blog

Beth rydym ei angen fel gofalwyr maeth – ffydd, hyblygrwydd a theulu

Mae Vicky a’i gŵr Martin wedi bod yn maethu gyda eu hawdurdod lleol Maethu Cymru Gwynedd ers 2016.  Yn ystod yr amser maent wedi bod yn ofalwyr maeth, maent wedi chwarae rhan allweddol i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i’r plant maent wedi gofalu amdanynt gan weld plant yn dychwelyd at eu rhieni genedigol a babi yn mynd ymlaen i gael ei fabwysiadu. 

Maent bellach yn darparu cartref sefydlog a chariadus i ddau blentyn maeth, 11 a 6 oed, ar sail hirdymor, ac yn ddiweddar mae’r teulu wedi croesawu babi maeth newydd-anedig i’w cartref.

Mae Vicky yn rhannu ei stori am sut y dechreuodd popeth a sut mae eu ffydd a’r teuluoedd wedi chwarae rhan mor hanfodol yn y siwrnai faethu. 

Roeddwn yn gwybod fy mod i eisiau bod yn ofalwr maeth – un diwrnod

Dechreuodd diddordeb Vicky mewn gofal maeth pan fu’n gweithio i raglen Dechrau’n Deg, menter ariannwyd gan y llywodraeth i gefnogi teuluoedd gyda phlant ifanc dan bedair oed.   

“Bryd hynny roeddwn yn gweithio gyda lot o ofalwyr maeth, ac roeddwn yn eu hedmygu yn arw,” meddai Vicky. “Roedd gen i gymaint o barch iddynt a pha mor ymrwymedig oeddynt i’r plant, roeddent yn toddi nghalon. Mi wyddwn yn reit gynnar yn fy ngyrfa mod i eisiau bod yn ofalwr maeth un diwrnod. Roedd yn rhan o gynllun fy mywyd.

Y tro cyntaf i mi gyfarfod Martin, roeddwn yn agored ac onest o’r dechrau am fy nymuniad i fod yn ofalwr maeth, pe byddem yn cael plant ein hunain ai peidio. Yn lwcus iawn roedd yn rhannu fy ngweledigaeth ac roedd ganddo brofiad cadarnhaol iawn o faethu ar ôl tyfu i fyny gyda ffrindiau oedd yn derbyn gofal maeth.  Roedd wedi arfer gweld plant yn mynd a dod a gwneud ffrindiau newydd.”

Fel Cristnogion roedd arwyddion gan Dduw o’n hamgylch i gyd

Ychydig ar ôl i Vicky a Martin ddyweddïo, symudodd Vicky i Fangor, o Aberdâr i ymuno â’i gŵr sy’n Ficer, a dechrau gweithio i Action for Children, gan weithio gyda theuluoedd a phlant bregus ar drothwy gofal.  

“Wnes i sylweddoli fwy fwy y gallwn fod yn ofalwr maeth ac roeddwn eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau y plant yma. Mi ges i fagwraeth hyfryd yn blentyn ac roeddwn eisiau rhoi yn ôl yr hyn a brofais fel plentyn i rai llai ffodus.  

Pan aeth fy nghytundeb gyda Action for Children yn rhan amser yn 2015, dyna oedd yr amser iawn i edrych o ddifrif ar ddod yn ofalwyr maeth a dechrau’r broses.

Tua’r amser yma hefyd fe wnes i ddarllen erthygl ysbrydoledig am ofalwyr maeth lleol ac fe wnaeth hyn ennyn fy niddordeb eto.  Ar ôl darllen hyn roedd arwyddion ymhobman – roedd maethu yn dod atom o sawl cyfeiriad gwahanol, fel hyn oedd pethau i fod ar yr adeg honno yn ein bywydau. 

Roedd Martin yn astudio Diwinyddiaeth yng Nghadeirlan Lerpwl ar y pryd a dwi’n cofio ei ffonio pan roedd yng Ngorsaf Drenau Lerpwl, ac fel yr oeddem yn siarad am faethu, edrychodd i fyny a gweld poster enfawr yn edrych arno yn gofyn ‘Could you foster?’, a dywedodd ‘Gallaf’.   

I ni fel Cristnogion, roedd arwyddion gan Dduw y dylem edrych ar hyn. Lle bynnag yr oeddem yn troi roedd yna rywbeth oedd yn ymwneud â maethu.  Roedd hyn wedi bod yn cnocio’r drws am gryn amser!  Felly dyma fentro, cofrestru gyda Chyngor Gwynedd fod gennym ddiddordeb a dyna gychwyn ar ein siwrnai i faethu!” 

