Mae penderfynu dod yn ofalwr maeth yn gam mawr sy’n aml yn golygu llawer o waith meddwl ac ystyried yn ofalus ar y dechrau.
Yn y blog holi ac ateb yma, rydym yn sgwrsio efo Jayne a Craig – gofalwyr maeth sydd newydd gael eu cymeradwyo – am eu taith o’r adeg y gwnaethant ystyried maethu am y tro cyntaf hyd at gysylltu â ni yn Maethu Cymru Gwynedd.
Maent yn rhannu’r hyn wnaeth eu hannog nhw i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu, ac yn rhoi cipolwg i ni ar gamau cynnar y broses o ddod yn ofalwyr maeth cymeradwy.
am faint oeddech chi wedi bod yn meddwl am faethu cyn penderfynu mynd amdani?
Fe wnaethon ni siarad am faethu am y tro cyntaf dros ugain mlynedd yn ôl, ond ar y pryd, ‘doedd gynon ni ddim lle. Ond, arhosodd y syniad efo ni – roedden ni wastad yn meddwl y byddai hyn yn rhywbeth y byddem ni’n dod yn ôl ato, pan fyddai’r amser yn iawn.
sut wnaethoch chi glywed am Maethu Cymru Gwynedd, a pha mor hir wnaeth hi gymryd i chi wneud y cyswllt cyntaf?
Fe welodd Craig faner Maethu Cymru wrth ymyl lle roedd yn gweithio ac fe daniodd hyn y sgwrs eto. Fe gytunodd y ddau ohonon ni ei bod hi’n bryd i ni gael gwybod mwy, felly fe aethon ni ar y wefan i edrych ar yr opsiynau i ni. Tua mis wedyn, fe wnaethon ni benderfynu llenwi ac anfon y ffurflen ymholiad ar-lein.
sut oedd camau cyntaf y cyswllt hwnnw? beth oedd eich argraffiadau cyntaf?
Fe gysylltodd y tîm efo ni yn gyflym gan drefnu ymweliad cartref. Fe ddaeth dynes hyfryd a di-lol o’r enw Lina i’n gweld ni, ac fe ddaru hi wneud i ni deimlo’n gyfforddus yn syth bin. Cawsom sgwrs hir ynghylch pam fod gennym ni ddiddordeb mewn maethu, ac fe atebodd hithau ein cwestiynau ni yn amyneddgar. Er ein bod ni’n nerfus – roedd y cwbl mor newydd i ni – roedd pawb wnaethon ni gyfarfod yn galonogol a chefnogol, ac yn tawelu ein nerfau yn fuan.
sut oeddech chi’n gweld y broses asesu?
Roedd y broses yn sicr yn ddwys ac yn cymryd amser. Fe ddaru ni gyfarfod â’n gweithiwr cymdeithasol bob wythnos am sesiynau a oedd yn aml yn para dwy i dair awr. Aeth rhai o’r cwestiynau â ni’n ddwfn i’n gorffennol – pethau nad oedden ni wedi meddwl amdanyn nhw ers blynyddoedd. Roedd yn teimlo ychydig fel therapi, ar brydiau! Fe wnaethon ni grio, ond chwerthin dipyn hefyd, ar adegau. Wrth feddwl pa mor bell rydyn ni wedi dod mewn bywyd, a phopeth rydyn ni wedi’i oresgyn – roedden ni’n teimlo’n falch.
Mae’r broses yn naturiol yn un ymwthiol – wedi’r cyfan, maen nhw’n ymddiried ynoch chi i ofalu am blant bregus. Mae’n rhaid i’r broses fod yn drylwyr. Ond er gwaethaf y tyrchu a’r manylion, bu’n brofiad cyffrous i ni mewn gwirionedd.
pa mor hir gymerodd y broses i gyd?
Fe gymerodd y daith tua naw mis i gyd, o’r adeg wnaethon ni yr ymholiad cyntaf hyd at gael ein cymeradwyo. Bu rhywfaint o oedi wrth fynd ar ôl gwybodaeth gan y gwasanaethau plant mewn awdurdod lleol lle roedden ni’n arfer byw.
a oedd unrhyw gamau a fu’n arbennig o anodd i chi? oeddech chi’n teimlo bod cefnogaeth i chi?
‘Doedd yna ddim camau oedd yn wirioneddol anodd – yn bennaf oherwydd ein bod ni’n cael ein cefnogi bob cam o’r ffordd. Wrth gwrs, roedd ailymweld â’r amseroedd mwy heriol yn ein gorffennol yn emosiynol, ond roedd hyd yn oed hynny yn therapiwtig. Roedd y tîm yn wych ac yno’n gefn bob amser.
sut oeddech chi’n teimlo am fynd i banel? Oeddech chi’n nerfus? Beth oedd yn mynd trwy eich meddwl?
Roedden ni’n sicr yn nerfus! Fe wnaethon ni feddwl – beth os wnawn nhw ddweud na? Ond roedden ni wedi paratoi’n dda. Roedd ein gweithiwr cymdeithasol wedi treulio oriau di-ri yn cael popeth yn barod i’r panel, ac roedd hi’n gefn gwych i ni drwy’r amser.
pa gyngor fyddech chi’n ei roi i unrhyw un sy’n ystyried maethu neu gymryd y cam cyntaf?
Os yw maethu yn rhywbeth rydych chi wedi bod yn meddwl amdano, cymerwch y cam cyntaf a chysylltwch. Does dim pwysau o gwbl – mae gennych chi’r hawl i adael ar unrhyw adeg os tydi o ddim yn teimlo’n iawn (er ein bod yn eithaf siŵr na fyddwch chi eisiau!).
Mae’r bobl yn Maethu Cymru yn wych – byddwch chi’n teimlo fel rhan o’r teulu o’r cychwyn un.
Chi sydd i benderfynu, bob tro – mae’r pŵer yn eich dwylo chi go iawn.
ydych chi’n barod i gymryd y cam cyntaf tuag at faethu gyda’ch awdurdod lleol?
Os ydych chi’n byw yng Ngwynedd, cysylltwch â Maethu Cymru Gwynedd a bydd aelod o’n tîm ymroddgar yn cysylltu am sgwrs gyfeillgar, heb unrhyw bwysau, i’ch helpu chi benderfynu a yw maethu yn iawn i chi.
Os ydych chi’n byw unrhyw le arall yng Nghymru, ewch i Maethu Cymru am ragor o wybodaeth a chwilio am dîm maethu eich awdurdod lleol.