sut mae'n gweithio

sut mae’n gweithio

Bydd maethu yn eich synnu. Dydy maethu ddim yn golygu’r ymrwymiad dyddiol rydych chi’n ei wneud, na’r heriau bach, y dathliadau a’r holl brofiadau eraill yn y canol yn unig. Mae maethu yng Ngwynedd hefyd yn golygu bod yn rhan o gymuned glòs a gwneud ffrindiau newydd, sydd yno i’ch cefnogi pan fydd angen hynny arnoch chi. Mae tîm Maethu Cymru Gwynedd yn ymroddedig – gofalu yw beth rydyn ni’n ei wneud. Diolch i’n cefndiroedd amrywiol, mae gennyn ni gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd ac rydyn ni yno pryd bynnag y bydd arnoch ein hangen ni.

Adult tying childs shoe lace

gwell gyda’n gilydd

Rydyn ni wir yn credu ym mhwysigrwydd cymuned – mae’n ganolog i bopeth rydyn ni’n ei wneud. 

Mae pob plentyn yn ein gofal yn derbyn y gefnogaeth a’r gofal gorau, ac mae’r un peth yn wir am ein teuluoedd maeth. Rydyn ni’n gallu cynnig cymaint o gefnogaeth oherwydd bod Maethu Cymru yn ymdrech gymunedol. Mae’n cynnwys pob Awdurdod Lleol yng Nghymru – 22 o sefydliadau nid-er-elw ymroddedig – yn cydweithio i sicrhau dyfodol gwell i blant lleol.

Playful portrait of young girl smiling

beth sy'n ein gwneud ni'n wahanol?

Rydyn ni’n gysylltiedig, ac mae hynny’n bwysig. Maethu Cymru yw’r rhwydwaith cenedlaethol o 22 o dimau maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru. 

Rydyn ni’n rhoi pobl o flaen elw, bob amser. Mae hynny’n golygu bod aros yn lleol yn un o’n blaenoriaethau, ac rydyn ni’n meddwl yn ofalus ynglŷn â pha deulu sy’n gweddu orau i bob plentyn yn ein gofal. 

O ran paru plant â’u cartrefi newydd, byddwn ni’n edrych ar y darlun cyfan – byddwn ni’n gofyn beth sy’n bwysig i bob plentyn, ac yn gwneud y broses o drosglwyddo i gartref maeth mor hawdd â phosibl. Cyfeillgarwch, cysylltiadau, hobïau, ysgolion a chlybiau – mae’r pethau hyn i gyd yn gallu gwneud byd o wahaniaeth, a dyna pam y byddwn ni wastad yn blaenoriaethu cadw plant yn y cymunedau y maen nhw’n eu hadnabod ac yn eu caru pan fo hynny’r peth gorau iddyn nhw. Rydyn ni’n gwybod bod aros yn lleol yng Ngwynedd yn gallu helpu plant i deimlo’n ddiogel a chadw eu hunaniaeth, ac rydyn ni’n deall pwysigrwydd teimlo’n gartrefol lle rydyn ni’n byw. 

Mae ein rôl yn ymwneud â deall beth sydd orau i bob plentyn unigol, ac fel gofalwr maeth gyda ni, rydych chi’n ei gwneud hi’n bosibl i ni ddarparu’r lefel uchaf hon o ofal.

mwy o wybodaeth am maethu cymru gwynedd:

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.