stori

gofalwyr maeth yng Ngwynedd yn croesawu cynllun i gychwyn dileu elw o ofal plant

Bydd Maethu Cymru Gwynedd yn ymuno â chymuned faethu Cymru i dynnu sylw at fanteision gofal awdurdodau lleol wrth i Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol nodedig Llywodraeth Cymru gychwyn ar y broses o ddileu elw o’r system gofal plant.

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU gyda chynlluniau i ddileu elw o ofal preswyl a gofal maeth i blant.

Nod ymgyrch Aros yn Lleol Maethu Cymru, a arweinir gan bobl sydd â phrofiad o ofal a gofalwyr maeth awdurdodau lleol, yw dangos sut y bydd y polisi’n cefnogi pobl ifanc mewn gofal i gadw cysylltiad â’u hardal leol, eu cymuned, eu ffrindiau, a’u hysgol.

Y llynedd, arhosodd 85 y cant o bobl ifanc sydd â gofalwyr maeth awdurdod lleol yn eu hardal. Fodd bynnag, dim ond 31 y cant o bobl ifanc sydd mewn gofal asiantaethau maethu masnachol a arhosodd yn lleol, gyda 7 y cant yn cael eu symud y tu allan i Gymru yn gyfan gwbl.*

Dechreuodd Wilma, o Wynedd, faethu gydag asiantaeth faethu fasnachol yn 2005. Penderfynodd drosglwyddo i Maethu Cymru Gwynedd yn 2009 ar ôl siarad â ffrind a argymhellodd faethu awdurdodau lleol – cam a ddisgrifiodd fel y penderfyniad gorau mae hi erioed wedi’i wneud.

“Ers i mi wneud y newid, dydw i ddim wedi edrych yn ôl,” meddai Wilma. “I mi, maethu gyda fy awdurdod lleol oedd y cam gorau a wnes i erioed. Mae’r gefnogaeth yn anhygoel. P’un ai gan fy ngweithiwr cymdeithasol neu ofalwyr maeth lleol eraill, mae rhywun yno i mi bob amser.

“Mae’r gymuned faethu fel un teulu mawr.

“Os ydych chi’n ystyried maethu, cysylltwch â’ch awdurdod lleol. Mae ganddyn nhw gymaint i’w gynnig.

Dechreuodd Pat, sydd hefyd o Wynedd, faethu gydag asiantaeth faethu annibynnol yn 2016, a throsglwyddodd i’w hawdurdod lleol yn 2019.

“Mae’r gefnogaeth ry’n ni wedi ei gael gan dîm Maethu Cymru Gwynedd wedi bod yn anhygoel. Bydd fy ngweithiwr cymdeithasol bob amser yn ateb y ffôn ac mae atebion a help ar gael ar gyfer unrhyw beth sydd ei angen arnom.

“Gan ein bod ni i gyd yn byw yn lleol, rydyn ni wedi dod i adnabod llawer o ofalwyr maeth eraill – ac rydyn ni i gyd yn cefnogi ein gilydd. Rydyn ni’n cwrdd â’r plant ar gyfer dyddiau allan, ac yn gweld ein gilydd yn yr hyfforddiant, sy’n anhygoel.

“Os ydych chi’n ystyried maethu’r awdurdod lleol, gwnewch hynny, codwch y ffôn yna!”

Pat with her social worker

Yng Nghymru, mae dros 7,000 o blant yn y system ofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd i gael – dros 70 ohonynt yma yng Ngwynedd. Mae Maethu Cymru wedi gosod y nod mentrus o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026 i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc lleol.

Ychwanegodd Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Menna Trenholme:
“Mae awdurdodau lleol fel Maethu Cymru Gwynedd yn gweithredu ar sail ddi-elw, sy’n golygu bod pob ceiniog sy’n cael ei gwario yn mynd yn uniongyrchol tuag at les y plant a’r bobl ifanc.

“Drwy faethu’n lleol, gyda Chyngor Gwynedd, mae ein gofalwyr maeth yn helpu plant a phobl ifanc lleol i aros yn eu cymuned, yn agos at ffrindiau ac aelodau o’r teulu y maent yn cadw mewn cysylltiad â nhw. Mae’n eu cadw’n gysylltiedig, yn adeiladu sefydlogrwydd ac, yn hollbwysig, yn eu helpu i gadw eu synnwyr o hunaniaeth.

“I unrhyw un sy’n meddwl am faethu, cysylltwch â thîm Maethu Cymru Gwynedd a gallwn ni eich siarad chi drwy eich opsiynau.”

amser stori

pobl go iawn, straeon go iawn

Woman and young girl using computer to make video call

dod yn ofalwr maeth

cysylltwch

  • Cyngor Gwynedd yw'r rheolwr data ar gyfer yr wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu ar y ffurflen hon. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio wrth i ni arfer ein hawdurdod swyddogol ac ni chaiff ei defnyddio at unrhyw ddibenion eraill. Ni fyddwn yn rhannu'ch data ag unrhyw drydydd parti oni bai fod y gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny. Mae cyfraith diogelu data'n disgrifio'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data yn ôl yr angen er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus. Am fwy o wybodaeth am sut mae Cyngor Gwynedd yn defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel testun data, gweler ein hysbysiad preifatrwydd.