blog

Maethu oedd ein ‘Damwain Ffodus’: pam maethu oedd y penderfyniad cywir i ni

Mae Rhys a Mandy wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol  Maethu Cymru Gwynedd am dros 20 mlynedd, ynghyd â’u pedwar o blant David, Laura, Abi a Sam.

Maent yn rhannu eu profiad personol o faethu, o’r “ddamwain ffodus” a gychwynnodd eu taith i faethu gyda phedwar o blant eu hunain (efeilliaid ddwywaith!), hyd at ugain mlynedd yn ddiweddarach a hwythau’n dal i fwynhau cael llond tŷ o fabis!

“Pan oedd ein efeilliaid hynaf yn wyth oed, roeddem eisiau rhagor o blant, ond doedd dim byd yn digwydd i ni yr adeg honno,” dywedodd Mandy, cyn gyfreithwraig sydd bellach yn 64. “Felly dyma benderfynu ystyried mabwysiadu, ac aethom mor bell â chael ein cymeradwyo i fabwysiadu.”

Mabwysiadau neu faethu?

Mae tua 285 o blant yn cael eu mabwysiadu yng Nghymru bob blwyddyn, o gymharu â 1857 o blant sydd angen gofal maeth. Yn aml bydd y plant sydd angen cael eu mabwysiadu mewn gofal maeth yn y lle cyntaf, cyn gwneud penderfyniad mai mabwysiadu yw’r dewis gorau iddynt.  Gyda hyn mewn golwg, tyfodd diddordeb y cwpl mewn maethu, fel y mae Mandy yn esbonio.   

“Doedd maethu ddim ar ein radar, yn syml am nad oeddem yn gwybod llawer amdano. Ond deuthom i sylweddoli wedyn bod angen mawr am ofalwyr maeth yn yr ardal.

Gyda maethu, roeddem yn teimlo y gallem wneud gwahaniaeth i fywydau llawer o blant, a phetaem wedi parhau â’r bwriad i fabwysiadu, mae’n debyg mai dim ond un neu ddau o blant ar y mwyaf y byddem wedi’u mabwysiadu.  

Rwyf wedi bod yn angerddol am blant erioed, ac felly roedd maethu yn teimlo fel y penderfyniad cywir i ni.

Dw i’n hoffi dweud mai hwn oedd ein ‘damwain ffodus’!”

Cydbwyso maethu gyda’n plant ein hunain

Dechreuodd Rhys a Mandy faethu pan oedd eu hefeilliaid hynaf, David a Laura, yn 12 oed. Dwy flynedd wedyn, darganfu Mandy ei bod yn feichiog – gydag efeilliaid eto, ond doedd hynny ddim am eu rhwystro! “Ar y pryd roeddem yn maethu plant o’r un teulu, ond wnaethon ni ddim ystyried rhoi’r gorau i faethu er bod gennym efeilliaid ar y ffordd!” dywedodd Mandy.

“Yn anffodus, cefais feichiogrwydd anodd.  Roeddwn i fewn ac allan o’r ysbyty drwy gydol y beichiogrwydd a chefais gyngor gan fy meddyg teulu i gymryd seibiant o faethu.

Roeddwn yn ystyried hyn fel seibiant ‘mamolaeth’ tra’n mynd drwy’r beichiogrwydd a chael yr efeilliaid, a gyrhaeddodd yn gynnar, ar ôl 32 wythnos. Oni bai am y salwch yn ystod y beichiogrwydd, mae’n debyg na fyddem wedi rhoi’r gorau i faethu o gwbl.”

Dechreuodd Rhys a Mandy faethu eto pan oedd eu hefeilliaid ieuengaf, Abi a Sam, ddim ond yn 12 mis oed, a’r efeilliaid hynaf yn 15 oed erbyn hynny. Gyda dau fabi ifanc a dau yn eu harddegau yn y tŷ, sut lwyddodd Rhys a Mandy i gydbwyso maethu a magu eu plant eu hunain? 

“Dydy’r efeilliaid ieuengaf erioed wedi bod yn ymwybodol o fywyd gwahanol,” meddai Rhys, ficer a deifiwr proffesiynol wedi ymddeol, sydd bellach yn 75. “Dyma yw eu hunig brofiad. Maent wedi gorfod rhannu Mam a Dad gyda’r plant eraill o’r cychwyn. Wrth gwrs, bu’n rhaid i ni wneud mân addasiadau ac aberthu rhai pethau o ran magu ein plant ein hunain ers i ni fod yn maethu, yn enwedig gyda’r ddau ieuengaf, ond nid yw hynny’n beth negyddol o bell ffordd. 

Mae bod yn rhan o amgylchedd maethu wedi bod yn fuddiol tu hwnt i’n plant ein hunain!”

Maethu a theulu

Gan mai  gwaith tîm sydd wrth galon maethu, mae holl aelodau’r teulu yn chwarae rhan bwysig yn y cartref, o helpu’r plant maeth i setlo a theimlo fel rhan o’r teulu i gynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol.

“Mae pobl yn aml yn meddwl mai fi yw’r prif ofalwr maeth,” meddai Mandy. “Ond mae Rhys yn wych gyda’r plant ac yn gallu gwneud popeth – mae’n fodlon coginio, glanhau, newid clytiau a bwydo yn y nos!

Mae’r pedwar o’n plant ni bob amser wedi rhoi help llaw, ac yn parhau i’n cefnogi heddiw, er eu bod wedi gadael cartref.”

