eisoes yn maethu?

dewiswch maethu cymru gwynedd

Os ydych eisoes yn gwneud byd o wahaniaeth fel gofalwr maeth, a ph’un a oes gennych blentyn yn byw gyda chi’n barod, ai peidio, mae trosglwyddo i ni yn broses syml.

Os ydych chi’n maethu gyda’ch Awdurdod Lleol yng Nghymru, yna rydych chi yn rhan o dîm ehangach Maethu Cymru yn barod.

Os ydych yn ofalwr maeth gydag asiantaeth faethu annibynnol ar hyn o bryd, mae gennym lawer o brofiad o’r broses drosglwyddo a byddwn yn sicrhau bod y broses mor syml â phosibl.

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am drosglwyddo i Maethu Cymru Gwynedd.

 

Young girl smiling

manteision maethu'n uniongyrchol

Mae Maethu Cymru Gwynedd yn rhan o rwydwaith o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol nid-er-elw, ac mae ein holl gyllid yn mynd yn uniongyrchol i’r gwasanaeth maethu a ddarparwn.

Mae holl blant maeth Gwynedd yn gyfrifoldeb cyfreithiol i ni fel yr Awdurdod Lleol. Drwy faethu’n uniongyrchol gyda ni, byddwch yn gysylltiedig â phob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud â gofal y plentyn, sy’n amhrisiadwy i ofalwyr maeth. Mae gennym wybodaeth leol am ein plant a’n gofalwyr maeth.

Mae bod yn rhan o’n tîm yng Ngwynedd yn golygu y byddwch bob amser yn cael eich clywed, eich parchu, eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi fel rhan annatod o’n tîm maethu.

beth rydym yn ei gynnig ym Maethu Cymru Gwynedd

  • Cefnogaeth fedrus ymroddedig gan dîm lleol sy’n adnabod ac yn byw yn eich ardal.
  • Dysgu pwrpasol, gan gynnwys dysgu Cymraeg iaith gyntaf yn unig, sy’n cynnwys dysgu wyneb yn wyneb a dysgu rhithwir.
  • Cefnogaeth therapiwtig 1:1 – gan weithiwr cymdeithasol therapiwtig annibynnol.
  • Grwpiau Dynion sy’n maethu – gan weithiwr cymdeithasol therapiwtig annibynnol.
  • Boreau coffi a chyfarfodydd eraill ar draws Gwynedd yn agored i’n holl ofalwyr maeth.
  • Sesiynau grŵp hwyliog a gweithgareddau i feibion ​​a merched ein gofalwyr maeth.
  • Gweithgareddau, digwyddiadau a diwrnodau allan i’n holl deuluoedd maeth trwy gydol y flwyddyn – ar draws Gwynedd.
  • Cymorth ariannol ar gyfer unrhyw offer sydd ei angen ar blant sy’n byw gyda chi.
  • Lwfans gwyliau, lwfans pen-blwydd a lwfans Nadolig.
  • Cardiau Max – ar gyfer gostyngiadau ar weithgareddau teuluol a siopa.
  • Aelodaeth am ddim o’r Rhwydwaith Maethu (TFN) a’r Gymdeithas Maethu a Mabwysiadu (AFA) Cymru.
  • Polisi Cefnogaeth i Faethu i ofalwyr maeth sy’n aelod o staff Cyngor Gwynedd, sy’n cynnwys hyd at hyd at 5 diwrnod o amser ychwanegol gyda thâl
  • Gostyngiad o 50% ar eich treth gyngor
  • Parcio am ddim ym mhob un o feysydd parcio’r Awdurdod Lleol

“O’r munud nes i ddechrau maethu gydag asiantaeth maethu annibynnol, roeddwn i’n teimlo ei fod i gyd yn ymwneud â phres ac elw iddyn nhw.  Doedd dim cefnogaeth, doedden nhw ddim yno i ni o gwbl. Darparu cariad a chartref ydi maethu i mi, ac ers i mi drosglwyddo i faethu gyda’n hawdurdod lleol yng Ngwynedd, mae’r profiad wedi bod yn hollol wahanol. Rwy’n cael fy nghefnogi’n llawn ac mae gen i ansawdd bywyd llawer gwell rŵan. Dyma sut y dylai maethu fod.”

Wilma, Gofalwr Maeth Gwynedd

Gwyliwch fideo Wilma: Gofalwr Maeth Wilma – Gwynedd | Maethu Cymru

Transfer Process

sut i drosglwyddo i ni

Mae trosglwyddo i ni yn hawdd. Yn syml, cysylltwch â’n tîm – dros y ffôn, e-bost, neu trwy lenwi’r ffurflen gyswllt – am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw rwymedigaeth.

Byddwn yn siarad am sut y gallai maethu gyda ni weithio i chi, ac os byddwch yn penderfynu ymuno â ni, mi wnawn ni y gweddill!

Fostering family

canllaw trosglwyddo

Lawrlwythwch eich canllaw trosglwyddo

Neu cysylltwch â ni isod i dderbyn eich llyfryn.

Lawrlwythwch eich canllaw trosglwyddo

Woman and young girl using computer to make video call

trosglwyddo heddiw