sut mae maethu cymru yn cefnogi gofalwyr maeth
cefnogaeth sy’n gwneud gwahaniaeth, gan y bobl sy’n gwybod popeth am y peth
Mae maethu yn benderfyniad sy’n newid bywyd, ac mae teimlo fel eich bod yn cael eich cefnogi yn gwneud gwahaniaeth mawr. Yma yng Ngwynedd a ledled Cymru, mae gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi bob dydd gan ein timau ymroddedig, cyngor ymarferol a phobl sy’n deall realiti maethu.
Rydyn ni’n rhannu beth yn union yw’r gefnogaeth honno mewn bywyd go iawn.
Yng ngeiriau’r gofalwyr maeth eu hunain.
beth mae cefnogaeth yn ei olygu i ofalwyr maeth
Mae cefnogaeth yn ymwneud â mwy na chael cymorth gyda phrosesau neu daliadau yn unig. Ar gyfer gofalwyr maeth, mae’n ymwneud â gwybod bod rhywun yno i wrando, helpu, a chamu i’r adwy pan fydd angen.
Mae pob taith faethu yn wahanol, ond mae gofalwyr yn dweud wrthym yn gyson bod cefnogaeth yn chwarae rhan allweddol wrth wneud iddynt deimlo’n hyderus a medrus a byth ar eu pennau eu hunain.
lleisiau gofalwyr maeth
Yr hyn mae ein gofalwyr maeth yn ei ddweud…
dydw i byth yn teimlo’n unig fel gofalwr maeth yng Ngwynedd
Er fy mod yn maethu ar fy mhen fy hun, dydw i byth yn teimlo’n unig oherwydd y gefnogaeth anhygoel sydd ar gael pryd bynnag y bydd ei hangen arnaf. Rwy’n cydbwyso maethu ochr yn ochr â swydd lawn-amser, felly mae cael y cydbwysedd hwnnw’n iawn yn hanfodol, ac mae cael y gefnogaeth gywir yn gwneud hynny’n bosibl. Rydym yn ffodus iawn o’r lefel o gefnogaeth sydd ar gael yma yng Ngwynedd; mae’n fuddiol i mi ac i’r plentyn. Rwyf hefyd yn byw mewn cymuned gyda llawer o ofalwyr maeth eraill, felly rydym bob amser yno i’n gilydd pan fo angen.”
cymuned faethu leol
Mae’r gefnogaeth gan y tîm yng Ngwynedd wedi bod yn wych, ni allwn fod wedi gofyn am well.
Fe wnes i ddod yn Arloesydd Lles Maethu oherwydd fy mod yn angerddol am wneud profiad maethu mor dda â phosibl yn fy nghymuned. Pan fydd gofalwyr maeth yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, mae hynny’n arwain at ganlyniadau gwell i blant.
Rwy’n caru dod â phobl ynghyd a chefnogi gofalwyr eraill, boed hynny’n helpu gyda rhediadau ysgol, gwarchod plant, neu ddim ond bod yno i’w gilydd yn ystod yr adegau mwy heriol.”
pan fo angen cefnogaeth
sut rydym yn cefnogi gofalwyr maeth ledled cymru
Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru, o Wynedd i Gasnewydd, wedi llofnodi Ymrwymiad Cenedlaethol Maethu Cymru – pecyn cytunedig o hyfforddiant, cymorth a gwobrau a gynigir i holl ofalwyr Maethu Cymru.
Mae’r ymrwymiad hwn yn nodi’r gefnogaeth graidd y gallwch ei disgwyl, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch ac yn cael eich cefnogi trwy gydol eich taith faethu.
- O’ch asesiad cychwynnol gyda gweithiwr cymdeithasol cymwys i arweiniad parhaus gan aelod ymroddedig o dîm Maethu Cymru, byddwch yn derbyn cefnogaeth broffesiynol gyson, ynghyd â chyfleoedd rheolaidd i rannu eich barn.
- Mae gofalwyr hefyd yn elwa o gymorth cyfoedion, dysgu a datblygu wedi’i deilwra, o leiaf chwe grŵp cymorth bob blwyddyn, ac o leiaf dau ddigwyddiad cymdeithasol ar gyfer yr aelwyd gyfan.
- Byddwch yn derbyn cylchlythyrau, cynlluniau disgownt, aelodaeth â thâl i’r Rhwydwaith Maethu a New Family Social, a chefnogaeth i greu eich proffil gofalwr maeth ar-lein ar Big Welcome i helpu plant i setlo yn eich cartref. Mae Maethu Cymru hefyd yn cydnabod eich ymroddiad gyda rhoddion gwerthfawrogi, tystysgrifau gwasanaeth hir a gwobrau argymell ffrind, gan sicrhau eich bod yn teimlo fel eich bod yn cael eich gwerthfawrogi bob cam o’r ffordd.