Dathlu cyfraniad amhrisiadwy Emma, Ben a Lewis i faethu
Mis Plant Gofalwyr Maeth yw mis Hydref, ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r cyfraniad hanfodol y mae plant gofalwyr maeth yn ei chwarae mewn aelwyd faethu.
Mae Karen a Marc wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol Maethu Cymru Gwynedd ers 2016, ynghyd â’u 3 phlentyn Emma, Ben a Lewis. Yn ystod y cyfnod hwn maent wedi darparu cartref cariadus i lawer o blant lleol sydd angen amgylchedd teuluol diogel, sefydlog, o fabanod newydd-anedig i ofalu am blant ag anghenion dwys.
Dywed gweithiwr cymorth y teulu, Nia, fod cyfraniad a chefnogaeth Emma, Ben a Lewis wedi bod yn “amhrisiadwy” ac maen nhw wedi “croesawu maethu gyda breichiau agored a chariad aruthrol”.
“Mae’r gofal a’r cariad mae Emma, Ben a Lewis wedi dangos tuag at y plant sydd wedi byw gyda nhw wedi bod yn anhygoel”, meddai Nia o Maethu Cymru Gwynedd, oedd am gydnabod eu cyfraniad i faethu fel rhan o fis Plant Gofalwyr Maeth.
“Dydyn nhw ddim yn gweld maethu fel dim ond gorfod rhannu eu tŷ gyda’r plant maeth. Maen nhw wedi derbyn pob plentyn fel rhan o’r teulu. Maent wedi caru, meithrin a dangos empathi tuag atynt, sydd wedi galluogi’r plant ifanc hyn i ffynnu a thyfu’n unigolion hyderus a hapus.
“Mae Emma, sydd bellach yn oedolyn, hyd yn oed wedi mynychu hyfforddiant meddygol fel y gall helpu ei rhieni i gefnogi anghenion rhai o’r plant sydd yn eu gofal. Mae hi hefyd yn ystyriol iawn o’i rhieni a bydd yn aml yn trefnu ’trît’ iddynt fel tocynnau cyngerdd neu sioe ar eu penblwyddi ac achlysuron arbennig eraill er mwyn iddyn nhw gael ychydig o amser i ffwrdd weithiau.”
Gofynnon ni i Emma, sydd bellach yn 20 oed, rannu sut beth yw bod yn rhan o deulu maeth.
Sut wyt ti yn helpu dy rhieni gyda maethu?
Rwy’n helpu i ofalu am y plant drwy fynd â nhw allan i weithgareddau amrywiol, fel campfa babi, a thrwy gymryd rhan mewn hyfforddiant sy’n berthnasol i anghenion y plant. Rwyf hefyd yn helpu gydag amser bath ac rwy’n eu diddanu i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu. Rydyn ni i gyd hefyd yn mwynhau mynd â’r plant ar ddiwrnodau allan a gwyliau teuluol.
Sut wyt ti’n teimlo pan fydd plant maeth yn gadael ac yn symud ymlaen?
Mae’n deimlad chwerwfelys pan fyddant yn gadael oherwydd er ein bod wedi ffurfio perthynas arbennig gyda nhw fel teulu, mae hefyd yn braf eu gweld yn symud ymlaen i ddechrau bywyd newydd a mynd ymlaen i gael dyfodol gwell. Mae hefyd yn braf eu gweld nhw’n tyfu ac yn datblygu ar ôl iddyn nhw symud ymlaen gan ein bod ni’n dal mewn cysylltiad â rhai o’r plant.
Beth mae’n ei olygu i ti i fod yn rhan o deulu maeth?
Mae’n brofiad braf iawn gallu rhoi amgylchedd cynnes a chariadus i blentyn i sicrhau eu bod yn tyfu ac yn datblygu i fod y fersiynau gorau ohonyn nhw eu hunain.
Ychwanegodd Nia: “Pe gallem gloni’r teulu hwn, byddai’r byd yn lle llawer gwell i fyw a byddem yn gweld llawer mwy o blant yn cael y dechrau gorau posib mewn bywyd.”
Ar ran Maethu Cymru Gwynedd, DIOLCH YN FAWR Emma, Ben a Lewis am eich cyfraniad eithriadol i faethu.