stori

“Roedd fy nheulu maeth yn golygu popeth i mi, ac maent yn dal i fod”

Gwraig o Wynedd yn ceisio ysbrydoli darpar ofalwyr maeth gyda’i stori bersonol

Mae gwraig ifanc wedi siarad am sut y gwnaeth teulu maeth newid ei bywyd yn ei harddegau ac wedi iddi ddod yn oedolyn, gan annog eraill i ystyried rhoi eu henwau ymlaen fel darpar ofalwyr maeth.   

Mae Jenna – sydd bellach yn astudio am ei gradd a newydd ddod yn fam ei hun – wedi siarad fel rhan o ymgyrch Maethu Cymru Gwynedd i fynd i’r afael â rhai o’r camsyniadau am faethu, yn enwedig maethu pobl ifanc yn eu harddegau.

Mae angen brys yng Nghymru am fwy o ofalwyr maeth i edrych ar ôl plant o bob oed ond mae’r galw am deuluoedd sy’n gallu cynnig cartref diogel a chariadus i bobl ifanc yn eu harddegau yn fwy difrifol.

Aeth Jenna i fyw gyda’i theulu maeth yng Ngwynedd pan oedd yn 15 oed ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i phlentyndod mewn gofal.  Erbyn hyn, mae hi yn 23 oed ac yn parhau i fod yn agos gyda’i theulu maeth ac mae eisiau rhannu’r effaith bositif a gafodd ei theulu maeth ar ei bywyd yn y gobaith y gall hyn ysbrydoli eraill i ystyried dod yn ofalwyr maeth.

“Roedd fy nheulu maeth yn golygu popeth i mi, ac maent yn dal i fod,” meddai Jenna, sydd wedi llunio perthynas oes gyda’r teulu. “Roedd yna ymdeimlad o berthyn a’u bod wir fy eisiau, doeddwn i erioed wedi profi hynny o’r blaen.  Dewisodd fy ngofalwyr maeth fy nghroesawu i’w cartref ac i mi fod yn rhan o’u teulu.

“Am y tro cyntaf erioed, roeddwn yn teimlo yn rhan o ddeinameg y teulu, roedd hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi bod ei eisiau ar hyd fy mywyd. Cael rhieni oedd yn fy nhrin fel eu merch. Cael perthnasau gyda brodyr a chwiorydd am y tro cyntaf – er na fu hi fawr o dro nes i ni ddechrau ffraeo fel brodyr a chwiorydd! ⁠ ⁠ ⁠

“Ond roedd yn teimlo’n normal ac yn naturiol. ‘Roeddwn i wir yn hapus. Yn hapusach nag yr oeddwn erioed wedi bod o’r blaen.  ⁠ ⁠

“Fel plentyn a dyfodd i fyny mewn gofal, roeddwn i wastad wedi meddwl unwaith y byddwn yn ddeunaw oed, mai dyna fyddai diwedd y gwasanaeth. Mi fyddwn i wedyn ar ben fy hun. Dyna’r syniad oedd gen i o sut roedd pethau’n gweithio.  ⁠ ⁠

“Ond fe wnaeth fy rhieni maeth fy sicrhau y byddent wastad yno i mi. Roeddwn yn fwy na dim ond yn rhan o’r system ac roedd hynny yn deimlad mor braf a chynnes.”  ⁠

Bu Jenna yn byw gyda’i nain a’i thaid o pan roedd yn saith oed. Roedd dod o hyd i deulu maeth lleol yn bwysig iawn iddi fel ei bod yn gallu aros yn agos atynt a pharhau yn ei hysgol i gwblhau ei harholiadau TGAU. ⁠

“Mae fy mherthynas gyda Taid a Nain wedi gwella ers i mi fynd i fyw at fy nheulu maeth,” ychwanegodd Jenna.  “Mae gennym y lle a’r cyfnod i fod ar wahân, ond rydym yn ddigon agos i fynd i weld ein gilydd a chyfarfod yn rheolaidd.  Mae gen i berthynas hyfryd efo Taid a Nain rŵan, a dyna sut y dylai pethau fod. ⁠ ⁠ ⁠

“Pan dwi’n edrych yn ôl ar yr amser pan ddois i fyw am y tro cyntaf at fy rhieni maeth, dwi’n sylweddoli cymaint yr ydw i wedi newid. Doedd gen i ddim hyder ac roeddwn yn ansicr iawn. Doedd bod yn 15 oed ddim yn hwyl, i mi na fy ngofalwyr maeth, a tydi pethau ddim wastad wedi bod yn hawdd. Ond roeddent yn credu ynof i gan wneud i mi gredu y gallwn gyflawni unrhyw beth yn fy mywyd.⁠ ⁠ ⁠ ⁠

“Wnes i erioed feddwl y gallai rhywun fel fi fynd i’r Brifysgol, ond fe wnaeth cael teulu cadarn a chefnogaeth yn gefn i mi roi’r hyder i mi wneud hynny.

“Mi faswn i’n deud wrth unrhyw un sy’n ystyried maethu, ond ddim yn sicr, i o leiaf roi tro arni. Bydd unrhyw beth y gallwch ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth i fywyd person ifanc, pa bynnag mor fach y gallai hynny fod. Dydw i ddim hyd yn oed eisiau meddwl sut fath o berson faswn i rŵan taswn i heb gael gofal maeth. Dwi’n fythol ddiolchgar i fy nheulu maeth.”  ⁠ ⁠ ⁠ 

⁠Yng Ngwynedd mae mwy na 280 o blant yng ngofal yr awdurdod lleol, gyda 13 o blant ar hyn o bryd yn aros am gartref maeth ac mae wyth ohonynt yn 11 oed neu’n hŷn.  

Mae Maethu Cymru Gwynedd yn awyddus i ddod o hyd i fwy o deuluoedd a fedrai helpu’r bobl ifanc fregus yma – yn cynnwys plant gydag anghenion mwy cymhleth, fel Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth (ASC) – drwy gynnig cartref iddynt lle y gallant ddatblygu a chael y cyfle gorau i gael dyfodol llwyddiannus. 

Wrth faethu drwy Gyngor Gwynedd, mae plant a phobl ifanc lleol yn fwy tebygol o aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o’r teulu maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw. Gall hyn roi rhywfaint o sefydlogrwydd iddynt a’u helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth.  ⁠

Ychwanegodd Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Elin Walker Jones:

“Un o’r prif heriau wrth recriwtio gofalwyr maeth yw dod o hyd i rai sydd â’r sgiliau i arbenigo mewn maethu pobl ifanc ag anghenion mwy cymhleth. Mae’r rhai sydd â chefndir yn y maes hwn yn allweddol i sicrhau bod gan ein plant mwyaf bregus gartref lle gallant ddatblygu a ffynnu. ⁠

Byddai cronfa ehangach o ofalwyr maeth gyda sgiliau a nodweddion gwahanol yn golygu ei bod yn fwy tebygol y gellid dod o hyd i’r cartrefi cywir i’r plant y tro cyntaf, gan roi’r cyfle gorau iddynt gael dyfodol llwyddiannus heb iddynt orfod symud i ffwrdd o’u cymuned leol.”   

“Mae ein gofalwyr maeth yn derbyn cefnogaeth anhygoel gan dîm maethu ymroddedig, ynghyd â chyngor a chefnogaeth gan dimau arbenigol i’w helpu i ddiwallu anghenion ein plant a’n pobl ifanc yng Ngwynedd.” ⁠

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda eich awdurdod lleol yng Ngwynedd, neu i wneud ymholiad, ewch i: 

Cysylltwch â ni – maethu cymru gwynedd (llyw.cymru)

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.