Mae yna reswm pam ei bod yn broses ymwthiol

Cymeradwywyd Vicky a Martin fel Gofalwyr Maeth ym mis Mawrth 2016 a phenderfynodd Vicky adael ei swydd i ganolbwyntio ar faethu, er bod y ddau wedi ymroi gyda’i gilydd.   

“Mae’r broses asesu yn ddwys iawn ac heb os yn eich profi, ond mae yna reswm dros hyn a mi wnaethom ei dderbyn am yr hyn ydoedd.  Roedd yn drylwyr iawn ac roedd ein gweithwyr cymdeithasol wedi dod i’n nabod ni yn dda erbyn diwedd y broses asesu, a dyma oedd diben hyn i gyd.”  

Yr alwad gyntaf …

Gall agor eich cartref i’r plentyn maeth cyntaf fod yn gyffrous iawn, ond hefyd yn arswydus.   Roedd yn naid i’r annisgwyl i Vicky a Martin ac fe olygodd addasu o fod yn gwpl i fod yn rieni maeth i ddau blentyn ifanc – dros nos! 

“Ychydig ar ôl i ni gael ein cymeradwyo fel gofalwyr maeth, cawsom alwad ffôn un bore i ddweud fod dwy chwaer ifanc yn dod i aros efo ni y p’nawn hwnnw!  I fod yn onest – roedd yn frawychus ac am y mis cyntaf wnaeth fy nhraed ddim cyffwrdd â’r llawr!  Wrth edrych yn ôl ar yr adeg honno, dwi’n credu mod i’n byw ar adrenalin. 

Ond fe wnaeth y ddwy ferch fach addasu ar unwaith, cefais fy llorio pa mor wydn yr oeddent. Mi wnaethant fwrw iddi!  Mi wnaethom ni roi trefn a chysondeb yn ei lle iddynt o’r dechrau ac roedd gennym berthynas agos gyda eu mam genedigol drwy’r amser yr oeddent efo ni.” 

Mae angen bod yn hyblyg

Mae maethu yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i blant yn eich cymuned leol.  Mae’n golygu pethau gwahanol – o aros dros nos i rywbeth mwy hirdymor. Mae angen pobl efo cefndiroedd gwahanol, sgiliau a phrofiadau. Felly ym marn Vicky beth yw’r sgiliau a’r nodweddion personol sydd yn hanfodol i lwyddo wrth faethu ac i helpu eraill benderfynu os yw bywyd fel gofalwr maeth yn addas iddynt?

“Dwi’n meddwl mai un o’r prif bethau sydd ei angen yw bod yn hyblyg gan fod pethau yn newid drwy’r amser wrth faethu.  Byddwch yn profi sefyllfaoedd annisgwyl ac felly mae angen i chi beidio â chynhyrfu, hyd yn oed os ydych yn crio tu fewn!  

Mae hefyd angen i chi fod yn amyneddgar a charedig ac wrth eich bodd gyda phlant, ac mae angen i chi roi eich hamser iddynt.”   

Dylech gael rwtîn yn ei lle o’r diwrnod cyntaf 

“Fy nghyngor mwyaf yw cael trefn yn ei lle ar unwaith, o’r diwrnod cyntaf, a glynu at hynny – prydau bwyd ar amser penodol, amser cael bath, amser stori, amser gwely.  Nid yw’r plant yma erioed wedi cael cysondeb yn eu bywydau o’r blaen.  Maent angen patrwm ac i deimlo eu bod mewn lle diogel, heb orfod poeni pryd fyddant yn cael eu pryd bwyd nesaf. 

Rwyf yn glynu at drefn, hyd yn oed ar y penwythnos, o leiaf am y flwyddyn gyntaf.  Wrth gwrs fel maent yn setlo ac yn mynd yn hŷn, byddwn yn gadael iddynt aros i fyny yn hwyrach ar benwythnosau, ond yn ystod y dyddiau cynnar mae trefn a phatrwm mor bwysig.”    

Nid ein plant ni i’w cadw ydynt, ond yn rai i ni eu trysori.  

Gall maethu ddarparu cartref parhaol i rai plant, ond mae rhai plant yn symud ymlaen – yn ôl at eu teuluoedd genedigol neu i gael eu mabwysiadu.  Un agwedd o faethu yw dweud ffarwel wrth blentyn maeth a gall hyn fod yn anodd i lawer o bobl ond fel mae Vicky yn egluro, mae pawb yn dod o hyd i’w ffordd eu hunain o ymdopi.

