blog

Cwestiwn ac Ateb gyda Lisa, Swyddog Recriwtio Maethu Cymru Gwynedd

Ydych chi wedi bod yn ystyried maethu plant? Ddim yn siŵr lle i gychwyn? 

Dyma gyflwyno Lisa Thompson, Gweithiwr Allweddol a Swyddog Recriwtio i Maethu Cymru Gwynedd a phwynt cyswllt cyntaf i ddarpar ofalwyr maeth ar ddechrau eu taith faethu.  

Ers pa bryd wyt ti yn gweithio ym maes maethu plant?

Rwy’n gweithio i Maethu Cymru Gwynedd, gwasanaeth maethu yr awdurdod lleol, ers Rhagfyr 2020.

Cyn hynny, roeddwn yn Weithiwr Cymdeithasol yn nhîm Plant Gwynedd am 12 mlynedd, yn gweithio yn agos iawn gyda thîm Maethu Gwynedd ac Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd.

Be ydy apêl y gwaith i ti?

Mae fy rôl yn golygu bod yn rhan o gymuned faethu clos ac arbennig iawn, sy’n cydweithio i adeiladu dyfodol gwell i blant lleol.

Mae’r gwaith yr wyf yn ei wneud ar yr ochr recriwtio yn fy ngalluogi i fod yn greadigol – yn ein negeseuon a’n ymgyrchoedd, ar ein cyfryngau cymdeithasol (cofiwch ein dilyn!), ac allan yn y gymuned.

Mae’n ymwneud â meddwl am ffyrdd diddorol, hwyliog a chreadigol i godi ymwybyddiaeth am faethu ac i ddenu pobl i ddarganfod mwy am bod yn ofalwyr maeth gyda’r awdurdod lleol. Mae’n yn ymwneud â bod yn ‘real’ – gweithio’n agos gyda’n gofalwyr maeth anhygoel i rannu eu straeon a phrofiadau maethu er mwyn ysbrydoli eraill i ystyried bod yn ofalwyr maeth.

Be ydy her mwyaf y gwasanaeth?

Yr angen i recriwtio mwy o ofalwyr maeth i ymateb i’r angen am ofal maeth i blant a phobl ifanc lleol. Rydym o hyd yn chwilio am fwy o ofalwyr maeth o bob math, ac o bob oedran, i gynnig cartref a gofal i blant a phobl ifanc yng Ngwynedd, ac i sicrhau bod gennym ddigon o ofalwyr maeth ar gyfer y dyfodol. Mae’r angen am ofalwyr maeth yn cynyddu oherwydd, yn anffodus, mae’r niferoedd o blant sydd angen gofal hefyd yn cynyddu. 

Pa fath o bobl fedr fod yn ofalwyr maeth?

Yma yng Ngwynedd, rydyn ni’n mynd ati i ddod o hyd i’r teulu maeth iawn ar gyfer pob plentyn sydd angen gofal – a does dim dau deulu yr un fath. Rydym yn chwilio am ofalwyr maeth caredig a gofalgar sy’n gallu cynnig sefydlogrwydd a diogelwch i blentyn (ac ystafell wely sbâr!). Pobl sy’n gallu agor eu cartrefi a’u calonnau i blant a phobl ifanc lleol, a chynnig lle cariadus a chlyd, yn llawn hwyl a chyfleoedd o bob math.   

Oes hyfforddiant ar gael i ddarpar ofalwyr a chefnogaeth wedyn ar gyfer ofalwyr maeth?

Mae gan pob gofalwr maeth gefnogaeth broffesiynol a gweithiwr cymdeithasol ymroddedig sydd wastad yno i’w cefnogi. Fel arfer, y gweithiwr cymdeithasol sy’n cwblhau yr asesiad i fod yn ofalwr maeth sy’n parhau i’w cefnogi tu hwnt i’r asesiad gan bod y berthynas a’r gefnogaeth eisoes wedi ei sefydlu.

Rydyn ni’n darparu’r holl offer a’r hyfforddiant angenrheidiol i alluogi ein gofalwyr maeth newydd i ddechrau ar eu taith maethu. Rydym hefyd yn darparu pecyn blynyddol o hyfforddiant, gyda dewis eang o gyrsiau perthnasol, i gefnogi ein gofalwyr maeth i ddatblygu eu sgiliau ymhob agwedd o faethu a magu plant.

Sut mae rhywun yn cychwyn ar y daith i fod yn rhiant maeth? Siarad efo pwy i gychwyn?

Mae maethu yn dechrau gyda sgwrs anffurfiol, heb unrhyw ymrwymiad, gyda mi. Codwch y ffôn neu gyrrwch neges drwy ein ffurflen ymholiad ar ein gwefan, ac mi fyddai’n cysylltu i drefnu sgwrs dros y ffôn, ar amser sy’n gyfleus i chi, ac yn anfon pecyn gwybodaeth atoch.

Os ydych yn penderfynu parhau i wybod mwy am fod yn ofalwr maeth ar ôl ein sgwrs gychwynnol, mi fyddaf wedyn yn trefnu ymweliad i’ch cartref er mwyn dod i’ch adnabod chi, i egluro’r broses faethu i fwy o fanylder ac i weld sut gallai maethu fod yn rhan o’ch bywyd.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.