stori

ni’n maethu ar wahân ond yn gweithio gyda’n gilydd i gadw brodyr a chwiorydd yn agos

Mae gofalwyr maeth yn annog eraill i ystyried maethu plentyn a chreu cysylltiadau parhaol yng Ngwynedd.

Cynhelir Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch ymwybyddiaeth maethu fwyaf y flwyddyn, rhwng 12 a 25 Mai, gyda’r thema eleni yn dathlu pŵer perthnasoedd.

P’un a yw’n berthynas glos rhwng gofalwr maeth a phlentyn, y berthynas a grëwyd â gweithwyr cymdeithasol cefnogol, neu’r cyfeillgarwch a adeiladwyd gyda gofalwyr maeth eraill mewn cymuned, perthnasoedd cryf yw’r llinyn aur sy’n rhedeg trwy bob stori maethu.

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth – mae dros 70 o’r teuluoedd maeth hynny yma yng Ngwynedd. Nod Maethu Cymru yw recriwtio 800 o ofalwyr ychwanegol ledled Cymru erbyn 2026.

Rhannodd Pat* a John* eu stori am y perthnasoedd parhaol maen nhw wedi’u ffurfio o ganlyniad i faethu gyda Maethu Cymru Gwynedd.

Mae Pat a John yn ddau ffrind agos sy’n byw ar wahân ond yn maethu GYDA’I GILYDD. Maent wedi arwain a chefnogi ei gilydd trwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau eu 24 mlynedd fel gofalwyr maeth.

Maent yn helpu ei gilydd i ddanfon a nôl plant o’r ysgol, gyda gweithgareddau ar ôl ysgol a byddant yn mynd am dripiau a gwyliau teuluol gyda’i gilydd, gan sicrhau bod y plant yn eu gofal yn cael yr un cyfleoedd â’u cyfoedion.

Maent yn gweithio fel tîm i sicrhau’r canlyniadau gorau posib i’r plant yn eu gofal.

cefnogi brodyr a chwiorydd 

Mae maethu brodyr a chwiorydd wedi bod yn agos iawn at galonnau Pat a John bob amser. Dros y blynyddoedd, maent wedi gwneud eu cyfran deg o gynnal perthnasoedd brodyr a chwiorydd trwy gadw brodyr a chwiorydd yn agos at ei gilydd, sy’n hynod gadarnhaol i blant a phobl ifanc mewn ⁠gofal maeth. ⁠

“Does neb yn deall profiad plentyn maeth yn well na brawd neu chwaer sy’n mynd trwy’r un sefyllfa,” meddai Pat. “Mae cadw plant yn agos at eu brodyr a chwiorydd a chynnal y perthnasoedd hynny yn caniatáu iddynt ddarparu cefnogaeth emosiynol i’w gilydd ac yn rhoi sicrwydd iddynt am ddiogelwch a lleoliad eu brodyr a chwiorydd.”

“Yn anffodus, nid yw bob amser yn bosib cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd, am nifer o resymau, e.e. bod y grŵp brodyr a chwiorydd yn rhy fawr, neu ddim digon o le yng nghartref y gofalwr maeth.”

Ychwanegodd John: “Dyma pam fo Pat a minnau’n gweithio gyda’n gilydd i gadw brodyr a chwiorydd yn agos at ei gilydd pan na allant i gyd fyw o dan yr un to, i helpu i gadw’r cysylltiadau teuluol hynny a rhoi ymdeimlad o barhad a pherthyn yn eu bywydau.

“Ein rôl ni fel gofalwyr maeth yw sicrhau bod y plant sy’n dod i’n gofal yn hapus, yn iach ac yn derbyn gofal da.”

“pan fydd brodyr a chwiorydd yn cael eu cadw gyda’i gilydd, mae’n achosi llawer llai o drawma ac aflonyddwch emosiynol, gan wneud iddyn nhw deimlo’n hapusach yn gyffredinol.”

Two adults and two children going for a walk

Ychwanegodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Chefnogi Teuluoedd, y Cynghorydd Menna Trenholme:

“Mae gofal maeth yn ymwneud â llawer mwy na darparu lle diogel i blentyn aros. Mae’n ymwneud â meithrin perthnasoedd cryf ac iach gyda phawb sy’n ymwneud â maethu ac mae’n hanfodol ar gyfer lles emosiynol ein plant a’n pobl ifanc, a’u llwyddiant yn y dyfodol.

“Mae Pythefnos Gofal Maeth yn gyfle i ddathlu’r perthnasoedd pwerus a gydol oes hynny, ac i ddiolch i’n cymuned faethu anhygoel yma yng Ngwynedd am bopeth maen nhw’n ei wneud i’n plant a’n pobl ifanc.”

*Mae straeon Pat a John yn go iawn, ac maen nhw’n darparu gofal maeth yng Ngwynedd. Mae eu henwau wedi cael eu newid i amddiffyn y plant maen nhw’n gofalu amdanyn nhw.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch