stori

Dathlu ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth yng Ngwynedd

DROS y ddwy flynedd diwethaf, mae teuluoedd ar draws y wlad wedi dioddef yn enbyd oherwydd effaith y pandemig.

Gyda phobl yn methu â gweld eu hanwyliaid, ysgolion ar gau a dulliau cefnogi yn anodd eu cyrraedd, mae cymunedau ar draws Cymru wedi darganfod ffyrdd eraill o gefnogi’r naill a’r llall yn ystod y cyfnod mwyaf heriol hwn. Mae hyn hyd yn oed yn fwy perthnasol i deuluoedd sy’n maethu.

I dynnu sylw at y berthynas anhygoel sy’n bodoli yn y gymuned gofal maeth yng Ngwynedd, buom yn sgwrsio gyda grŵp clos o ofalwyr maeth yn y Bala, y daeth rhai ohonynt yn ofalwyr pan roedd y

pandemig ar ei anterth. Mae Sian, Esyllt, Angharad a Meleri (yn y llun, chwith i dde) yn siarad yn onest ac emosiynol am bwysigrwydd cefnogaeth eu cyd-ofalwyr yn ystod y cyfnodau clo, a’r plant a gyrhaeddodd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Penderfynodd Meleri, 29, agor ei chalon a’i chartref i ofalu am blant a phobl ifanc yn y deunaw mis diwethaf. Daeth Meleri yn ofalwr maeth gyda Maethu Cymru Gwynedd yn 2021.

“Cefais fy nghymeradwyo fel gofalwr maeth yn ystod y cyfnod clo, oedd yn golygu y gallwn ddarparu gofal ysbaid i ofalwyr maeth lleol eraill. Mae tîm Maethu Cymru Gwynedd wedi bod yno pryd bynnag oedd gen i unrhyw gwestiynau neu bryd bynnag yr oeddwn yn teimlo mod i angen cefnogaeth neu gael sgwrs ar ôl i blentyn adael.

“Byddwn yn annog pobl i faethu gyda’u hawdurdod lleol. Mae’r gefnogaeth yr ydych yn ei chael yn wych ac mae hefyd yn golygu bod y plant yn gallu aros yn eu cymunedau lleol, a dyma yr ydym ei angen i bob plentyn.”

Yn y cyfamser, mae Sian wedi bod yn ofalwr maeth profiadol ers 19 mlynedd. Ar y cyd â thîm Maethu Cymru Gwynedd, mae Sian bellach yn cefnogi gofalwyr maeth newydd yn yr ardal leol.

“Yma yn y Bala, rydym yn lwcus i gael grŵp mor rhyfeddol o ofalwyr maeth yn yr ardal. Pob un o wahanol oedran, rhai yn gwneud ysbaid, ac eraill yn ei wneud yn llawn amser. Mae’r cwbl yn ymwneud â chael grŵp o wahanol bobl gyda set sgiliau gwahanol. Dwi wirioneddol yn teimlo fod hynny gennym yn Bala ac os ydych yn frwdfrydig, gallwch danio brwdfrydedd ymhlith eraill hefyd.

“Yn ystod y pandemig, daeth y gymuned honno o ofalwyr maeth eraill o’ch cwmpas hyd yn oed yn bwysicach. Fel grŵp o ffrindiau, fe wnaethom wirioneddol gamu i’r bwlch.

“Un o’r pethau gorau am fod yn ofalwr maeth yn Bala yw bod y plant â’u traed ar y ddaear ac yn teimlo’n rhan o’r gymuned, a bod ganddynt bobl yn edrych ar eu holau. Mae hynny’n eu helpu i deimlo’n fwy diogel ac mae’n helpu gyda’u datblygiad. Mae hefyd yn eu helpu i dyfu fel aelodau cyfrifol o’r gymuned. Rydym i gyd eisiau teimlo ein bod yn perthyn, a’n bod yn perthyn i rywbeth.”

Mae Angharad yn siarad yn emosiynol am y diwrnod pan gyrhaeddodd plentyn yn ystod y cyfnod clo: “Daeth merch i aros gyda ni. Roedd hi’n ganol gaeaf a doedd ganddi hi ddim sgidiau a dim ond cot ysgafn, druan. Doedden ni ddim yn gwybod ei bod hi’n dod tan y prynhawn ‘na, felly anfonais i neges WhatsApp gyflym at y Gofalwyr Maeth lleol eraill yn gofyn, ‘Oes gan unrhyw un unrhyw beth?’, oherwydd pedwar bachgen sydd gennym ni. Erbyn iddi gyrraedd, roedd gennym ni ddillad gwely blodeuog iddi, tedis My Little Pony, pyjamas, brwshys dannedd a dillad. Roedd ei hystafell hi’n barod a gwnaeth y profiad i ni sylweddoli bod cael y gymuned ‘na o ofalwyr maeth o’n cwmpas ni yn gymaint o fendith.”

Ychwanegodd Esyllt: “Nid wyf erioed wedi teimlo’n unig wrth faethu. Mae rhywun bob amser yno i chi.”

I wylio’r stori yn llawn:

Maethu Cymru | Cymunedau Maethu | Bala Gogledd Cymru – YouTube

I ddarganfod sut allwch chi faethu yng Ngwynedd, cysylltwch â ni i drefnu sgwrs gydag aelod o’n tîm ymroddedig.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.