stori

Dathlu 40 mlynedd o faethu

Mae Janet a Gareth wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol yng Ngwynedd ers dros 40 mlynedd.

Roeddent ymhlith y gofalwyr maeth cyntaf i gael eu cymeradwyo gan Gyngor Gwynedd yn 1981.

Mae Janet a Gareth, ynghyd â’u plant, Andi, Haf, Sion a Nia, wedi agor eu calonnau a’u cartrefi i blant o bob oed yn ystod eu cyfnod fel teulu maeth ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc lleol, na allent, am ba bynnag reswm, fyw gyda’u teuluoedd eu hunain.

“Gobeithio, fel teulu, ein bod ni wedi rhoi rhywfaint o sefydlogrwydd, sgiliau bywyd a’r gallu i ymddiried i’r plant a’r bobl ifanc hyn,” meddai Janet, a ddaeth i faes maethu ar ôl camu i fyny i helpu mam leol drwy ofalu am ei phlentyn ifanc tra roedd hi yn yr ysbyty.

“Drwy ddod yma, maen nhw wedi cael lle i fyw,” ychwanegodd Janet. “Mae’n gartref. Mae’n normal, mae’n swnllyd ac yn aml mae yna anhrefn, fel mewn unrhyw gartref teuluol! Ond yn ogystal â rhoi cartref iddyn nhw, rydyn ni wedi rhoi ein hamser iddyn nhw, sydd mor bwysig. Rydyn ni wedi gwrando arnyn nhw, wedi bod yn amyneddgar gyda nhw, wedi bod yno iddyn nhw, a dydyn ni erioed wedi eu barnu.”

Mae Janet hefyd wedi mentora gofalwyr maeth lleol eraill ac wedi helpu i hyfforddi gofalwyr maeth sydd newydd eu cymeradwyo. Mae hi wedi ymgyrchu yn y Senedd, siarad mewn cynadleddau, trefnu digwyddiadau, mynychu grwpiau cynghori a gwneud beth bynnag oedd ei angen i hyrwyddo rôl gofalwyr maeth awdurdodau lleol a gwella bywydau plant mewn gofal.

 “Rydyn ni’n teimlo’n hynod lwcus ein bod ni, fel teulu, wedi cael y plant a’r bobl ifanc hyn yn ein bywydau, ac yn dal yn ein bywydau heddiw,” ychwanegodd Gareth. “Mae cymaint o uchafbwyntiau ac atgofion wedi bod, o’r tro cyntaf iddyn nhw wenu, i’w gweld yn cyflawni yn eu haddysg, i gael gwahoddiad i’w priodasau a bod yn rhan o fywydau eu plant eu hunain.”

“Wrth gwrs, mae maethu yn dod gyda’i heriau ac ni fyddem wedi gallu gwneud hyn heb gefnogaeth ac arweiniad gwych ein tîm Maethu Cymru Gwynedd a Gofalwyr Maeth eraill yma yng Ngwynedd. Nid ydym erioed wedi teimlo’n unig wrth faethu, rydym bob amser wedi teimlo’n rhan o dîm, ac rydym bob amser wedi teimlo ein bod yn cael ein gwerthfawrogi a’n parchu. Ar ddiwedd y dydd, mae gennym ni i gyd yr un nod – gwneud y gorau dros y plant yn ein gofal.”

“Mae maethu wedi newid ein bywydau fel teulu yn llwyr, ac am hynny, rydyn ni mor ddiolchgar,” cytunodd Janet a Gareth.

I ddarganfod mwy am ddod yn Ofalwr Maeth yng Ngwynedd, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Gwynedd ar 01286 682660.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.