
Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau parhaol yng Ngwynedd.
Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y flwyddyn, rhwng 12 a 25 Mai, gyda’r thema eleni yn dathlu pŵer perthnasoedd.
P’un a yw’n berthynas glos rhwng gofalwr maeth a phlentyn, y berthynas a grëwyd â gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch a adeiladwyd gyda gofalwyr maeth eraill mewn cymuned, perthnasoedd cryf yw’r llinyn aur sy’n rhedeg trwy bob stori maethu.
Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth – mae dros 70 o’r teuluoedd maeth hynny yma yng Ngwynedd. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol ledled Cymru erbyn 2026.
Rhannodd Pat* a John* eu stori am y perthnasoedd parhaol maen nhw wedi’u ffurfio o ganlyniad i faethu gyda Maethu Cymru Gwynedd.
Mae Pat a John yn ddau ffrind agos sy’n byw ar wahân ond yn maethu GYDA’I GILYDD. Maent wedi arwain a chefnogi ei gilydd trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu 24 mlynedd fel gofalwyr maeth.
Maent yn helpu ei gilydd i ddanfon a nôl plant o’r ysgol, gyda gweithgareddau ar ôl ysgol a byddant yn mynd am dripiau a gwyliau teuluol gyda’i gilydd, gan sicrhau bod y plant yn eu gofal yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.
Maent yn gweithio fel tîm i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i’r plant yn eu gofal.
cefnogi brodyr a chwiorydd
Mae maethu brodyr a chwiorydd wedi bod yn agos iawn at galonnau Pat a John bob amser. Dros y blynyddoedd, maent wedi gwneud eu cyfran deg o gynnal perthnasoedd brodyr a chwiorydd trwy gadw brodyr a chwiorydd yn agos at ei gilydd, sy’n hynod gadarnhaol i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth.
“Does neb yn deall profiad plentyn maeth yn well na brawd neu chwaer sy’n mynd trwy’r un sefyllfa,” meddai Pat. “Mae cadw plant yn agos at eu brodyr a chwiorydd a chynnal y perthnasoedd hynny yn caniatáu iddynt ddarparu cefnogaeth emosiynol i’w gilydd ac yn rhoi sicrwydd iddynt am ddiogelwch a lleoliad eu brodyr a chwiorydd.”
“Yn anffodus, nid yw bob amser yn bosib cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, am nifer o resymau, e.e. bod y grŵp brodyr a chwiorydd yn rhy fawr, neu ddim digon o le yng nghartref y gofalwr maeth.”
Ychwanegodd John: “Dyma pam fo Pat a minnau’n gweithio gyda’n gilydd i gadw brodyr a chwiorydd yn agos at ei gilydd pan na allant i gyd fyw o dan yr un to, i helpu i gadw’r cysylltiadau teuluol hynny a rhoi ymdeimlad o barhad a pherthyn yn eu bywydau.
“Ein rôl ni fel gofalwyr maeth yw sicrhau bod y plant sy’n dod i’n gofal yn hapus, yn iach ac yn derbyn gofal da.”
“pan fydd brodyr a chwiorydd yn cael eu cadw gyda’i gilydd, mae’n achosi llawer llai o drawma ac aflonyddwch emosiynol, gan wneud iddyn nhw deimlo’n hapusach yn gyffredinol.”

Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Chefnogi Teuluoedd, y Cynghorydd Menna Trenholme:
“Mae gofal maeth yn ymwneud â llawer mwy na darparu lle diogel i blentyn aros. Mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd cryf ac iach gyda phawb sy’n ymwneud â maethu ac mae’n hanfodol ar gyfer lles emosiynol ein plant a’n pobl ifanc, a’u llwyddiant yn y dyfodol.
“Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddathlu’r perthnasoedd pwerus a gydol oes hynny, ac i ddiolch i’n cymuned faethu anhygoel yma yng Ngwynedd am bopeth maen nhw’n ei wneud i’n plant a’n pobl ifanc.”
*Mae straeon Pat a John yn go iawn, ac maen nhw’n darparu gofal maeth yng Ngwynedd. Mae eu henwau wedi cael eu newid i amddiffyn y plant maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.