pam maethu gyda ni?

cefnogaeth a manteision

cyllid a lwfansau

Fel Gofalwr Maeth, byddwch yn cael lwfansau hael. Rydyn ni’n cyfrifo’r lwfans maethu yng Ngwynedd ar sail nifer o ffactorau, gan gynnwys faint o blant rydych chi’n eu maethu, y mathau o blant rydych chi’n eu maethu, ac am ba mor hir rydych chi’n gofalu amdanyn nhw. Wrth i chi ddatblygu eich sgiliau maethu, efallai y bydd eich lwfansau’n cynyddu, ac mae mathau arbenigol o ofal maeth yn derbyn lwfansau gwahanol hefyd.  

Yng Ngwynedd ar hyn o bryd, mae lwfansau Gofalwyr Maeth yn amrywio o £9,204 i dros £30,000 y flwyddyn.

manteision eraill

Yn ogystal â’r lwfans gofal maeth, mae rhestr amrywiol o fanteision y byddwch chi’n eu mwynhau fel rhiant maeth. Ynghyd â’r cymorth a’r lwfansau y soniwyd amdanyn nhw eisoes, byddwch chi hefyd yn cael:

  • Cerdyn Max – mynediad am ddim ac am bris gostyngol i atyniadau yn y DU. 
  • Cerdyn Gweithiwr Gofal.
  • Mynediad at dudalen faethu breifat Gwynedd ar Facebook.
  • Cyfleoedd hyfforddi a datblygu am ddim.
  • Cefnogaeth gan weithwyr cymdeithasol sy’n lleol i chi.

Nid dim ond un math o gymorth rydyn ni’n ei gynnig – rydyn ni’n cynnig y pecyn llawn. O gyfleoedd dysgu i arweiniad emosiynol ac ariannol hefyd, rydyn ni’n eich cefnogi chi. 

Ein rôl ni yw eich galluogi chi i gynnig y lefel uchaf o ofal y gallwch chi, ac mae hynny’n golygu bod yno i chi – pryd bynnag a sut bynnag y bydd ein hangen ni arnoch chi.

ymrwymiad cenedlaethol maethu cymru

Nid dyna’i diwedd hi. Yn ogystal â’r hyn sy’n cael ei amlinellu uchod, rydyn ni wedi ymrwymo i’r Ymrwymiad Cenedlaethol – ochr yn ochr â phob Awdurdod Lleol arall yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod ni i gyd yn cytuno i ddarparu pecyn cyson o fanteision, cyfleoedd hyfforddi ac arweiniad i bob un o’n gofalwyr maeth. Felly, os byddwch chi’n dewis ymuno â thîm Maethu Cymru, byddwch chi’n elwa o’r canlynol:

Maethu Cymru Gwynedd team

un tîm

Mae tîm Maethu Cymru Gwynedd yn rhan o rwydwaith ehangach yn eich cymuned. Ni yw eich teulu maethu lleol – ond rydyn ni hefyd mewn cysylltiad â phawb arall sy’n ymwneud â bywydau ein plant maeth: gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, athrawon, therapyddion ac wrth gwrs eu teulu maeth cefnogol. Mae hyn oherwydd ein bod ni i gyd yn rhan o’r Awdurdod Lleol.

Fel rhiant maeth gyda Maethu Cymru Gwynedd, rydych chi’n rhan ganolog o’r tîm hwn ac rydych chi’n ei gwneud hi’n bosibl gwneud y gorau i’r plant sydd yn ein gofal. Rydyn ni’n gwerthfawrogi eich sgiliau, yn ogystal â’ch llais. Mae hyn yn golygu y byddwch chi wastad yn cael eich cynnwys, ac y bydd eich safbwyntiau’n cael eu gwerthfawrogi a’u parchu. Pan fydd angen gwneud penderfyniadau, bydd gennych chi lais.

Fostering books

dysgu a datblygu

Rydyn ni wedi buddsoddi yn eich dyfodol ac rydyn ni yma i’ch helpu chi i dyfu. Mae’r cyfleoedd dysgu a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn rhan o fframwaith cyson ar draws Cymru, er mwyn i ni allu gwarantu pecyn cyson sydd wedi’i brofi. Dim pethau rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw wedyn yw eich sgiliau a’ch datblygiad – maen nhw’n ganolog i’r hyn rydyn ni’n ei wneud. Maen nhw’n rhan allweddol o’r hyn sy’n ein gwneud ni’n wahanol i asiantaethau maethu eraill. Dydyn ni ddim yn edrych ar y presennol yn unig – rydyn ni’n buddsoddi yn y dyfodol hefyd.

The Maethu Cymru Gwynedd team

cefnogaeth

Wnawn ni byth adael i chi deimlo ar eich pen eich hun. Os ydych chi eisiau sgwrs neu os ydych chi’n chwilio am arweiniad mwy penodol, mae tîm Maethu Cymru Gwynedd wastad yno i chi. Does dim rhaid i chi ofyn – ni yw eich rhwydwaith cefnogi ac rydyn ni yma i helpu. 

Bydd nifer o wahanol fathau o gefnogaeth ar gael – o gyngor proffesiynol ddydd a nos i amrywiaeth o grwpiau cefnogi lleol, lle byddwch chi’n gwneud ffrindiau ac yn rhannu profiadau cyffredin â gofalwyr maeth eraill yng Ngwynedd. 

Mae yna bobl i’ch helpu, i siarad â nhw, pryd bynnag y bydd eu hangen arnoch chi. I chi, eich teulu a phawb sy’n rhan o’r broses faethu.

Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth broffesiynol gan ein tîm ymroddedig, a gan weithiwr cymdeithasol profiadol. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n gallu eich cefnogi chi mewn unrhyw ffordd sydd ei hangen arnoch chi.

getting together

y gymuned faethu

Byddwch chi’n darganfod cymuned o bobl o’r un anian drwy faethu. Rydyn ni’n dod â’n gofalwyr maeth at ei gilydd drwy ddigwyddiadau a gweithgareddau rheolaidd, oherwydd mae ffurfio’r cyfeillgarwch hwnnw’n ffordd arall o rannu’r holl wybodaeth, tosturi ac arbenigedd sydd gennyn ni.

Byddwch chi’n cael gwahoddiad i ddod i adnabod teuluoedd maeth eraill yng Ngwynedd, i fwynhau profiadau newydd a chreu ffrindiau oes. Byddwch chi’n creu atgofion newydd ac yn darganfod pa mor gysylltiedig y gallwn ni fod. 

Byddwch chi hefyd yn datblygu cysylltiadau ar-lein, drwy wefannau a grwpiau maethu pwrpasol. Gyda mynediad at gyfoeth o wybodaeth a chyngor, fyddwch chi byth yn teimlo ar goll neu heb fod wedi paratoi.

Gwynedd Foster carers on beach with hands in the air

llunio’r dyfodol

Rydyn ni’n gwybod bod taith pob plentyn i ofal maeth yn bwysig ac yn unigryw, ond rydyn ni’n canolbwyntio ar y presennol a’r dyfodol. Gyda chi, ein gofalwyr maeth ymroddedig, rydyn ni’n gwybod y gallwn ni sicrhau’r dyfodol gorau posibl.

Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad ac yn cyfathrebu’n rheolaidd drwy gylchlythyrau a diweddariadau. Byddwn ni hefyd yn gwneud yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed – yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol – wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar sut rydyn ni’n symud ymlaen.

Woman and young girl using computer to make video call

cymryd y cam cyntaf

cysylltwch â thîm maethu cymru gwynedd heddiw

  • Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.