blog

cartref nawr ac am byth: maethu babanod a phlant hirdymor

Ar ôl blynyddoedd lawer yn gweithio mewn cartref plant, lle gwelodd yn uniongyrchol yr heriau sy’n wynebu plant, nid oedd maethu byth yn bell o feddwl Beth.

Aeth ymlaen i gymhwyso a gweithio fel gweithiwr cymdeithasol ond yn fuan canfu ei bod yn colli’r cysylltiad dyddiol, wyneb yn wyneb, â’r plant a oedd wedi ei hysbrydoli ar y dechrau.

Yn 2012, daeth yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Gwynedd, gan ddod â chydymdeimlad a phrofiad i bob plentyn yn ei gofal a chyflawni’r gwaith ystyrlon y mae hi bob amser wedi credu ynddo.

Nawr, mae ei chartref yn hafan ddiogel i’r rhai lleiaf sy’n cyrraedd – mae’n gofalu am fabanod ifanc yn wythnosau cynharaf eu bywyd – tra wrth wraidd y cartref mae plentyn deg oed bywiog a phlentyn bach dwy oed, sydd gyda hi yn hirdymor.

Foster carer smilling

dyma stori Beth…

ble dechreuodd: fy nghamau cyntaf i faethu

A young child's feet alongside an adult's foot in the sand

Fel gweithiwr llawn amser a gofalwr maeth sengl, dechreuodd Beth drwy gynnig seibiannau byr (gofal maeth ysbaid) i gefnogi gofalwyr maeth lleol eraill tra’n cydbwyso ei hymrwymiadau ei hun.

“Ar ôl tua blwyddyn o gael un bachgen bach yn dod ataf am seibiannau byr, gofynnwyd i mi a fyddwn i’n ei gymryd i mewn yn y tymor hir”, eglura Beth.

“Mi ddaliais ati i weithio’n llawn amser, ac mi wnaeth yr amseru weithio’n dda gan fod yr un bach yn dechrau’r ysgol pan ddaeth i fyw efo mi yn barhaol.

“Fy nghynllun hirdymor bob amser oedd canolbwyntio ar faethu yn unig, efo’r nod o gynnig cartref i un plentyn yn y tymor hir tra hefyd yn maethu babanod cyn eu mabwysiadu, ond roedd angen gwthio ychydig arnaf i gymryd y cam a rhoi’r gorau i weithio.

“Yna daeth COVID, ac fe roddodd bopeth mewn persbectif. Dwi’n cofio pan gaeodd yr ysgolion – gan fy mod i’n weithiwr allweddol, roedd yn rhaid i’r un bach ddal i fynd i’r ysgol efo plant y gweithwyr allweddol eraill. Mi es i â fo i mewn ar y diwrnod cyntaf hwnnw, gweld yr athrawon mewn PPE llawn, ac yna’r olwg ofnus ar ei wyneb a dwi’n cofio meddwl, ‘mae o angen bod adref efo fi’.

“Roedd yn teimlo fel yr amser iawn i gamu’n ôl a chanolbwyntio’n llawn arno fo a’n dyfodol efo’n gilydd. Cymerodd ychydig fisoedd wedyn i mi adael y gwaith, ond mae’n benderfyniad nad ydw i wedi ei ddifaru o gwbl.

“Ers imi orffen gwaith, mae o wedi dal i fyw efo fi, a dwi wedi gofalu am lawer o fabanod a phlant bach yn y tymor byr. Ar hyn o bryd mae gen i ddau o dan ddwy oed – mae un ohonyn nhw bellach efo fi yn y tymor hir.”

dwi ddim yn maethu ar fy mhen fy hun: rôl hanfodol cefnogaeth

Pan fyddwch chi’n maethu gyda’ch awdurdod lleol, bydd gennych dîm lleol yn eich cefnogi ac yn eich annog bob cam o’r ffordd fel nad ydych byth yn teimlo eich bod yn maethu ar eich pen eich hun, hyd yn oed os ydych chi’n ofalwr sengl.

“Dwi wedi bod yn ffodus i gael gweithwyr cymdeithasol mor gefnogol a thîm dibynadwy yn fy awdurdod lleol, yn fy nghefnogi trwy gydol fy nhaith faethu,” meddai Beth.

