Gan ei bod yn gweithio fel Swyddog Recriwtio Maethu ac yn perthyn i deulu sy’n maethu yng Ngwynedd, mae Lisa yn gwybod yn well nag unrhyw un bod ei gwaith yn llawer mwy na swydd – mae’n ffordd o fyw.
Bob tro y bydd hi’n sgwrsio â darpar ofalwr maeth, mae’n gwneud mwy na rhannu ffeithiau a ffigyrau – mae hi’n rhannu profiadau personol.
Beth fydd maethu yn ei olygu iddyn nhw a’u teuluoedd? Pa fath o brofiad yw croesawu plentyn maeth i’ch teulu, a’r cryfder fydd ei angen i ffarwelio â phlant wrth iddynt symud ymlaen.
Yn y blog hwn, mae Lisa, sydd â chefndir mewn Gwaith Cymdeithasol, yn rhannu dwy ochr y daith: y wybodaeth broffesiynol a gafodd drwy helpu eraill i ddechrau eu taith maethu, a’r ddealltwriaeth bersonol a ddaeth o groesawu plant maeth i’w theulu ei hun.
stori Lisa, yn ei geiriau ei hun…

Mae gweithio i dîm Maethu Cymru Gwynedd yn fwy na dim ond swydd i mi – mae’n bersonol ac yn berthnasol iawn i fy mywyd gan fod gen i brofiad uniongyrchol o fod yn rhan o deulu sy’n maethu plant.
Drwy fy nghefndir mewn gwaith cymdeithasol mae gen i ddealltwriaeth o’r rhesymau pam y daw plant i ofal, sydd wedi rhoi empathi a mewnwelediad i’r ffordd rwy’n ymdrin â maethu.
sut ddechreuodd y cyfan
Rwyf wedi bod yn angerddol am weithio gyda phlant erioed.
Dechreuodd fy niddordeb ym maes twf a datblygiad plant ar ôl astudio TGAU Datblygiad Plant, a dyma mae’n debyg oedd y sbardun tuag at fy ngyrfa yn gweithio gyda phlant.
Gwirfoddolais mewn clwb ieuenctid lleol, a’m hysbrydolodd i ddilyn cwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol pan oeddwn yn y chweched dosbarth yn yr ysgol, cyn astudio am radd mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor.
Ar ôl cwblhau fy ngradd pan oeddwn yn 21 oed, dechreuais weithio fel Gweithiwr Cymdeithasol yn nhîm plant Cyngor Gwynedd. Yn ddiweddarach, symudais i’r tîm maethu a chanfod mai dyma yw’r lle i mi, ac rwyf wedi bod yno fyth ers hynny.
Mae rhywbeth anhygoel o arbennig am fod yn rhan o stori lwyddiant plentyn ac mae’r angerdd hwnnw wedi tyfu’n gryfach trwy faethu.
mae fy nheulu yn maethu

