eisoes yn maethu?
eisoes yn maethu?
Os ydych eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth fel gofalwr maeth, a ph’un a oes gennych blentyn yn byw gyda chi’n barod, ai peidio, mae trosglwyddo i ni yn broses syml.
Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru yn barod.
Os ydych yn ofalwr maeth gydag asiantaeth faethu annibynnol ar hyn o bryd, mae gennym lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo a byddwn yn sicrhau bod y broses mor syml â phosibl.
Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Gwynedd.
manteision maethu'n uniongyrchol
Mae Maethu Cymru Gwynedd yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw, ac mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu a ddarparwn.
Mae holl blant maeth Gwynedd yn gyfrifoldeb cyfreithiol i ni fel yr Awdurdod Lleol. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch yn gysylltiedig â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal y plentyn, sy’n amhrisiadwy i ofalwyr maeth. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a’n gofalwyr maeth.
Mae bod yn rhan o’n tîm yng Ngwynedd yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu, eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi fel rhan annatod o’n tîm maethu.
beth rydym yn ei gynnig ym Maethu Cymru Gwynedd
- Cefnogaeth fedrus ymroddedig gan dîm lleol sy’n adnabod ac yn byw yn eich ardal.
- Dysgu pwrpasol, gan gynnwys dysgu Cymraeg iaith gyntaf yn unig, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu rhithwir.
- Cefnogaeth therapiwtig 1:1 – gan weithiwr cymdeithasol therapiwtig annibynnol.
- Grwpiau Dynion sy’n maethu – gan weithiwr cymdeithasol therapiwtig annibynnol.
- Boreau coffi a chyfarfodydd eraill ar draws Gwynedd yn agored i’n holl ofalwyr maeth.
- Sesiynau grŵp hwyliog a gweithgareddau i feibion a merched ein gofalwyr maeth.
- Gweithgareddau, digwyddiadau a diwrnodau allan i’n holl deuluoedd maeth trwy gydol y flwyddyn – ar draws Gwynedd.
- Cymorth ariannol ar gyfer unrhyw offer sydd ei angen ar blant sy’n byw gyda chi.
- Lwfans gwyliau, lwfans pen-blwydd a lwfans Nadolig.
- Cardiau Max – ar gyfer gostyngiadau ar weithgareddau teuluol a siopa.
- Aelodaeth am ddim o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru.
“Mae rhwydwaith cefnogol o bobl leol y gallwch chi siarad â nhw, sydd hefyd yn ofalwyr gyda phrofiadau tebyg, yn gwneud cymaint o wahaniaeth”
Tim a Inger, Gofalwyr Maeth Gwynedd
sut i drosglwyddo i ni
Mae trosglwyddo i ni yn hawdd. Yn syml, cysylltwch â’n tîm – dros y ffôn, e-bost, neu trwy lenwi’r ffurflen gyswllt – am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth.
Byddwn yn siarad am sut y gallai maethu gyda ni weithio i chi, ac os byddwch yn penderfynu ymuno â ni, mi wnawn ni y gweddill!
canllaw trosglwyddo
Lawrlwythwch eich canllaw trosglwyddo
Neu cysylltwch â ni isod i dderbyn eich llyfryn.