19 Mai 2026, 10:00am - 12:30am
Lleoliad: Llyfrgell Abermaw LL42 1LU
Dewch draw i’n sesiwn galw heibio hamddenol fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth a darganfod mwy am faethu gyda’ch awdurdod lleol yng Ngwynedd mewn awyrgylch cyfeillgar heb unrhyw bwysau. Gallwch sgwrsio gyda’n swyddog recriwtio, Lina, clywed ychydig am sut beth yw maethu go iawn, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych—bach neu fawr. P’un a ydych ond yn chwilfrydig neu’n dechrau meddwl o ddifrif amdano, mae croeso i chi alw heibio unrhyw bryd am sgwrs.