“Roedd fy mam hefyd yn byw gyda ni tan ei bod yn 98. Roedd yn wych cael cenhedlaeth arall yma a chynnig nain faeth i’r plant maeth! Roedd hi wrth ei bodd efo pob un o’r plant.”

Os nad oedd ein teulu’n gwbl gefnogol i’r maethu, allwn ni ddim fod wedi’i wneud.” 

“Rydym wedi gwneud iddo weithio, fel teulu” –  Mandy a Rhys

Ers i Rhys a Mandy ddechrau maethu, maent wedi helpu llawer o blant i symud i fabwysiadu, ac eraill i symud yn ôl at eu teuluoedd genedigol. Maent wedi gweithio’n agos gyda thîm yr awdurdod lleol er mwyn ffurfio cynllun ‘hirdymor’ i’r plant yn eu gofal, gan sicrhau’r dyfodol gorau posib i bob un ohonynt. 

“Gwybod bod gan y plant ddyfodol sicr, beth bynnag y bo, a’n bod ni’n rhan o hynny, dyna’r cyfan i ni,” meddai Rhys. “Mae’n hynod o werthfawr i ni.”

Ychwanegodd Mandy: “Rydym wedi cefnogi pob math o deuluoedd pan fydd plant yn symud o’n gofal i fabwysiadu, o rieni sengl i gyplau o’r un rhyw – a phob un ohonynt wedi bod yn rhieni hollol wych. Mae wedi bod yn fendigedig i fod yn rhan o hynny.

Gan ein bod wedi cael trafferth i gael ein plant ein hunain, teimlwn y gallwn uniaethu â’r mabwysiadwyr. Rydym yn gwybod sut beth yw dyheu i gael plentyn – er ein bod wedi cael dwsinau ohonynt yn y pen draw!”

Ffurfio perthnasau sy’n para’

Mae Rhys a Mandy wedi gweithio’n galed i adeiladu perthnasau cadarnhaol a hirhoedlog gyda’r teuluoedd genedigol a’r mabwysiadwyr yn ystod y broses o symud ymlaen a thu hwnt. Mae perthnasau da yn fodd o adeiladu ymddiriedaeth ac yn helpu plant i greu synnwyr o ddiogelwch pan fo’r bobl sy’n bwysig iddynt yn gyffyrddus ac yn dod ymlaen yn dda â’i gilydd. Mae hefyd yn rhan bwysig o’r broses cloi i Rhys a Mandy wrth i’r plant symud ymlaen.

“Rydym angen teimlo’n hapus gyda lleoliad ein plant maeth wrth iddynt ein gadael, a gwybod rhywbeth am y bywydau sydd o’u blaenau, esboniodd Mandy. “Rydym eisiau gallu gweld eu dyfodol, nid ei ddychmygu, ac yn aml byddwn yn cael ei groesawu i fod yn rhan ohono.

Mae rhai teuluoedd yn fwy awyddus nag eraill i gadw mewn cyswllt. Mae rhai ei angen yn fwy nag eraill. Eu penderfyniad nhw yw lefel y cyswllt y maent yn ei ddymuno a’i angen gennym ni.

Bydd hyn bob amser ar eu telerau nhw, ar gyflymder sy’n eu gwneud yn gyffyrddus.”

Tymor byr, effaith fawr

Dros y blynyddoedd mae Rhys a Mandy wedi maethu plant o bob oed, ar sail byrdymor a hirdymor. Maent wedi helpu llawer o fabanod a phlant i ffynnu a llwyddo i gyrraedd eu llawn botensial drwy ddarparu cartref cariadus a diogel ar adeg pan oeddynt ei angen fwyaf. 

Bellach maent yn canolbwyntio ar faethu tymor byr, gan ofalu’n bennaf am fabanod tan iddynt allu dychwelyd i’w teuluoedd genedigol neu symud ymlaen i gael eu mabwysiadu. 

Ond nid yw arhosiad byr yn golygu effaith fach. Gall maethu tymor byr newid bywydau plant, gan weithredu fel pont at ddyfodol diogel a hapus.

“Mae plant hŷn yn fwy addas i faethu hirdymor a gallant aros gyda theulu am sawl blwyddyn, ond gyda’n hoedran ni, teimlwn mai maethu byrdymor sy’n gweddu orau i ni ac i’r plant,” dywedodd Mandy.

“Mae yna gynllun hirdymor a pharhaol i’r babanod, sy’n gwneud i ni deimlo’n fwy cyffyrddus gan wybod y byddant yn mynd ymlaen i gael y dyfodol gorau posib.

Wrth gwrs, rydym yn eu colli’n fawr pan fyddant yn gadael, ond nid ni sy’n bwysig.

Rydym yn mwynhau gofalu am fabanod ac yn teimlo ein bod yn dda am wneud hynny – wedi’r cyfan, rydym wedi cael digon o brofiad dros y blynyddoedd!”

Allech chi wneud gwahaniaeth i blentyn lleol sydd mewn angen?

Ar hyn o bryd mae dros 7,000 o blant yn y system gofal yng Nghymru, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth.

Allech chi ymuno â Mandy a Rhys wrth wneud byd o wahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc lleol sydd angen gofal drwy gynnig cartref diogel a chefnogol iddynt?

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd un o’n tîm yn cysylltu â chi am sgwrs gyfeillgar heb unrhyw ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os yw maethu’n iawn i chi.

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.