“Tydi dweud ffarwel yn mynd yn ddim haws, ac mae pob plentyn sy’n gadael yn mynd ag ychydig o’ch calon chi gyda nhw.  Rydych yn buddsoddi popeth yn y plant yma a byddant bob amser yn rhan ohonoch ac rydych yn rhan o’u siwrnai.  

Mae’n brifo a dwi’n beichio crio pan maent yn gadael ond nid yw unrhyw blentyn yn blentyn i chi am byth, os ydynt yn blant i chi neu beidio. Maent yn gwneud eu llwybr eu hunain mewn bywyd. 

Nid ein plant ni i’w cadw ydynt, ond yn rai i ni eu trysori.  

Pan fo pobl yn dweud na fedrent faethu gan na fedrent adael iddynt fynd, dwi bob amser yn ceisio egluro ein bod wedi bod yn rhan bwysig o’u siwrnai a’u bod wedi cael canlyniad gwell nac y gallem erioed wedi ei ddychmygu. 

Fedrai ddim bod yn drist wrth weld plant yn ail-ymuno gyda’u teuluoedd.  Mae bob amser nod yn y diwedd, a dyna beth yw maethu mewn gwirionedd. 

Wrth gwrs, dwi yn eu colli, ond mae’n rhaid i chi anghofio amdanoch chi eich hun a’ch teimladau gan ganolbwyntio ar beth sydd orau i’r plant a’u dyfodol.

Fy ffordd i o ymdopi efo’r golled yw glanhau’r tŷ yn drylwyr!  Dwi’n rhoi cerddoriaeth ymlaen ac yn crio wrth lanhau!  Neu weithiau byddwn yn mynd i ffwrdd ar wyliau bach.  Mae’n rhaid i chi ymdopi yn eich ffordd eich hun.”  

Byddwn wastad yno iddynt

Yn ôl y Rhwydwaith Maethu, gall cynnal perthnasau da gyda chyn ofalwyr maeth fod yn bwysicach na dim byd arall i blant sydd wedi bod mewn gofal. Mae angen i blant ddeall eu gorffennol ac adeiladu hyder yn eu gallu i gynnal perthnasau yn y dyfodol. 

“Pan fo hi’n bosib byddwn yn cadw mewn cysylltiad gyda’r plant sydd wedi mynd a dod yma.  Mae ein lefel cyswllt gyda hwy yn amrywio, ond mae hyn yn bennaf o bellter drwy negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol, lluniau a chardiau pen-blwydd. 

Rydym yn dal i weld y babi a aeth ymlaen i gael ei fabwysiadu ac mae ganddo fywyd gwych, sy’n braf iawn i’w weld.

Rydym wedi bod yn rhan fawr o fywydau’r plant hyn ac felly mae hi wastad mor braf gweld sut maent yn datblygu ac yn cynyddu. Mae’r teuluoedd mor ddiolchgar am yr hyn a wnaethom i’w plant ac maent yn gwybod ein bod yn dal o gwmpas os ydynt ein hangen.”

Cerdded milltir yn eu hesgidiau gan beidio beirniadu

Ym Maethu Cymru, rydym yn croesawu gofalwyr maeth o bob ffydd ac ethnigrwydd ac rydym yn falch i ddathlu amrywiaeth ein gofalwyr maeth a’r sgiliau a’r profiadau a gynigir ganddynt.   

“Fel Cristnogion rydym yn cael ein dysgu i beidio barnu, ac fel gofalwyr maeth, mae gennym gydymdeimlad gyda’r rhieni genedigol.  Ni fedrwch fyth ddeall profiad unigolyn arall tan eich bod wedi cerdded milltir yn eu hesgidiau.

Nid ydym byth yn gwthio ein crefydd ar y plant, mae yn plethu fewn i’r ffordd yr ydym yn magu’r plant i fod yn garedig, yn ofalgar a chariadus, gan drin pobl eraill yn y ffordd maent hwy eisiau cael eu trin.  Rydym bob amser yn agored am ein crefydd gyda’r rhieni genedigol gan ofyn am eu caniatâd i fynd â’r plant i’r eglwys.  Byddwn yn parchu eu dymuniadau – pa bynnag ffordd, er nad yw hyn erioed wedi bod yn broblem, eto.  