Mae fy nheulu-yng-nghyfraith, Karen a Steve, yn ofalwyr maeth yng Ngwynedd.
Maen nhw wedi bod yn maethu gyda Cyngor Gwynedd ers cyn i mi ddod yn rhan o’r teulu, ers dros 20 mlynedd erbyn hyn! Maen nhw wedi maethu plant a babanod am gyfnodau hirdymor ac am gyfnodau byr.
Mae Darren (fy mhartner) a fy meibion, Elis (14) ac Owen (9), yn falch iawn o gymryd rhan ac yn gweld effaith maethu – mae’n brofiad teuluol.
Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu plant wedi rhoi cipolwg i mi ar y llawenydd a’r heriau a ddaw yn sgil maethu, a’r effaith sy’n gallu newid bywydau.
Mae’r profiad wedi galluogi i mi feithrin cysylltiadau go iawn a didwyll gyda darpar ofalwyr maeth gan fy mod yn deall yn iawn beth mae maethu yn ei olygu – nid yn unig o safbwynt proffesiynol, ond o brofiad bywyd go iawn.
Mae’r cyswllt hwn yn fy helpu i gefnogi eraill gydag empathi a gonestrwydd; rwy’n credu’n gryf yn y gwahaniaeth y gall maethu ei wneud, nid yn unig i blant mewn gofal, ond hefyd i’r gofalwyr maeth a’u teuluoedd y mae eu bywydau nhw, fel ninnau, yn cael eu cyfoethogi gan y profiad.
helpu eraill i ddechrau eu taith faethu
Mae’n deimlad gwerth chweil i fod yn rhan o broses sy’n dechrau gydag angerdd i helpu pobl eraill, ac yn tyfu wedyn yn daith o gariad a gofal sy’n newid bywydau. Mae’n effaith gwirioneddol, mae’r straeon yn bwerus, a bu’n fraint i gael chwarae rhan mewn rhywbeth mor ystyrlon.
Mae bod yn rhan o deulu sy’n maethu plant wedi dysgu ni i gyd, ac yn enwedig fy meibion fy hun, am dosturi, gwytnwch, a phwysigrwydd caredigrwydd a chynhwysiant. Mae wedi dangos i ni beth yw gwir ystyr teulu, nid yn unig trwy waed, ond trwy gariad.
mae maethu yn dod â ni at ein gilydd
Mae maethu wedi dod â’n teulu yn nes at ei gilydd, gan roi pwrpas cyffredin i ni a chryfhau’r cwlwm rhyngom.
Mae ein cinio dydd Sul wythnosol yn draddodiad gwerthfawr lle mae pawb yn dod at ei gilydd o amgylch y bwrdd yn nhŷ Karen a Steve. I blant maeth, mae eistedd o amgylch y bwrdd yn arbennig o bwysig gan ei fod yn rhoi ymdeimlad o sefydlogrwydd a pherthyn iddynt, gan eu helpu i deimlo’n rhan o’r teulu.
Mae Elis ac Owen wedi agor eu calonnau wrth groesawu’r plant maeth, nid pobl ddiarth ydynt, maen nhw’n eu gweld fel rhan o’r teulu.
O’r cychwyn cyntaf, roedden nhw’n eu trin fel eu cefndryd. Mae mor galonogol i weld y berthynas yn tyfu’n naturiol.
rhan o stori bywyd ei gilydd
Rydyn ni bob amser yn onest ac yn agored gyda’r bechgyn am rôl Taid a Nain fel gofalwyr maeth.
Maen nhw’n deall y gall rhai o’r plant maeth symud ymlaen yn y pen draw, a’r rhesymau am hyn.
Maen nhw’n deall, hyd yn oed os mai am gyfnod byr y bydd y plant gyda ni, ein bod yn parhau i fod yn rhan bwysig o’u hanes bywyd. Yn yr un modd, mae’r plant hynny wedi dod yn rhan ystyrlon o’n stori ni.
Fyddwn ni fyth yn anghofio’r cysylltiadau a wneir gyda’r plant a byddwn yn trysori’r eiliadau a rannwyd gyda’n gilydd, am byth.
“Mae’r ddau yn hynod falch o’u Taid a Nain, sy’n hyfryd i’w weld. Maen nhw yn eu hedmygu am eu calonnau mawr, cariadus ac yn gweld bod eu gwaith fel gofalwyr maeth yn rhywbeth arbennig iawn – bob amser yn croesawu plant gyda breichiau agored.”

mae’n iawn i ofyn cwestiynau!
Wrth i mi eistedd i lawr gyda rhywun sy’n ystyried maethu, nid fel swyddog recriwtio y bydda i’n sgwrsio – rwy’n siarad â nhw fel rhywun sy’n deall.
Rwy’n gwybod pa gwestiynau y mae darpar ofalwyr maeth eisiau gofyn – o gwestiynau ymarferol i’r cwestiynau mwy personol ac emosiynol – weithiau, y rhai maen nhw’n ofni eu gofyn. Y cyffro, y nerfau, a sut i ddelio â ffarwelio pan fydd plentyn yn symud ymlaen.
Mae maethu yn gam mawr ac mae’n hollol iawn i leisio unrhyw bryderon. Fel swyddog recriwtio – a chyn-weithiwr cymdeithasol fy hun – rwy’n pwysleisio nad oes unrhyw gwestiwn yn rhy ddibwys, yn rhy wirion, neu’n rhy anodd.
A phan fydda i’n siarad am faethu, rwy’n rhannu profiad bywyd go iawn. Rwy’n credu mai dyna sy’n fy helpu i feithrin cyswllt â darpar ofalwyr maeth.
ydych chi’n ystyried maethu? cysylltwch â mi am sgwrs anffurfiol.

Os ydych chi’n ystyried maethu ond yn teimlo’n ansicr neu wedi drysu, y cam cyntaf gorau yw estyn allan am sgwrs.
Does dim pwysau o gwbl ac nid yw’n gyfweliad – dim ond sgwrs onest ac agored lle gallwch ofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch, rhannu eich pryderon, a thrafod a yw maethu’n iawn i chi a’ch teulu.
Mae maethu yn cynnig llawer iawn o hyblygrwydd, gan alluogi i bobl o bob cefndir wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd plentyn lleol.
P’un a ydych chi’n gweithio’n llawn-amser, yn rhan-amser, neu o’ch cartref, gall maethu ffitio i’ch bywyd.
Felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni – gall fod yn ddechrau profiad sy’n newid bywydau!
“Fel rhywun sy’n gweithio’n agos gyda gofalwyr maeth a’u teuluoedd yma yng Ngwynedd bob dydd ac yn rhan o deulu maethu fy hun, rydw i yma i wrando, i gefnogi a’ch tywys drwy’r broses.”
Os ydych chi’n byw yng Ngwynedd, gallwch gysylltu â Lisa yma.
Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.