stori

Jake: bydd y Bala wastad yn gartref i mi – diolch i fy ngofalwyr maeth

P’un ai’n mynd i ffwrdd i’r brifysgol neu i ddechrau swydd newydd, gall gadael cartref am y tro cyntaf fod yn amser cyffrous ond brawychus i unrhyw berson ifanc. Fodd bynnag, i blant sydd wedi tyfu i fyny mewn gofal maeth gall y broses o adael cartref deimlo’n eithaf gwahanol.

Mae cael cefnogaeth emosiynol a chysylltiad ag aelodau’r teulu i gamu’n araf i fyw fel oedolyn a byw’n annibynnol yn bwysig, ond mae’n rhaid i lawer o blant maeth ei wneud ar eu pen eu hunain, heb gyswllt gyda rhieni a’r cartref teuluol.

Treuliodd Jake (cyntaf ar y chwith yn y llun uchod) o Wynedd y rhan fwyaf o’i blentyndod mewn gofal maeth – o 8 oed hyd at 18 oed.

Mae Jake, sydd bellach yn 26 oed, wedi siarad am yr effaith mae teulu maeth lleol o’r Bala wedi ei gael ar ei fywyd.

Mae’n rhannu ei brofiad o adael gofal maeth a pharatoi ar gyfer bod yn oedolyn, a sut mae’n parhau i fod yn agos at ei ofalwyr maeth.

“Nid yw bywyd mewn gofal maeth bob amser yn hawdd, yn enwedig fel plentyn ifanc, ond mae hynny oherwydd y sefyllfa gymhleth, nid y gofalwyr maeth,” meddai Jake, sydd bellach yn byw yn Lerpwl ac yn gweithio fel Hyfforddwr Personol.⁠ ⁠

“Ond wrth i chi fynd yn hŷn, rydych chi’n ei werthfawrogi’n fwy ac mae llawer mwy o uchafbwyntiau nag sydd o isafbwyntiau.” 

“Pan o’n i’n 18 oed ac ar fin mynd i’r brifysgol yn Lerpwl, dwi’n cofio teimlo’n eitha’ gofidus am y posibilrwydd na fyddai gen i unman i fynd yn ystod y gwyliau a dim teulu i fy nghefnogi bellach. Roedd hynny’n anodd ar y pryd gan nad oedd yn rhywbeth roeddwn i wedi meddwl amdano o’r blaen.”

“Er fy mod i’n oedolyn ac yn mynd i ffwrdd i’r brifysgol, doeddwn i ddim yn barod i fod yn gwbl annibynnol – oes unrhyw un yn yr oedran hwnnw?

beth sy’n digwydd ar ôl 18 oed?

Er bod plant yn swyddogol yn troi’n oedolyn yn 18 oed, ac nad ydynt mewn gofal mwyach, mae yna opsiynau i bobl ifanc aros gyda’u gofalwr maeth presennol.

I lawer o bobl ifanc, cynigir cynllun a elwir yn Pan Fydda i’n Barod, lle gall y person ifanc aros gyda’i ofalwr maeth nes ei fod yn 21 oed, a hyd yn oed wedyn nid yw’r gefnogaeth yn dod i ben nes iddynt gyrraedd 25 oed. Mae hyn yn rhoi cyfle i’n pobl ifanc fynd i’r coleg, prifysgol neu ddod o hyd i waith a bod yn barod ar gyfer annibyniaeth, a bod yn debycach i’w cyfoedion.

Er nad yw hyn yn bosibl i bob person ifanc, oherwydd ffactorau fel gofod byw, oedran neu iechyd gofalwyr maeth neu barhau i faethu plant eraill yn y cartref, mae llawer yn parhau i fod â pherthynas gyda’u gofalwyr maeth y tu hwnt i 18, fel Jake.

‘on i’n teimlo mor lwcus’

“Roeddwn wedi adnabod Sian, Owain a’r teulu am flynyddoedd lawer gan eu bod yn cefnogi gofalwyr maeth lleol eraill felly byddwn yn aml yn mynd i aros gyda nhw ar benwythnosau neu pan oedd angen seibiant bach ar fy nheulu maeth ar y pryd.

“Felly pan wnaethon nhw gysylltu â fi i ddweud y bydden nhw’n fy nghefnogi drwy’r brifysgol a thu hwnt, ac y byddai wastad cartref i fi gyda nhw yn Y Bala, ron i’n teimlo mor lwcus. Mae’n golygu popeth i mi.

“Er bod digon o help a chefnogaeth ar gael gyda byw’n annibynnol nes eich bod yn 25 oed, heb deulu i’ch cefnogi’n emosiynol a lle i’w alw’n gartref, nid yw’n golygu fawr ddim.”

‘daethant yn rhieni i mi, fy nheulu am byth’

Er i Jake gael cyswllt rheolaidd gyda’i deulu genedigol drwy gydol ei gyfnod mewn gofal maeth a bu’n byw gydag un brawd, mae bellach yn ystyried Sian ac Owain fel ei rieni a’i deulu am byth. Yn ddiweddar, ail-gysylltodd â’i chwaer iau, a fabwysiadwyd yn ifanc, ac mae hefyd wedi ennill llawer o frodyr a chwiorydd maeth. 

“Mae gennym ni berthnasoedd da, rydyn ni’n siarad bob dydd ac rydw i’n ymweld yn rheolaidd. Byddaf bob amser yn mynd adref i’r Bala i ddathlu penblwyddi, y Nadolig a dathliadau arbennig eraill, does nunlle arall y byddwn i eisiau bod yno. Yn ddiweddar, aethom ar wyliau teuluol gyda’n gilydd, ynghyd â fy nghariad, a maent hefyd wedi’i chroesawu i’r teulu.

“Dydw i ddim yn gwybod yn iawn pwy a ble fyddwn i nawr oni bai am Sian, Owain a chariad a chefnogaeth barhaus y teulu. Dwi ddim yn credu y byddwn wedi cwblhau fy ngradd hebddynt. Roeddwn i’n cael trafferth gyda fy astudiaethau ar brydiau, yn enwedig yn ystod fy ail flwyddyn, ond fe wnaethant lwyddo i fy helpu i fynd drwy fy ngradd a graddiais gyda gradd mewn Maeth Chwaraeon.   

Nhw yw’r bobl fwyaf anhygoel ac rwyf wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r teulu.

Maen nhw wedi mynd y tu hwnt i’r hyn roeddwn i erioed wedi’i ddisgwyl ac am hynny, byddaf yn ddiolchgar am byth.” 

Mae pawb angen teulu ar bob cam o’u bywydau. Nid yw hynny, ac ni ddylai ddod i ben yn 18 neu 25 oed – nac ar unrhyw oedran o ran hynny.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda’ch awdurdod lleol yng Ngwynedd, neu i wneud ymholiad, ewch i: maethucymru.gwynedd.llyw.cymru

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.