Mis Hydref yw Mis Plant Gofalwyr Maeth, sef ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o gyfraniad hanfodol plant gofalwyr maeth mewn gofal maeth.
Fel teulu gyda chwech o fechgyn, mae bywyd yn brysur i Emma a Dyfed, sy’n ofalwyr maeth yng Ngwynedd. Ond mae cyfraniad a chefnogaeth amhrisiadwy eu 3 phlentyn, Iwan, Iestyn ac Iori, wedi eu galluogi i ddarparu cartref cariadus i dri bachgen iau sydd angen gofal. Mae Emma a Dyfed wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol Maethu Cymru Gwynedd ers 2017 pan ddaethant yn warcheidwaid arbennig i’w nai. Ar y pryd, roedd Iwan yn 18, Iestyn yn 16 a dim ond 9 oed oedd Iori. Yn 2020, ymunodd dau fachgen ifanc â’r cartref gan eu gwneud yn deulu o 8!
Mae Iwan ac Iestyn bellach yn oedolion ac mae’r ddau wedi graddio o’r Brifysgol, gan ddychwelyd adref rhwng pob tymor i gefnogi eu rhieni yng ngofal y tri bachgen ifanc.
Cafodd Iwan, sydd wedi symud i fyw i Lundain yn ddiweddar, gyfnod estynedig rhwng swyddi lle bu’n aros gartref i gefnogi ei rieni gyda maethu. Byddai’n rhannu’r cyfrifoldeb o fynd â’r plant i’r ysgol, amser bath a gwely, gan fynd â’r bechgyn i hyfforddiant pêl-droed a gemau. Byddai ganddo reolau a therfynau clir yn eu lle pan fyddent yn ei ofal. Mae Mererid Williams, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol y teulu, wedi disgrifio Iwan fel “model rôl meithringar, cariadus a gofalgar iawn iddyn nhw.”
Mae Iestyn, a raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Aberystwyth, bellach yn ôl adref ac fel ei frawd hŷn Iwan, mae bob amser wedi bod yn ymwneud yn fawr â gofalu am y bechgyn ifanc gan helpu ei rieni gyda’r rhediadau ysgol, paratoi prydau bwyd ac amser gwely.
Mae Iori, yr ieuengaf o’r tri mab, bellach yn 16 oed ac mae hefyd yn helpu drwy ddiddanu a chwarae gyda’r plant tra mae Emma yn paratoi te. Yn ystod ymweliadau Gweithiwr Cymdeithasol, bydd Iori yn aml yn mynd â’r bechgyn allan i chwarae neu i ystafell arall i dynnu eu sylw oddi wrth sgyrsiau oedolion.
Mae gan y tri phlentyn maeth berthynas gadarnhaol ag Iori ac yn amlwg yn ei addoli fel eu brawd mawr.
Ychwanegodd Mererid Williams: “Mae’n galonogol gweld y berthynas sibling cariadus, gofalgar rhwng y chwe bachgen yn y cartref hwn. Mae’n amlwg bod Emma a Dyfed yn teimlo bod ganddyn nhw chwech o blant a bod eu meibion biolegol yn ystyried y tri bachgen ifanc fel eu brodyr bach. Ers yn ifanc mae Iwan, Iestyn ac Iori wedi bod yn rhan annatod o’r cartref maethu ac yn darparu ymdeimlad cryf o aelodaeth deuluol, perthyn a derbyniad i’r plant yn eu gofal.”
Ar ran pawb yn Maethu Cymru Gwynedd, diolch yn fawr Iwan, Iestyn ac Iori am eich cyfraniad rhagorol i faethu.