“Maen nhw’n wych, maen nhw’n lleol ac yn ymarferol iawn.

“Y diwrnod o’r blaen, tra oeddwn i’n cymryd rhan mewn gweminar, roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn edrych ar ôl fy nau ieuengaf.

“Maen nhw’n dîm creadigol sydd bob amser yn dod o hyd i atebion ymarferol pan fydd pethau’n mynd yn heriol yn logistaidd!”

maethu gyda chefnogaeth: rôl cymuned, ffrindiau a theulu

Mae cyfeillgarwch yn aml yn datblygu’n naturiol trwy faethu. Mae’r cysylltiadau hyn yn darparu cefnogaeth emosiynol werthfawr, cyngor ymarferol, ac ymdeimlad o gymuned, gan helpu gofalwyr maeth fel Beth i deimlo eu bod yn cael eu deall ac yn llai ynysig.

“Dwi’n mynd i’n grwpiau bore coffi arferol ac wedi dod yn ffrindiau efo gofalwyr maeth lleol eraill sy’n gofalu am blant tua’r un oed.

“Rydyn ni’n mynd i grwpiau babanod efo’n gilydd, yn cael coffi tra bod y plant yn chwarae, ac yn cefnogi ein gilydd – boed hynny drwy fenthyg offer babanod neu rannu cyngor. Mae gennym grŵp WhatsApp lle mae rhywun bob amser yn barod i helpu!”

“Er nad ydi fy rhieni yn byw wrth ymyl, maen nhw bob amser yn helpu pan fyddan nhw’n ymweld – maen nhw wrth eu bodd yn mynd â fy mhlentyn maeth hynaf allan am y dydd! Yn ystod gwyliau’r ysgol, rydyn ni’n mynd i aros efo nhw, ac maen nhw’n meddwl y byd o’r plant.

“Mae fy mam wrth ei bodd yn gwau cardigans i’r babanod! Rydyn ni’n mynd ar FaceTime bron bob dydd i gadw’r plant mewn cysylltiad efo nhw – maen nhw’n cymryd rôl neiniau a theidiau benthyg!

“Dwi hefyd yn ffodus i gael ffrindiau da sy’n camu i mewn i helpu pryd bynnag y mae arnaf i eu hangen. Maen nhw’n mwynhau cwtsio efo’r babanod yn arbennig, ond dwi’n gwybod bod sawl tro dros y blynyddoedd lle mae eu cefnogaeth ymarferol wedi gwneud bywyd gymaint yn haws. Mae’r plant wrth eu bodd yn treulio amser efo nhw hefyd ac yn eu gweld fel teulu estynedig.

“Er bod yn well gen i bwyso ar gefnogaeth gan ffrindiau a theulu yn hytrach na gofal ysbaid, dwi’n gwybod bod ysbaid ar gael a gall fod yn ddewis defnyddiol os oes arna i ei angen.”

datblygu ymlyniad rhy glos: pam mae’n bwysig

Baby holding an adult hand

Mae ymlyniad yn rhan hanfodol o faethu, gan ei fod yn helpu plant i deimlo’n ddiogel a theimlo bod ar bobl eu heisiau ar ôl profi ansicrwydd neu drawma. Mae adeiladu cysylltiadau cryf gyda gofalwyr maeth yn rhoi’r sefydlogrwydd emosiynol y mae ar blant ei angen i ddatblygu ymddiriedaeth a thyfu – er y gall ffarwelio fod yn un o’r adegau anoddaf i deulu maeth.

Mae Beth yn rhannu pam ei bod yn credu bod ymlyniad wrth galon gofal maeth.

“Mae hyn yn rhywbeth rydw i’n angerddol iawn amdano a’r prif reswm roeddwn i eisiau maethu babanod. Mae adeiladu ymlyniad cadarn efo nhw fel babanod newydd-anedig yn eu helpu i adeiladu perthnasoedd cadarnhaol trwy gydol eu bywydau. Mae mor bwysig.

“Mae’n emosiynol, wrth gwrs, oherwydd rydych chi’n ffurfio perthynas mor glos, ond maen nhw’n haeddu’r ymlyniad hwnnw. Dyna sut y dylai fod.

“Mae’n rhaid i chi fynd yr holl ffordd a syrthio mewn cariad efo nhw, eu meithrin fel eich plant eich hunan, a’u hamgylchynu efo’r cariad a’r gofal y mae pob plentyn yn ei haeddu.

