stori

wythnos plant gofalwyr maeth: dathlu cyfraniad brodyr a chwiorydd maeth

Mae gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn dathlu cyfraniad hollbwysig eu plant eu hunain at y daith faethu.

Yn ystod Wythnos Plant Gofalwyr Maeth (13 – 19 Hydref), bydd gofalwyr Maethu Cymru Gwynedd yn rhannu hanesion am y ffyrdd mae eu plant wedi helpu i wneud i’r rheini sydd mewn gofal deimlo yn fwy hapus a diogel, a bod mwy o groeso a chariad iddynt.

Mae rhai pobl yn dweud mai  un o’r pethau sy’n eu rhwystro rhag dod yn ofalwr maeth yw’r effaith bosib y bydd hyn yn ei chael ar eu plant, ond mae llawer o blant yn gweld manteision  bod yn rhan o deulu sy’n maethu. Mae gweld bywyd o safbwynt rhywun arall yn gallu bod yn brofiad cyfoethog sy’n medru helpu plentyn i ddysgu a datblygu fel unigolyn. Mae plant hefyd yn medru meithrin eu perthynas eu hunain gyda phlant maeth yn eu cartref.

Mae Karen a Marc wedi bod yn maethu gyda’u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Gwynedd, ers 2016, ac maent wedi cael cefnogaeth eu tri phlentyn – Emma, Ben a Lewis – bob cam o’r ffordd. I’w plant nhw, mae maethu yn golygu mwy na rhannu eu tŷ; maent wedi croesawu pob plentyn fel gwir aelod o’r teulu.

Dros y blynyddoedd, mae’r teulu wedi rhoi cariad, sefydlogrwydd a chysur i blant sy’n wynebu dechrau anodd iawn i’w bywydau – o fabis bach newydd-anedig i blant ifanc sydd ag anghenion ychwanegol.

Mae eu merch hynaf, Emma – sy’n 21 oed erbyn hyn – wedi rhannu ei phrofiad teimladwy o gael ei magu fel rhan o deulu maethu drwy Maethu Cymru Gwynedd.

“Mae wedi bod yn brofiad hyfryd rhoi’r cariad, y diogelwch a’r gefnogaeth y mae’r plant yn  haeddu. Mae gwybod eich bod wedi eu helpu i dyfu i bwy maen nhw fod yn rhywbeth arbennig iawn.

“Mae pobl yn gofyn yn aml sut mae’n teimlo pan fo’r plant yn gadael. A bod yn onest, mae bob amser yn chwerwfelys. Rydym yn dod mor agos atyn nhw – maen nhw’n teimlo fel rhan o’r teulu – felly mae’n anodd ffarwelio â nhw. Ond ar yr un pryd, mae’n braf iawn gwybod eu bod yn symud ymlaen i gael dechrau o’r newydd, fel y maent yn ei haeddu. Mae eu gweld nhw’n hapus, wedi setlo ac yn gwneud yn dda yn gwneud y cwbl yn werth chweil. A phan rydym yn cadw mewn cysylltiad ac yn gweld eu cynnydd, mae’n ein hatgoffa o bwysigrwydd maethu.”

A happy 21 year old girl
Emma, sy’n 21 oed erbyn hyn

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.