blog

tu hwnt i’r mythau: y straeon go iawn y tu ôl i faethu gydag awdurdod lleol

Gall meddwl am faethu godi llawer o gwestiynau, ac i lawer o bobl, mae hefyd yn dod â rhagdybiaethau o ran a fyddent yn “cael” neu’n “gallu” maethu.

Mae “Byddwn i wrth fy modd yn maethu, ond…” yn rhywbeth rydyn ni’n aml yn ei glywed gan bobl pan rydyn ni allan yn y gymuned yn sgwrsio â nhw am faethu.

Mae’n hawdd diystyru eich hun yn dawel bach cyn i chi gael cyfle i ganfod beth ydi maethu mewn gwirionedd.

realiti mwy hyblyg a chynhwysol

Y gwir yw bod maethu drwy awdurdod lleol yn llawer mwy hyblyg, cynhwysol a chefnogol nag y mae llawer o bobl yn ei ddisgwyl. Nid oes un “math” o ofalwr maeth, un “math” o blentyn maeth neu un “math” o ofal maeth.

Mae pobl yn maethu mewn gwahanol gartrefi, gyda phrofiadau bywyd gwahanol, ac ar wahanol gyfnodau o’u bywydau – ac mae plant sydd angen eu maethu hefyd yn dod o ystod eang o gefndiroedd, amgylchiadau ac oedrannau.

straeon go iawn gan ofalwyr maeth a staff

Er mwyn helpu i herio rhai o’r camsyniadau cyffredin, rydym wedi cydweithio gyda’n cydweithwyr yn Maethu Cymru o bob cwr o ogledd Cymru i greu cyfres o fideos byr sy’n cynnwys gofalwyr maeth a staff o Wynedd a’n hawdurdodau lleol cyfagos.

gallwch faethu os ydych chi’n sengl

Foster carer Meleri reading a book

Mae Meleri, gofalwr maeth o Wynedd, yn rhannu sut mae hi’n cydbwyso maethu â gweithio’n llawn amser, a pham nad yw bod yn sengl erioed wedi ei hatal rhag darparu cartref cariadus i blant sydd angen un. Dywedodd hi:

“Dwi’n meddwl bod yna rywbeth i bawb mewn maethu. Gall fod yn hyblyg a ffitio o gwmpas gwaith. Er fy mod i’n maethu ar fy mhen fy hun, dydw i byth yn teimlo ar fy mhen fy hun oherwydd mae cefnogaeth wych ar gael pan fydd ei angen arnaf.”

🎥 Gwyliwch stori Meleri i glywed sut mae hi’n cydbwyso maethu â gweithio’n llawn amser a pham nad yw hi byth yn teimlo ar ei phen ei hun fel gofalwr maeth sengl gyda Maethu Cymru.

gallwch faethu yn ddiweddarach mewn bywyd

Foster Carer Brian

Mae Brian, gofalwr maeth awdurdod lleol o Ynys Môn, yn maethu gyda’i wraig, Hilary. Gyda’i gilydd, maent yn angerddol am gefnogi plant a gweithio’n agos gyda theuluoedd i’w helpu i’w cadw gyda’i gilydd lle bynnag y bo modd. Dywedodd:

“Hyd yn oed ar ôl ymddeol, rydyn ni’n cael cymaint o fwynhad allan o faethu.”

🎥 Gwyliwch stori Brian i glywed sut mae maethu wedi cyfoethogi ei ymddeoliad a pham nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.

gallwch faethu os oes gennych anabledd

Foster Carer Steve and Lisa from Maethu Cymru

Mae Steve, o Wynedd, wedi bod yn ofalwr maeth ers 24 mlynedd. Mae’n rhannu beth wnaeth ei ysbrydoli i agor ei gartref a sut, er gwaethaf ei heriau iechyd ei hun, nad yw wedi gadael i unrhyw beth ei rwystro rhag maethu. Dywedodd:

“Mae gen i ddirywiad macwlaidd, cyflwr llygaid, ond nid yw wedi fy atal rhag maethu.”

