stori

cyfarfod â Beth: mae maethu’n ymwneud ag adeiladu perthnasoedd cryf ac iach

Mae mis Mai yn nodi Pythefnos Gofal Maeth (12 – 25 Mai 2025), ymgyrch y Rhwydwaith Maethu i godi ymwybyddiaeth a dathlu gwaith ein gofalwyr maeth anhygoel a’r gwasanaethau maethu sy’n eu cefnogi.  

Yn unol â’r thema eleni, Pŵer Perthnasoedd, rydym wedi bod yn sgwrsio â Beth, Gweithiwr Cymdeithasol yn nhîm Maethu Cymru Gwynedd, am y perthnasoedd y mae hi wedi’u ffurfio drwy fod yn rhan o’r gymuned faethu yng Ngwynedd, a pham bod perthnasoedd wrth wraidd gofal maeth.  

ers faint wyt ti yn rhan o dîm Maethu Cymru Gwynedd?

Rwyf wedi bod yn rhan o dîm Maethu Cymru Gwynedd ers Rhagfyr 2024. Ar ôl gweithio ym maes gwaith cymdeithasol gyda fy awdurdod lleol am rai blynyddoedd, mi es i ymlaen i gymhwyso fel Gweithiwr Cymdeithasol. Cael swydd o fewn y tîm maethu oedd fy mreuddwyd gan fy mod i’n gweld maethu fel gwir gyfle i fod yn rhan o newid positif i fywydau plant a phobl ifanc mwyaf bregus ein cymunedau.   

disgrifia dy rôl fel gweithiwr cymdeithasol mewn gofal maeth?

Rwy’n Weithiwr Cymdeithasol o fewn tîm Maethu Cymru Gwynedd. Rwy’n gyfrifol am oruchwylio a chefnogi gofalwyr maeth, gan ddarparu arweiniad a chyngor i sicrhau eu bod yn gallu cwrdd ag anghenion y plentyn neu berson ifanc yn eu gofal. O fewn fy rôl, rwy’n cynnal goruchwyliaeth gyda’r gofalwyr maeth yn fisol sy’n gyfle i adlewyrchu, gofyn sut mae nhw’n teimlo a sicrhau eu bod nhw’n gweithio i ddeddfwriaethau, rheoliadau maethu a chynllun gofal y plentyn. Mae goruchwyliaeth yn ffordd effeithiol o ddarparu cyngor mewn modd sy’n datblygu gofalwyr maeth i ehangu eu sgiliau rhiantu therapiwtig.

Mae cadw cysylltiad rheolaidd yn allweddol bwysig o fewn fy rôl i sicrhau bod ein gofalwyr maeth yn cael y gefnogaeth y maent eu hangen er mwyn gallu rhoi’r gofal gorau posib i blant a phobl ifanc yma yng Ngwynedd.

Yn ychwanegol i gefnogi ein gofalwyr maeth, rwyf hefyd yn asesu darpar gofalwyr maeth, sy’n broses manwl a gwerthfawr er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn ymuno â chartref diogel a chariadus.

beth ydi ‘diwrnod arferol’ gweithiwr cymdeithasol mewn gofal maeth?

Nid oes dau ddiwrnod yr un peth! Mae’n swydd amrywiol iawn. Un diwrnod, byddaf allan yn cynnal goruchwyliaeth efo gofalwyr maeth, tra’r diwrnod nesaf, byddaf yn y swyddfa yn gwneud galwadau ffon, ymateb ac anfon e-byst, asesu darpar gofalwyr maeth a threfnu cyfarfodydd. Mae bod yn berson ddibynadwy yn hollol bwysig ym mhob agwedd o’r swydd hon, yn enwedig wrth gefnogi teuluoedd maeth yn ymarferol ac yn emosiynol yn ystod sefyllfaoedd sensitif. Rydw i’n aml wedi mynd y filltir ychwanegol wrth weithio gyda theuluoedd sy’n mynd trwy brofiadau anodd a heriol, gan fod yn hyblyg i gefnogi a darparu cymorth y tu allan i oriau gwaith arferol.

beth wyt ti’n ei fwynhau fwyaf am dy rôl?

Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf am fy swydd, heb amheuaeth, yw’r perthnasau proffesiynol cryf yr wyf wedi ei ddatblygu gyda’n gofalwyr maeth a’u teuluoedd. Mae gweld y datblygiad a’r cynnydd, nid yn unig ym mywydau’r plant y maent yn gofalu amdanynt, ond hefyd yn eu datblygiad personol fel gofalwyr maeth, yn rhywbeth anhygoel. Mae cael bod yn rhan o’r daith faethu gyda’n gofalwyr maeth yn fraint llwyr, ac mae’r cariad, gofal ac ymroddiad y maent yn ei roi i blant yn wirioneddol ysbrydoledig.

beth yw pwysigrwydd perthnasoedd mewn maethu?

Mae gofal maeth yn ymwneud â llawer mwy na chynnig lle diogel i blentyn aros. Mae’n ymwneud ag adeiladu perthnasoedd cryf ac iach gyda phawb sy’n ymwneud â maethu, ac yn hanfodol ar gyfer lles emosiynol ein plant a’n pobl ifanc, a’u llwyddiant yn y dyfodol.

sut wyt ti’n ymlacio y tu allan i’r gwaith?

Rwy’n ymlacio drwy gadw’n actif yn y gym a mynd am dro. Dwi hefyd wrth fy modd yn mynd ar wyliau tramor neu benwythnos i ffwrdd. Mae gen i restr di-ddiwedd o lefydd dwi eisiau mynd!

pa gyngor sydd gen ti i rywun sy’n ystyried maethu?

Os ydych chi’n ystyried maethu, cerwch amdani a chysylltwch gyda’ch tîm maethu awdurdod lleol am sgwrs gychwynnol. Mae maethu yn hyblyg ac mi fyddwch yn cael eich cefnogi a’ch hannog bob cam o’r ffordd. Drwy gael y sgwrs cychwynnol yna, byddwch gam yn agosach i ddod yn rhan o gymuned cefnogol o ofalwyr maeth yng Nghymru sydd yn cydweithio i greu dyfodol gwell i blant a phobl ifanc lleol.

 

allwch chi faethu gyda’ch awdurdod lleol?

Os ydych yn byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddedig yn dod i gysylltiad efo chi am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw ymrwymiad, i’ch helpu i benderfynu os yw maethu yn iawn i chi.  

Os ydych yn byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.