maethu egwyl fer ar gyfer plant anabl lleol 

Amser Ni

maethu egwyl fer ar gyfer blant anabl lleol

Mae teuluoedd maeth o bob math yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc sydd wrth galon ein cymunedau.  

Dewch yn estyniad o deulu, gan gynnig amgylchedd cariadus a phrofiadau newydd i blentyn anabl lleol, pan fo ei angen fwyaf. 

beth yw maethu egwyl fer 'amser ni'?

Lle i anadlu – mae ei angen ar bob un ohonon ni weithiau, a dyna’n union beth mae egwyl fer yn ei gynnig i blant anabl a’u teuluoedd. Nid yw'n cael ei ddiffinio gan gyfnod penodol o amser, ond mae'n cynnig help llaw am noson neu benwythnos.

am bwy rydyn ni’n chwilio amdano?

Rydym yn chwilio am unigolion hyderus, cyfeillgar, brwdfrydig a chyfrifol i ofalu am blant anabl lleol. Mae’n rhaid i chi fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn a bod gennych ystafell wely sbâr yn eich cartref 

beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn gofalu am blentyn anabl dros nos yn eich cartref, ar amser sy’n gweithio i bawb, gan roi profiadau newydd a hwyliog iddynt.  

 

oes angen profiad maethu?

Nid oes angen profiad blaenorol o faethu. Bydd asesiad maethu llawn yn cael ei gwblhau cyn y bydd plentyn yn dod i aros gyda chi. Mae’r asesiad yn cymryd o gwmpas chwe mis i’w gwblhau. 

foster carer and young boy

oes yna oriau penodol?

Nid oes oriau penodol. Mae modd i chi gynnig cyn lleied a chwe penwythnos y flwyddyn, neu cyn gymaint yr ydych yn dymuno. Mae’r oriau yn hyblyg a gellir eu teilwro i gyd-fynd a chi a’r teuluoedd y byddwch yn eu cefnogi 

sut fedrai i ddarganfod mwy a gwneud cais?

Cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar-lein isod a bydd aelod o dîm Maethu Cymru Gwynedd mewn cysylltiad 

Amser Ni: Dyma Bethan, Gweithiwr Cymdeithasol Amser Ni

Woman and young girl using computer to make video call