I ddathlu Wythnos Gwaith Cymdeithasol 2025 (17 – 21 Mawrth), dyma gyflwyno Mererid, Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol yn nhîm Maethu Cymru Gwynedd. Mae Mererid yn sôn am sut y mae hi yn cefnogi teuluoedd maeth a phwysigrwydd rôl yr arloeswyr lles maethu, sydd wedi ennill gwobr gan y Rhwydwaith Maethu i gydnabod eu cyfraniad gwerthfawr at wella maethu yng Nghymru.
ers faint wyt ti yn gweithio ym maes maethu plant?
Rwyf wedi bod yn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol ers 8 mlynedd bellach, ar ôl i mi gymhwyso yn 2017. Nes i gychwyn gyda tîm plant Dwyfor am gyfnod o 15 mis ac yna dod drosodd i tîm Maethu Cymru Gwynedd yn Hydref 2018.
beth ydi dy rôl di o fewn y tîm?
Dwi’n Weithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol, yn darparu cefnogaeth, cyngor ac arweiniad parhaus i’n gofalwyr maeth presennol a newydd, a’u teuluoedd. Rwyf hefyd yn cynnal asesiadau maethu, proses mae pob unigolyn yn gorfod ei gwblhau i ddod yn ofalwr maeth cymeradwy.
be ydy apêl y gwaith i ti?
Dwi wrth fy modd yn cael dod i adnabod a meithrin perthynas gyda’n gofalwyr maeth a’u teuluoedd, sydd yn gwneud gwaith amhrisiadwy. Mae’n anrhydedd llwyr cael gweithio gyda phobol mor ofalgar a ffeind a gweld y gwahaniaeth mae’r gofal a’r cariad maent yn ei ddarparu yn ei wneud i blant a phobol ifanc sydd wedi cael cychwyn anodd iawn i’w bywydau.
Rwy’n teimlo’n lwcus iawn i gael bod yn rhan o deulu mawr, a hynod arbennig, Maethu Cymru Gwynedd.
fel un a oedd yn rhan o sefydlu’r cynllun arloeswyr lles maethu yng Ngwynedd, a fedri di egluro beth yw rôl yr arloeswyr, a pham ei fod yn bwysig i ofalwyr maeth?
Grŵp bychan yn wreiddiol sydd bellach wedi tyfu i fod yn 12 o ofalwyr maeth brwdfrydig a gweithgar sydd yn gweithio gyda’i gilydd i rhoi llais i holl ofalwyr maeth a phlant Gwynedd yw’r arloeswyr lles maethu.
Mae ganddynt amrywiaeth o brofiadau a sgiliau i’w gynnig ac maent yn hybu egwyddorion lles maethu ar draws sectorau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, gyda llais ac anghenion plant maeth yn flaenllaw.
Yn ddiweddar, mae’r Arloeswyr wedi cychwyn cynllun ‘bydi’ ble maent ar gael i gefnogi Gofalwyr Maeth eraill drwy gyfnodau anodd neu ar ddechrau eu taith maethu. Mae cefnogaeth cyfoedion yn hollbwysig pan yn maethu, ac yn rhan pwysig o’r rhwydwaith cefnogaeth o’u hamgylch. Mae yna gyfoeth o sgiliau a phrofiadau ymysg ein gofalwyr maeth ac felly mae’n bwysig i wneud y mwyaf o hynny.
Cofiwch gysylltu gyda’r tîm yn Maethu Cymru Gwynedd neu’r Arloeswyr Lles yn uniongyrchol os ydych angen unrhyw gefnogaeth, cyngor neu dim ond clust i wrando dros baned.