ffyrdd o faethu

mathau o faethu

mathau o ofal maeth

Mae maethu yn golygu bod yn deulu. Cynnig cartref newydd – am ddiwrnod, blwyddyn neu fwy efallai.

Mae hyn yn gyffredin i’r holl wahanol fathau o ofal maeth: maen nhw’n ymwneud â chynnig lle diogel, gyda chynhesrwydd a chariad, i blant sydd ei angen.

Mae gwahanol fathau o ofal maeth yn gweithio i wahanol deuluoedd maeth. I rai, fe allai olygu aros dros nos, neu ymweliadau rheolaidd. I rai eraill, fe allai fod yn rhywbeth mwy parhaol.

gofal maeth tymor byr

Adult and young boy blowing dandelion together in woods

Dydy hyd gofal maeth tymor byr Gwynedd ddim yn hollol sefydlog – gallai olygu oriau, dyddiau, misoedd neu flwyddyn efallai. Mae’n dibynnu ar beth sydd orau i’r plentyn. Yn y pen draw, mae’n ymwneud â darparu lle diogel tra bydd cynlluniau’n cael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.

Long haired young boy in city centre with slush drink

Rydyn ni’n gweithio gyda’n gofalwyr maeth tymor byr tuag at sicrhau paru yn y ‘tymor hir’ (sydd weithiau’n cael ei alw’n sefydlogrwydd) pan mai dyma’r opsiwn gorau i’r plentyn. Mae rôl y rhiant maeth tymor byr yn un bwysig – rydych chi’n cynnig yr holl gefnogaeth a gofal sydd eu hangen ar y plentyn, ond rydych chi hefyd yn ei helpu i gymryd y cam nesaf pan fydd yn barod i fynd yn ôl at ei teulu, at deulu maeth newydd neu i gael ei fabwysiadu.

Byddech chi’n anghywir pe baech chi’n meddwl bod tymor byr yn golygu ‘llai’ mewn unrhyw ffordd. Mae’r math yma o faethu yn bwysig iawn – dyma’r cam cyntaf yn aml ar daith newydd sy’n wahanol i bob plentyn yn ein gofal.

gofal maeth tymor hir

Close up portrait of young girl laughing

Beth yn union yw tymor hir? Wel, mae’n ymwneud â diogelwch, derbyn a chartref newydd i blant sy’n methu aros gyda’u teuluoedd.

Adult helping teenager with homework

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddod o hyd i’r teulu maeth cywir ar gyfer pob plentyn. Gyda gofal maeth tymor hir, mae’n golygu edrych ymlaen a gwneud y penderfyniad i fod yno – i fod yn deulu – heb derfynau amser. Rydych yn cynnig sefydlogrwydd a rhywbeth parhaol, efallai am y tro cyntaf.

mathau arbenigol o ofal maeth

Mae modd crynhoi’r holl wahanol fathau o ofal maeth fel ‘tymor byr’ a ‘tymor hir’. O ran y mathau mwy arbenigol, mae angen mathau arbennig o gymeradwyaeth ar rai.

seibiant byr

Lle i anadlu – mae ei angen ar bob un ohonon ni weithiau. A dyna’n union beth mae seibiant byr yn ei gynnig, i blant a rhieni. 

Gyda seibiant byr (sydd weithiau’n cael ei alw’n ‘ofal cymorth’) rydych chi’n cynllunio ymweliadau ymlaen llaw oddi wrth brif ofalwyr y plentyn. Gall hyn fod dros nos, rhywbryd yn ystod y dydd neu ar benwythnosau. Weithiau, mae seibiant byr yn drefniant rheolaidd. Ar adegau eraill, rydych chi’n cynnig help llaw – rydych chi’n camu i mewn pan fydd eich angen fwyaf. 

Prif fantais seibiant byr yw bod plant yn cael cyfle i brofi pethau newydd a gweld lleoedd newydd, ynghyd â chael cyfleoedd newydd. Gyda’r math yma o ofal maeth, rydych chi’n teimlo beth mae’n ei olygu i fod yn rhan o gymuned – mae’n golygu dod at eich gilydd, gan wneud rhywbeth sy’n gallu ymddangos fel rhywbeth bach, ond sy’n cael effaith fawr. 

Young child in adults arms being carried looking up the sky in city

rhiant a phlentyn

Mae gan rai o’r bobl ifanc yn ein gofal blant eu hunain. Fel teulu maeth i rieni ifanc a phlant, gallwch rannu’r holl ddoethineb a phrofiad sydd gennych chi â rhywun sydd ddim yn barod i roi cynnig arni ar ei ben ei hun. Mae’n ymwneud â magu’r genhedlaeth nesaf, gan ddangos cariad a gofal, er mwyn iddyn nhw allu gwneud yr un fath.

Playful portrait of young girl smiling

gofal therapiwtig

Rydyn ni’n cefnogi ein gofalwyr therapiwtig yn yr holl ffyrdd amrywiol maen nhw ein hangen ni. Mae pob plentyn sydd ag anghenion mwy cymhleth – boed yn emosiynol neu’n ymddygiadol – yn unigolyn, ac efallai y bydd angen gwahanol fath o ofal ar bob un. Ein rôl ni yw canfod yn union beth allai hynny fod, a rôl y gofalwr therapiwtig yw bod yno – i gynnig sefydlogrwydd a gofal.

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw’r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi’n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu’ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu’n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data’n disgrifio’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio’ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.