🎥 Gwyliwch stori Steve i glywed sut mae wedi gwneud i faethu weithio am fwy na dau ddegawd a pham nad oes rhaid i anabledd fod yn rhwystr i ddod yn ofalwr maeth.

gallwch ddechrau maethu yn ifanc

Foster Carers Hannah and Betty

Mae Hannah a Betty o Gonwy yn rhannu eu profiad o faethu gyda’i gilydd, o’u hangerdd i wneud iddo weithio o amgylch eu ffordd o fyw, gyda chefnogaeth eu hawdurdod lleol. Dim ond 21 oed oedd Betty pan ddechreuodd faethu. Dywedodd Hannah:

“Mae wedi bod mor werth chweil, ac mae maethu gyda Betty wedi bod yn anhygoel”

🎥 Gwyliwch eu stori i glywed sut y daethant i faethu gyda’i gilydd a sut mae cefnogaeth wedi eu helpu i ymgorffori maethu yn rhan o’u bywydau.

gallwch faethu os ydych yn berson prysur

Foster Carer Kiri

Mae’r digrifwr o Ynys Môn, Kiri Pritchard McLean, hefyd yn maethu gyda’i hawdurdod lleol, gan ddangos sut mae hi’n cydbwyso maethu â gyrfa brysur, yn diddanu’r cyhoedd yn y diwydiant adloniant. Dywedodd:

“Un o’r pethau anhygoel am ddod i faethu yw sylweddoli pa mor eang ydyw o ran ffordd o fyw ac argaeledd.”

🎥 Gwyliwch stori Kiri i glywed sut mae hi’n gwneud i faethu weithio o amgylch ei ffordd o fyw.

gallwch gyflawni eich nodau ar ôl tyfu i fyny mewn gofal maeth

Foster Carer Tom

Magwyd Tom, o Sir y Fflint, mewn gofal maeth ac mae bellach yn ofalwr maeth ei hun, gan gydbwyso gofal maeth seibiant byr efo gweithio’n llawn amser a magu ei blant ei hun. Dywedodd:

“Nid yw tyfu i fyny mewn gofal maeth erioed wedi fy atal rhag cyflawni fy nodau. Rydw i wastad wedi bod eisiau rhoi rhywbeth yn ôl, a maethu yw ein ffordd o wneud hynny.”

🎥 Gwyliwch stori Tom i glywed sut mae ei brofiadau ei hun wedi ei ysbrydoli i ddod yn ofalwr maeth a gwneud gwahaniaeth i blant heddiw.

beth sy’n eich dal yn ôl?

Two young children walking hand in hand on the beach towards the sunset

Ar ôl clywed y straeon hyn, efallai y byddwch chi’n meddwl tybed a allai maethu fod yn iawn i chi.

🎥 Yn y fideo byr yma, mae gofalwyr maeth yn rhannu pam y gwnaethon nhw ddewis mynd amdani – a beth fydden nhw’n ei ddweud wrth unrhyw un sy’n meddwl am gymryd y cam hwnnw.

mae’r cyfan yn dechrau gyda sgwrs gyfeillgar

Lina & Lisa, Maethu Cymru Gwynedd

Os yw’r straeon hyn wedi gwneud i chi feddwl yn wahanol am faethu, beth am gymryd y cam nesaf? P’un a oes gennych lawer o gwestiynau neu ddim ond chwilfrydedd, mae Lisa a Lina, ein tîm recriwtio ymroddedig, yma i wrando, cynnig cyngor a’ch helpu i ystyried a allai maethu fod yn iawn i chi.

Os hoffech chi ddarganfod mwy, rydyn ni yma pan fyddwch chi’n barod.

Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth ac i ddod o hyd i dîm maethu eich awdurdod lleol.

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

cysylltwch â ni heddiw

cysylltwch