelsom fod wythnos i ffwrdd yn ormod iddyn nhw, ond roeddem dal eisiau rhoi’r profiad o fynd ar wyliau iddynt”, meddai Nici. “Penderfynom brynu carafan – ac rydym wrth ein boddau!

Mae fel bod adref yno, ble mae modd i’r plant fwynhau cael profi awyr iach a mannau agored. Mae’n lle diogel ble mae pawb yn fwy llonydd. Lle i gael datgysylltu, chwarae gemau bwrdd, dysgu gemau cardiau newydd a chwarae tu allan.

Rydym hefyd yn cyfarfod teuluoedd maeth lleol eraill sydd â charafan yn yr un safle, sydd yn braf iawn.   

Mae gwyliau carafanio yn rhoi gymaint o hyblygrwydd i ni, sydd ei hangen arnoch wrth faethu. Gallwn hel ein pac a mynd fel y mynnwn am gyn lleied neu gyn hired ag y dymunwn. Weithiau fe awn am noson yn fyr-rybudd. Mae hefyd yn gweithio’n dda oherwydd gall ein plant maeth barhau i gadw mewn cysylltiad â’u rhieni genedigol o’r carafan.  

Mae’n berffaith i ni mewn nifer o ffyrdd.”

Gwnewch wahaniaeth i blentyn yn eich cymuned

Ar hyn o bryd mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth. Trwy ddod yn ofalwr maeth gyda’ch awdurdod lleol fe allwch helpu plentyn neu berson ifanc yn eich cymuned mewn sawl ffordd. Gallwch wneud iddynt deimlo’n saff, yn ddiogel ac o werth. Gallwch ddod â hapusrwydd i’w bywydau, waeth pa fath o faethu y gwnewch.     

“Mae plant angen gwreiddiau. Maent angen cariad ac angen teimlo eu bod yn perthyn. Wrth faethu, gall hynny gael ei gyflawni,” ychwanegodd Nici.

Fedrech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn dod i gysylltiad efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.  

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.