Rydym yn dweud gweddïau gyda’r plant amser gwely gan fod hyn yn ffordd hyfryd i orffen y dydd yn fwy na dim – i adlewyrchu ar y diwrnod ac i fod yn ddiolchgar am yr amser yr ydym wedi ei gael gyda’n gilydd, ac i feddwl am bobl sy’n llai ffodus na ni.” 

Rhwydwaith gefnogi ardderchog o’n cwmpas

Gall cael mynediad i’w rhwydweithiau cefnogi personol sy’n cynnwys teulu, ffrindiau a drwy gysylltiadau cymunedol lleol fod yn wirioneddol bwysig i ofalwyr maeth, ac mae hyn yn rhywbeth mae Vicky yn awyddus i’w gydnabod.  

“Rydym wastad wedi cael y gefnogaeth yr ydym ei hangen gan ein tîm yng Ngwynedd.  Nid wyf wedi bod ag ofn gofyn erioed am help pan fo angen, a byddaf bob amser yn siarad drosom fel gofalwyr maeth a dros y plant sydd yn ein gofal. Yn y pendraw mae’n rhaid i chi fod yn eiriolydd.  

Nid yw hyn yn unig am y gefnogaeth a gewch gan y tîm maethu, mae am wneud ffrindiau gyda gofalwyr maeth eraill hefyd.  Cyfarfod gyda gofalwyr maeth eraill am goffi a gallu siarad yn onest am beth sy’n digwydd a chefnogi ein gilydd.  Mae cael cysylltiad da gyda gofalwyr maeth eraill yn hanfodol. 

Mae hefyd yn fwy na dim ond amdanom ni fel gofalwyr maeth.   Mae ein teulu cyfan wedi agor eu breichiau a’u calonnau i’r plant yr ydym yn eu maethu, gan eu trin fel unrhyw aelod arall o’r teulu.  

Maent yno ar eu penblwyddi.  Maent yno adeg y Nadolig.  Maent yno i wneud pethau hyfryd gyda nhw.

Mae hefyd yn golygu nad ydym byth yn anfon ein plant maethu i ofal ysbaid gan fod gennym rwydwaith gefnogi o’n cwmpas. Mae’r plant yn cael teulu estynedig cyfan, nid dim ond ni fel eu gofalwyr maeth. 

Heb gefnogaeth wych ein teulu, ni fyddai mor hawdd ac mae yn wirioneddol bwysig ein bod yn cydnabod teuluoedd gofalwyr maeth hefyd – o’r neiniau a’r teidiau i’r modryb a’r ewyrthod, brodyr a chwiorydd.” 

Eu gweld yn ffynnu

Fel gyda’r rhan fwyaf o bethau a wnawn mewn bywyd, mae uchafbwyntiau ac iselbwyntiau mewn maethu.  Gall fod heriau a rhwystredigaeth ar y ffordd, ond hefyd mae adegau anhygoel o hapusrwydd a llwyddiant.

“Y prif uchelbwyntiau i mi yw gweld y plant yn cyrraedd cerrig milltir gan ddatblygu eu personoliaeth eu hunain.  Eu gweld yn tyfu yn hyderus unwaith fo eu hanghenion sylfaenol wedi eu diwallu.

Y trawsnewid hwnnw o’r plentyn ofnus, diamddiffyn sydd heb gael gofal sydd wedyn yn ffynnu unwaith fod ganddynt gysondeb, terfynau a rwtîn da adref.

Eu gweld yn mynd i’r ysgol a gwneud ffrindiau newydd.  Eu gwylio yn dysgu sut i reidio eu beics.  Eu gweld yn hapus ac yn gyffyrddus yn eu croen eu hunain.

Dwi yn un o’r rhieni hynny sy’n crio mewn cyngherddau ysgol gan fy mod i mor falch ohonynt.  Dwi’n mynd yn emosiynol bob tro pan welaf beth maent wedi’i gyflawni.”

Teulu ‘i-dot’

“Mae ein merch maeth wedi ein henwi fel y teulu ‘i-dot’ gan fod gennym ni gyd ‘i-dot’ yn ein henwau, gan gynnwys ein ci, Alfie. Mae hi hyd yn oed wedi dewis enwau gydag ‘i-dot’ ar gyfer ei doliau!

Er fod gennym ni gyd gyfenwau gwahanol, rydym wedi dod at ein gilydd fel y Teulu ‘i-dot’, sydd yn hyfryd.  

Rydym mor ffodus i fod yn rhan o fywydau’r plant yma. Mae nhw mor werthfawr.”

Allwch chi faethu gyda eich awdurdod lleol? 

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn dod i gysylltiad efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw orfodaeth i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.   

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.