Ymchwil newydd yn tynnu sylw at yr arbenigedd a’r cymorth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yng Ngwynedd, er mwyn ceisio annog mwy o bobl i faethu.
Fel rhan o’r ymgyrch ddiweddaraf i recriwtio mwy o ofalwyr maeth, mae Maethu Cymru Gwynedd yn tynnu sylw at y ‘swigen gymorth’ a grëir gan weithwyr cymdeithasol, sy’n cefnogi teuluoedd maeth yng Ngwynedd bob cam o’r ffordd.
Gyda dros 7,000 o bobl ifanc mewn gofal ledled Cymru – 170 ohonynt yma yng Ngwynedd – mae’r angen am fwy o Ofalwyr Maeth yn fwyfwy pwysig.
Ar hyn o bryd, mae dros 71 o aelwydydd sy’n maethu yn y sir ond mae angen o leiaf 12 o ofalwyr maeth ychwanegol i sicrhau bod plant yn gallu aros yn eu cymuned leol, os mai dyna’r peth iawn iddyn nhw.
Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Maethu Cymru yn genedlaethol wedi tynnu sylw at gamsyniadau am rôl gweithwyr cymdeithasol, a allai achosi rhwystr ac atal pobl addas rhag dod ymlaen fel teuluoedd maeth posibl. Mae Maethu Cymru Gwynedd bellach yn gweithio i chwalu’r mythau hynny, ac amlygu sut mae gofalwyr maeth yn cael eu hamgylchynu gan rwydwaith o bobl broffesiynol sy’n tynnu ar eu profiadau lleol i gefnogi gofalwyr.
Drwy faethu gydag awdurdod lleol, fel Maethu Cymru Gwynedd, bydd gan deulu maeth fynediad at:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o rôl y gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
- Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy’n gweithio’n galed i gefnogi pobl ifanc a gofalwyr maeth.
- Cymhelliant i ddechrau’r broses i ddod yn ofalwr maeth drwy Awdurdod Lleol.
“mae ein gofalwyr maeth yn rhan ganolog o’r tîm”
Nia, Uwch Weithiwr Cymdeithasol, Maethu Cymru Gwynedd
Mae ymchwil yn dangos, er bod mwy na thri chwarter o’r holl weithwyr cymdeithasol a holwyd wedi dweud eu bod wedi dod i’r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd, mae llai na thraean o’r farn bod darpar ofalwyr yn ofni cael eu barnu gan weithwyr proffesiynol ac roedd traean arall yn credu y byddai gweithwyr cymdeithasol yn cael eu boddi mewn gwaith papur.
Ond mae arolwg o ofalwyr maeth presennol wedi dangos na allai’r camsyniadau hyn fod ymhellach o realiti gofal maeth gyda Maethu Cymru. Yn yr ymchwil, tynnodd gofalwyr maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a hirhoedlog i gefnogi pobl ifanc i oresgyn heriau. Roedden nhw hefyd yn awyddus i chwalu mythau am weithwyr cymdeithasol a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei chael, gan dalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol.
Daethpwyd â’r safbwyntiau hyn yn fyw gan straeon dau berson sydd wedi profi’r ddwy ochr o ddarparu gofal maeth yng Ngwynedd:
Mae Nia Downey yn Uwch Weithiwr Cymdeithasol i Maethu Cymru Gwynedd. Mae ei rôl yn cynnwys helpu gyda rhedeg y tîm maethu o ddydd i ddydd a darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth barhaus i ofalwyr maeth a rhai aelodau’r tîm.
“Mae gennym ni ofalwyr maeth o bob cefndir yn edrych ar ôl ein plant a’n pobl ifanc yng Ngwynedd ar hyn o bryd,” meddai Nia, sydd wedi bod yn weithiwr cymdeithasol ers dros 23 mlynedd.
“Mae angen pobl o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a gyda phrofiadau bywyd amrywiol i faethu oherwydd ein prif bwrpas ydi dod o hyd i’r teulu maeth cywir ar gyfer pob plentyn unigol – ac nid oes dau deulu yr un fath.
“Pan fyddwch yn maethu gyda ni, bydd gennych fynediad at wybodaeth a chefnogaeth leol a phenodol, pecyn dysgu a datblygu gwych a chymuned faethu glos, sy’n dod at ei gilydd yn rheolaidd drwy amrywiol ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae ffurfio’r cyfeillgarwch hwnnw’n ffordd arall o rannu’r holl wybodaeth, cydymdeimlad ac arbenigedd yr ydym yn eu rhannu rhyngom.
“Mae maethu gyda’ch awdurdod lleol yn golygu y gallwch helpu plant a phobl ifanc i aros yn eu cymuned leol eu hunain, yn agos at ffrindiau, eu hysgol a phopeth sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn hanfodol iddynt ffynnu o ystyried faint o gynnwrf y maent eisoes wedi’i brofi yn eu bywydau.
“Mae ein gofalwyr maeth yn rhan ganolog o’r tîm hwn ac mae’n fraint llwyr gweithio ochr yn ochr â nhw i sicrhau’r dyfodol gorau posibl i’r plant a’r bobl ifanc yn ein gofal.
“Rydym yn annog unrhyw un sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn i gynnig eu sgiliau a’u profiad a chysylltu â ni.”
“allen ni ddim fod wedi gofyn am dîm gwell”
Pat, Gofalwr Maeth, Gwynedd
Mae Pat wedi bod yn maethu gyda’i hawdurdod lleol yng Ngwynedd ers 2019. Mae hi hefyd yn Arloeswr Lles Maethu, rhaglen arloesol sy’n cael ei rhedeg gan y Rhwydwaith Maethu sy’n rhoi cymorth i ofalwyr maeth eraill, gan helpu i wella lles yn y gymuned faethu yng Nghymru.
“Yn ystod ein pum mlynedd o faethu, mae’r gefnogaeth rydyn ni wedi’i chael gan y tîm yng Ngwynedd wedi bod yn hollol wych,” meddai Pat. “Allen ni ddim fod wedi gofyn am dîm gwell”
“Dwi’n angerddol am wneud y profiad maethu yn fy nghymuned y gorau y gall fod, a dyna pam y wnes i ddod yn Arloeswr Lles Maethu. Mae gofalwyr maeth hapusach yn arwain at well lles, sy’n golygu gwell canlyniadau i’r plant sy’n byw gyda nhw.
“Dwi wrth fy modd yn bod yn ofalwr maeth ac yn arloeswr. Dwi wrth fy modd yn cael pawb at ei gilydd am goffi, diwrnod allan neu weithgaredd cymdeithasol o ryw fath! Fel grŵp o arloeswyr, rydym yn darparu cymorth ymarferol i ofalwyr maeth eraill pryd bynnag y gallwn ni, megis helpu gyda mynd â’r plant i’r ysgol a gwarchod plant. Rydym hefyd yn cefnogi ein gilydd yn emosiynol yn ystod y cyfnod mwy anodd o faethu, sydd yr un mor bwysig â’r cymorth ymarferol.
“Dwi hefyd yn angerddol am recriwtio gofalwyr maeth newydd i ymuno â’n cymuned faethu wych yma yng Ngwynedd a dwi bob amser yn hapus i sgwrsio a rhannu fy mhrofiadau personol gyda phobl sydd â diddordeb mewn dod yn ofalwyr maeth.”