maethu egwyl fer ar gyfer plant anabl lleol
Amser Ni
maethu egwyl fer ar gyfer blant anabl lleol
Mae teuluoedd maeth o bob math yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc sydd wrth galon ein cymunedau.
Dewch yn estyniad o deulu, gan gynnig amgylchedd cariadus a phrofiadau newydd i blentyn anabl lleol, pan fo ei angen fwyaf.
beth yw maethu egwyl fer 'amser ni'?
Lle i anadlu – mae ei angen ar bob un ohonon ni weithiau, a dyna’n union beth mae egwyl fer yn ei gynnig i blant anabl a’u teuluoedd. Nid yw'n cael ei ddiffinio gan gyfnod penodol o amser, ond mae'n cynnig help llaw am noson neu benwythnos.
am bwy rydyn ni’n chwilio amdano?
Rydym yn chwilio am unigolion hyderus, cyfeillgar, brwdfrydig a chyfrifol i ofalu am blant anabl lleol. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn a bod gennych ystafell wely sbâr yn eich cartref.
beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gofalu am blentyn anabl dros nos yn eich cartref, ar amser sy’n gweithio i bawb, gan roi profiadau newydd a hwyliog iddynt.
oes angen profiad maethu?
Nid oes angen profiad blaenorol o faethu. Bydd asesiad maethu llawn yn cael ei gwblhau cyn y bydd plentyn yn dod i aros gyda chi. Mae’r asesiad yn cymryd o gwmpas chwe mis i’w gwblhau.
oes yna oriau penodol?
Nid oes oriau penodol. Mae modd i chi gynnig cyn lleied a chwe penwythnos y flwyddyn, neu cyn gymaint yr ydych yn dymuno. Mae’r oriau yn hyblyg a gellir eu teilwro i gyd-fynd a chi a’r teuluoedd y byddwch yn eu cefnogi.
sut fedrai i ddarganfod mwy a gwneud cais?
Cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar-lein isod a bydd aelod o dîm Maethu Cymru Gwynedd mewn cysylltiad.