Bu Gwen a Robert Pritchard o Fethesda yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Ngwynedd am dros 15 o flynyddoedd. Dyma edrych yn ôl ar eu siwrnai maethu a sut maent yn parhau i fod yn rhan o fywydau’r pobl ifanc ar ôl iddynt adael eu gofal.
Doeddwn i ddim eisiau bod adref yn gwneud dim byd!
“Ein mab, Tomos, wnaeth roi’r syniad i ni i ystyried maethu ar ôl iddo dyfu a symud allan i fyw gyda’i gariad,” meddai Gwen. “Roeddwn yn gweithio fel gofalwraig ar y pryd ond yn dilyn damwain car a llawdriniaeth ar fy mraich, mi fethais fynd nôl i weithio. Yn sicr, doeddwn i ddim eisiau bod adref yn gwneud dim byd!
“Roedd y ddau ohonom wedi hen arfer edrych ar ôl plant dros y blynyddoedd – o blant teulu a ffrindiau, i blant ein cymdogion, roedd yna blant yn byw ac yn bod acw ar y fferm! Ar ôl i’r plant yna dyfu a symud i ffwrdd, roedd hi’n dawel iawn yma a doeddwn i ddim yn hoffi hynny o gwbl!
“Felly dechreuom edrych i fewn i faethu a mynd ar y cyrsiau hyfforddi yn gwybod nesa peth i ddim am beth oedd o’n blaenau! Gwnaethom drawsnewid yr ystafell wely sbâr yn ddwy ystafell fel y gallem gynnig cartref i frodyr a chwiorydd.
“Gwnaethom groesawu ein plant maeth cyntaf, sef brawd a chwaer 11 a 6 oed, am benwythnos i gychwyn ac roeddent wedi mopio yma ar y fferm. Roeddent yn mwynhau’r rhyddid i redeg o gwmpas fel dau gi defaid bach! Wedi hynny, daeth y ddau i fyw gyda ni am gyfnod tymor hir nes iddynt dyfu a mynd i’r coleg.”
Maent yn rhan ohonom
Ers hynny, mae Gwen a Robert wedi maethu brodyr a chwiorydd am gyfnodau tymor hir ac mae’r mwyafrif ohonynt yn parhau i fod yn rhan o’u bywydau hyd heddiw.
“I ni, tydi’r berthynas a’r gofal ddim yn dod i ben pan mae’r pobl ifanc yma wedi tyfu a symud ymlaen”, eglurodd Gwen. “Maent yn rhan ohonom, yn rhan o’r teulu a bydd bob amser croeso iddynt yma. Nawn ni byth droi ein cefnau arnynt. Byth. Mae gan rai ohonynt blant eu hunain rwan, ac mae’r plant yn ein hystyried ni’n Taid a Nain – rydyn ni wedi mopio gyda ein hwyrion a’n hwyresau bach!”
Gwneud y pethau bychain
“Rydym wedi magu’r plant sydd wedi bod yn ein gofal yr un fath ag y gwnaethom fagu ein mab ein hunain,” eglurai Robert. “Nid eu sbwylio gyda moethusrwydd, ond yn hytrach cynnig profiadau gwerthfawr a chyfleoedd iddynt i fwynhau’r pethau bychain yr ydym yn aml yn eu cymryd yn ganiataol fel awyr iach, reidio beic, cicio pêl, dysgu sut i goginio a mynd am bicnic i’r traeth – pethau nad oedd rhai ohonynt erioed wedi’u profi o’r blaen.
Un atgof arbennig sydd wedi aros yn fy nghof oedd bod heb drydan un noson pan oedd hi’n bwrw eira’n drwm iawn yma (roedd hynny’n gyffro mawr ynddo’i hun!) ac mi wnaethom dostio bara o flaen tanllwyth o dân agored i wneud tost! Wel, roedd y plant wedi gwirioni’n lan! Y pethau bach fel hyn sydd yn creu atgofion i’r plant, ac i ninnau hefyd.”
Rhoi amser iddynt
“Yn ogystal â sicrhau bod gan y plant fwyd yn eu boliau, dillad glan a gwely clyd, maent hefyd angen eich amser”, meddai Gwen. “Amser i wrando arnynt, ac amser i roi chydig o sylw iddynt. Drwy roi amser iddynt, bydd y plant yn dod i ymddiried ynoch chi.”
Rydych yn rhan o gymuned arbennig
“Wrth gwrs, nid yw bob amser wedi bod yn hawdd”, meddai Gwen. “Mae maethu yn dod gyda’i heriau ond rwyf wir wedi mwynhau’r heriau ac wedi dysgu cymaint. Does dim byd mwy gwerth chweil na gofalu am blant a helpu i’w harwain trwy fywyd a gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i’w bywydau. Wna i byth anghofio’r diwrnod y dywedodd un ohonynt ‘diolch am fy mhlentyndod’ wrth iddo adael i fynd i’r brifysgol. Roedd hynna’n golygu’r byd i mi.”
“Dydych chi byth yn teimlo’n unig wrth faethu. Mae’r gefnogaeth a gewch gan tîm Maethu Gwynedd yn wych – does ond angen codi’r ffôn a bydd rhywun yno i chi, bob awr o’r dydd, a byddwch yn derbyn hyfforddiant parhaus. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i ddod yn rhan o gymuned eang a chefnogol o ofalwyr maeth eraill – bob amser rhywun i’ch helpu, i siarad â nhw, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi.”
Mae angen hiwmor
Felly beth mae Gwen a Robert yn ystyried yw’r sgiliau a’r rhinweddau personol mwyaf hanfodol i faethu’n llwyddiannus ac i helpu eraill i benderfynu a yw bywyd fel gofalwr maeth yn iawn iddyn nhw?
“Yn sicr, mae angen empathi a sgiliau gwrando da,” meddai Gwen. “Mae angen dyfalbarhad ac amynedd pan fydd pethau’n mynd yn anodd, ac mae chwerthin a chael hwyl hefyd yn bwysig iawn.”
“Mae gosod ffiniau a disgwyliadau yn hanfodol o’r cychwyn mewn perthynas rhwng teuluoedd maeth,” ychwanegodd Robert. “Mae hefyd angen hyblygrwydd a’r gallu i addasu, ac mae’n bendant angen digon o hiwmor!”
“Ewch i faethu gyda meddwl agored,” meddai Gwen. “Peidiwch byth â barnu’r plant, a pheidiwch byth â’u labelu’n ‘ddrwg’. Mae gan bob un plentyn maeth ei stori ei hun a’i anghenion unigol, ac maent i gyd yn haeddu’r cyfle gorau mewn bywyd.”
Rydym mor ffodus
“Rydym yn ystyried ein hunain mor ffodus i fod wedi cael y plant yma yn ein bywydau, ac yn dal yn ein bywydau heddiw,” meddai Gwen. “Bob un ohonynt efo personoliaethau gwahanol, a bob un yn arbennig iawn. Rydyn ni mor falch ohonyn nhw i gyd ac am yr hyn y maen nhw wedi’i gyflawni.
Ni fyddwn yn newid unrhyw beth.”