sut mae'n gweithio
y broses
y broses
Efallai eich bod chi newydd benderfynu maethu – neu efallai eich bod chi wedi dechrau’r broses yn barod. Ond faint o amser mae’n ei gymryd a beth sy’n digwydd pan fyddwch chi’n ofalwr maeth cymeradwy? Rydyn ni wedi amlinellu’r hyn y gallwch ei ddisgwyl isod.
y cam cyntaf
Mae’r cam cyntaf tuag at fod yn rhiant maeth yn syml iawn – y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cysylltu â ni.
Boed hynny’n alwad ffôn neu’n e-bost, siaradwch â thîm Maethu Cymru Gwynedd a byddwn yn eich paratoi ar gyfer popeth fydd yn dod nesaf. O’r rheswm pam yr hoffech chi faethu i’ch rhwydwaith cefnogi, byddwn ni’n dechrau’r broses o ddod i’ch adnabod chi er mwyn i ni allu gweld sut gallai maethu fod yn rhan o’ch bywyd. Byddwn ni hefyd yn anfon pecyn gwybodaeth atoch er mwyn i chi gael dysgu mwy am sut mae maethu’n gweithio.
yr ymweliad cartref
Mae’r broses o feithrin perthynas â chi yn bwysig, felly yn eithaf cynnar, byddwn ni’n trefnu ymweliad. Gallai hyn fod yn eich cartref, neu ar-lein – y naill ffordd neu’r llall, mae’n golygu dod i’ch adnabod chi a’r rhwydwaith cefnogi o’ch cwmpas.
Unwaith y bydd yr ymweliad ar ben, byddwn ni’n anfon eich pecyn ymgeisio, a byddwn ni’n mynd drwy’r broses o wirio eich cefndir – mae hon yn broses y mae pob gofalwr maeth a phawb sy’n gweithio gyda phlant yn mynd drwyddi.
yr hyfforddiant
Er mwyn eich paratoi ar gyfer y profiad o faethu, rydyn ni’n darparu hyfforddiant ar gyfer y broses ymgeisio. Weithiau, bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei alw’n “Sgiliau Maethu”, ac mae’n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod – o sut i siarad am bynciau anodd gyda’r plant yn eich gofal, i sut mae apwyntiadau ysgol a meddygon yn cael eu rheoli.
yr asesiad
Peidiwch â meddwl am yr asesiad fel prawf – cyfle i gael gwybod beth fydd maethu yn ei olygu i chi fydd hyn.
Yn yr asesiad rydyn ni’n gweld sut beth fyddai eich teulu maeth, pa fath o ofal rydych chi’n fwyaf addas ar ei gyfer a beth yw’r ffordd orau o ddefnyddio eich sgiliau unigryw.
Mae hefyd yn gyfle i chi a’ch teulu ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am faethu. Mae’r asesiadau’n cael eu cynnal gan weithwyr cymdeithasol medrus, felly mawr neu fach, technegol neu bersonol, cewch atebion i unrhyw beth yr hoffech ei wybod.
Byddwn ni hefyd yn gallu eich paratoi ar gyfer yr holl wahanol fanteision a heriau sy’n gysylltiedig â maethu.
y panel
Mae gan bob tîm Maethu Cymru ei banel ei hun, sy’n cynnwys aelodau annibynnol a gweithwyr gofal cymdeithasol. Bydd y panel yn ystyried eich cais ac yn gwneud argymhellion ynglŷn â pha fath o ofal maeth allai weithio orau i chi. Maen nhw’n gwybod bod pob teulu maeth yn unigryw, felly dyma sut y byddan nhw’n eich ystyried chi – gan ystyried eich holl gryfderau a gwendidau unigol.
Dim pwrpas y panel yw rhoi ateb ‘ie’ neu ‘na’ i chi ynglŷn ag a allwch chi faethu. Yn hytrach, mae aelodau’r panel yn ystyried eich cais o bob ochr ac yn defnyddio eu harbenigedd i lunio’r ffordd gorau i chi.
y cytundeb gofal maeth
Ar ôl y panel, os byddwch chi’n bwrw ymlaen â’ch penderfyniad i faethu, byddwch chi’n llofnodi’r cytundeb gofal maeth. Mae’r cam pwysig hwn yn nodi popeth y mae’n ei olygu i faethu – o’r cyfrifoldebau bach, bob dydd i’r cymorth a’r arweiniad mwy cyffredinol y byddwch chi’n eu cynnig fel rhiant maeth. Ar ben hyn, mae’n cynnwys ein cyfrifoldebau ni: i’ch cefnogi, i’ch arwain, ac i’ch helpu i symud ymlaen gyda chyfleoedd hyfforddi rheolaidd a hyblyg.