“Wrth gwrs bod eich calon yn torri pan maen nhw’n gadael – petasai hynny ddim yn digwydd, fyddech chi ddim yn ei wneud yn iawn. Ond o’r cychwyn cyntaf, mae yna ddealltwriaeth ella mai dim ond am gyfnod byr y byddwch chi yn eu bywydau – ac mae’r rôl honno’n hynod o bwysig. Rydych chi’n helpu i’w paratoi nhw ar gyfer yr hyn sy’n dod nesaf.

“Mae’n brofiad chwerwfelys.

“Dwi wedi gweld babanod yn mynd ymlaen i gael eu mabwysiadu ac wedi adeiladu perthnasoedd gwych efo’u mabwysiadwyr. Mae gwylio’r babanod hynny yn trosglwyddo eu hymlyniad yn llwyddiannus a gweld y teuluoedd hynny yn tyfu ac yn setlo wedi bod yn wirioneddol hudolus.

“Dwi hefyd wedi gweld plant yn dychwelyd adref, sef y nod terfynol mewn maethu bob amser.

“Mae yna lawenydd gwirioneddol mewn gweld teuluoedd yn troi pethau o gwmpas ac yn dod yn ôl at ei gilydd.

“Mae pobl yn aml yn dweud na fydden nhw’n gallu maethu oherwydd na fydden nhw’n gallu rhoi’r plant yn ôl – ond dydyn nhw ddim i ni eu cadw. Ganddom ni mae’r fraint o garu a meithrin y rhai bach hyn am gyhyd ag y mae arnyn nhw ein hangen, ond yn aml dim ond rhan fach o’u stori nhw ydym ni. Ond fedrwch chi ddim dal yn ôl, oherwydd maen nhw’n haeddu eich cariad yn llwyr.”

“mae angen iddyn nhw wybod pa mor bwysig a gwerthfawr ydyn nhw, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig ddyddiau, wythnosau neu fisoedd mae hyn”

pan fydd babanod yn gadael: helpu fy mhlant maeth hirdymor i ddeall ac ymdopi

Gall maethu babanod ochr yn ochr â phlant maeth hirdymor hŷn ddod â rhai heriau emosiynol, yn enwedig pan mae’n bryd i’r babanod ddychwelyd i’w teuluoedd genedigol. Efallai y bydd plant hŷn yn teimlo’n ddryslyd neu’n ofidus, yn enwedig os nad ydyn nhw wedi gallu dychwelyd adref eu hunain – rhywbeth y mae Beth wedi’i weld gyda’i phlant maeth ei hun.

“Mae fy mhlentyn maeth hynaf, sy’n awtistig ac weithiau’n ei chael hi’n anodd deall rhai sefyllfaoedd, wedi gofyn cwestiynau fel, “Pam na allaf fi fynd adref?” neu “Pam na all fy mam i wneud hynny efo fi?” pan fydd yn gweld babanod yn dychwelyd i’w teuluoedd genedigol.

“A phan fydd babanod – yn enwedig y rhai sydd wedi bod efo ni ers amser maith – yn symud ymlaen i gael eu mabwysiadu, gall hefyd fod yn amser gofidus, yn aml yn arwain at bryderon y gallai o orfod gadael un diwrnod hefyd a mynd i fyw efo teulu newydd.

“Gall fod yn amser dryslyd ac emosiynol iddo fo. Wrth gwrs, mae o’n eu colli’n ofnadwy hefyd.

“Ond dwi’n cefnogi fy nau blentyn maeth tymor hir trwy eu helpu i ddeall bod taith pob plentyn yn wahanol, gan roi sicrwydd iddyn nhw bod eu lle yn fy nghartref yn ddiogel ac yn saff.

“Ac wrth i amser fynd heibio, gan fod yr hynaf wedi gweld babanod yn mynd a dod a nawr wedi gweld un arall yn ymuno efo ni “am byth”, mae o wedi dod i sylweddoli eu bod yma i aros – a’u bod bellach yn ‘frodyr’!”

rhianta mewn gofal maeth: deall effaith trawma

Mae plant sy’n mynd i ofal maeth wedi profi rhyw fath o drawma, hyd yn oed y babanod ieuengaf a gafodd eu gwahanu oddi wrth eu mamau ychydig ddyddiau ar ôl eu geni.

Oherwydd hyn, maen nhw angen agwedd wahanol at rianta, y mae Beth yn credu nad yw’n rhywbeth i’w ofni, ond yn rhywbeth i’w ddeall a’i werthfawrogi.

“Bydd yr hyfforddiant rydych chi’n ei dderbyn gan eich awdurdod lleol, sy’n llawn sesiynau rhyngweithiol efo cyd-ofalwyr maeth, yn eich arfogi i’w cefnogi’n effeithiol,” ychwanegodd. 

arferion sy’n gweithio: creu sefydlogrwydd i blant o bob oed

Mae arferion yn hanfodol i adeiladu sefydlogrwydd ac ymdeimlad o ddiogelwch mewn cartref gyda phlant maeth o wahanol oedrannau ac anghenion, gan roi cysur a chefnogaeth iddynt yn ystod cyfnodau o newid – rhywbeth y mae Beth yn ei ddeall yn llwyr.

“Trwy gael babanod ifanc a phlant hŷn yn fy mywyd, rydym ni’n dibynnu ar drefn arferol a chadw pethau fel y gellir eu rhagweld – yn enwedig gan fod y cysondeb hwn hyd yn oed yn bwysicach i blant efo awtistiaeth.

“Ond mae ein trefn arferol yn hyblyg pan mae angen, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol pan fyddwn ni’n addasu i gyflymder mwy hamddenol, ac rydw i bob amser yn edrych ymlaen at hynny – weithiau mae’n braf cael gwared ar y pwysau am ychydig!

“Dwi’n tueddu i gadw pethau’n syml yn ystod gwyliau’r ysgol trwy osgoi gormod o ddiwrnodau mawr allan, sy’n gallu bod yn ormod i blant maeth, ac yn hytrach canolbwyntio ar fwynhau eiliadau bob dydd efo’n gilydd.

“Ein cartref ydi eu lle diogel ac weithiau mae amser o ansawdd da efo’n gilydd heb ormod o bethau i dynnu sylw yr union beth y mae arnyn nhw ei angen.”

y rhan orau o faethu? yr eiliadau bach

Shadow of adult and young child holding hands

Wrth ystyried yr hyn sy’n gwneud maethu mor ystyrlon, mae llawer o ofalwyr maeth yn tynnu sylw at rywbeth syml ond pwerus – yr eiliadau bach sy’n dod â gwên a llawenydd. Fel y dywed Beth:

Yr hyn dwi’n ei garu fwyaf am faethu ydi gweld y plant yn ffynnu ac yn datblygu.

“Y cyflawniadau bach – fel eistedd wrth y bwrdd i fwynhau pryd cartref neu gerdded o gwmpas yr archfarchnad wrth ymyl y troli, yn hytrach na gorfod eistedd ynddo fo, neu pan fyddan nhw’n dod o hyd i lawenydd mewn rhywbeth newydd, neu’n darganfod sgil newydd – sy’n golygu fwyaf.

“ella bod yr eiliadau bob dydd yma yn ymddangos yn gyffredin i eraill, ond i blentyn maeth ac i minnau, maen nhw’n golygu popeth”

agor y drws: goresgyn rhwystrau i ddechrau maethu

Beth fyddai cyngor Beth?

“Os ydi maethu yn rhywbeth rydych chi’n teimlo’n angerddol amdano, dechreuwch drwy siarad efo’ch awdurdod lleol.  

“Cofiwch, ella nad ydi’r hyn rydych chi’n ei weld fel rhwystrau yn rhwystrau mewn gwirionedd – mae yna atebion fel arfer.

“Fel gofalwr maeth sengl sy’n gweithio’n llawn amser, dwi wedi gallu gwneud i faethu weithio’n llwyddiannus efo cefnogaeth fy nhîm awdurdod lleol yng Ngwynedd.

“Ac ar ôl gweithio fel gweithiwr cymdeithasol a deall y system, maethu efo fy awdurdod lleol yw’r unig ddewis y byddwn i’n ei ystyried.”

Foster carer holding a younb baby

allech chi faethu gyda’ch awdurdod lleol, fel Beth?

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn dod i gysylltiad efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.  

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.