sut rydyn ni’n eich cefnogi chi yng ngwynedd

cymorth a lwfans yng Ngwynedd

sut rydyn ni’n eich cefnogi chi

Rydyn ni yma i’ch cefnogi chi. Mae hynny’n golygu y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas i’ch helpu i roi cartref sefydlog a chariadus i blentyn maeth.

Hyd yn oed cyn i blentyn gyrraedd, mae Maethu Cymru Gwynedd yn darparu arweiniad a hyfforddiant manwl i wneud yn siŵr bod maethu yn addas i chi a’ch teulu. Ond dyw’r cymorth ddim yn dod i ben yno.

Unwaith eich bod yn maethu plentyn, rydyn ni’n cynnig:

  • arweiniad parhaus gan weithiwr cymdeithasol dynodedig a gweithwyr proffesiynol eraill yng Ngwynedd
  • lwfans maethu i dalu costau byw hanfodol, a’n tâl uwch i dalu am eitemau hanfodol
  • cymuned o deuluoedd maethu lleol sy’n gallu rhannu profiadau, a mentora a chefnogaeth gan ein Arloeswyr Lles Maethu
  • cyfeillgarwch a digwyddiadau cymdeithasol, megis boreau coffi rheolaidd a diwrnodau teuluol allan
  • hyd at 50% o ostyngiad ar eich treth gyngor
  • a llawer mwy o fuddion.

Mae’n bwysig ystyried yr holl fuddion lleol er mwyn cael gwell dealltwriaeth, cyn cymharu taliadau gofalwyr maeth.

Darllenwch ymlaen i ddysgu mwy am y cymorth maethu a’r gwobrau rydyn ni’n eu cynnig yng Ngwynedd.

Gwynedd foster carers and team members

lwfans gofal maeth

ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?

Ydyn, mae gofalwyr maeth yn derbyn taliad i dalu costau gofalu am blentyn.  Bydd y swm hwn yn amrywio ar sail sawl ffactor, gan gynnwys

  • faint o blant rydych chi’n eu maethu
  • oedran y plant
  • ac ers pryd rydych chi wedi bod yn maethu.

Fodd bynnag, dyw bod yn ofalwr maeth ddim yn swydd gonfensiynol. Nid yw’n ffitio mewn bocs. Mae’n alwedigaeth fedrus 24/7 yn seiliedig gartref, a chefnogwn chi’n ariannol i’w gwneud.

Yn Maethu Cymru Gwynedd, mae’n bwysig i ni bod plant yn cael popeth sydd ei angen arnyn nhw i ffynnu, felly rydyn ni’n rhannu’r taliad yn 3 ran: y lwfans plant wythnosol + ffi’r gofalwr + taliadau ychwanegol.

lwfans plentyn

Yng Ngwynedd, taliad lwfans y plentyn yw £229-£261 yr wythnos, yn dibynnu ar oedran y plentyn. Mae’r rhan hon o’r taliad yn cael ei rhoi at ddiben penodol prynu unrhyw beth sydd ei angen ar y plentyn, fel bwyd, dillad neu nwyddau ymolchi ynghyd â thalu biliau cartref ychwanegol.

ffi gofalwr maeth

Mae ffioedd yn cael eu talu ar ben lwfansau i gydnabod amser, sgiliau a phrofiad gofalwr maeth. Yng Ngwynedd, mae’r elfen ffioedd yn amrywio o £109 to £438 yn dibynnu pa mor hir rydych chi wedi bod yn ofalwr maeth, pa brofiad sydd gennych a pha fath o faethu rydych chi’n ei wneud.

taliadau ychwanegol

Yng Ngwynedd, rydym hefyd yn rhoi taliad ar gyfer pen-blwydd y plentyn, Nadolig, gwyliau’r haf a chostau milltiroedd, ac rydym yn darparu offer os ydych chi’n gofalu am fabi.

ein hymrwymiad i chi

Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cytuno i'r hyn rydyn ni'n ei alw'n 'Ymrwymiad Cenedlaethol'. Mae hwn yn becyn y cytunwyd arno o hyfforddiant, cefnogaeth a gwobrau sy'n cael ei fwynhau gan bob un o'n gofalwyr maeth yng Nghymru.

Group photo of the Maethu Cymru Gwynedd team

tîm maethu lleol

Dydych chi ddim allan yna ar eich pen eich hun.  Mae gennych dîm i’ch cefnogi a’ch annog, bob cam o’r ffordd.

Mae cymorth ar gael ar unrhyw adeg – nid o fewn oriau swyddfa yn unig. Rydym wedi ymrwymo i weithio fel tîm gyda’n gofalwyr maeth, ac mae hynny’n golygu bod wrth law 24/7.  Beth bynnag sydd ei angen arnoch, pryd bynnag y bydd ei angen arnoch, byddwn ni yno.

Two female social workers listening around a table

gweithiwr cymdeithasol maethu ymroddedig

Bydd gennych weithwyr cymdeithasol proffesiynol medrus a phrofiadol wrth law, gydag aelod o’r tîm maethu sydd wedi ymrwymo i’ch cefnogi chi, eich teulu a’ch rhwydwaith.

Mae eich tîm Maeth Cymru Gwynedd yn rhan o’r awdurdod lleol, gan weithio ochr yn ochr â gweithiwr cymdeithasol y plentyn. Mae hyn yn golygu mynediad at wybodaeth am y plentyn ac adrannau gwasanaethau cymdeithasol eraill a chysylltiadau gwaith agosach â gweithwyr cymdeithasol plant.

A group of foster carers gather in the sunshine

cymorth cyfoedion

Byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i ddigwyddiadau a gweithgareddau i ddod â chi’n agosach at deuluoedd maeth lleol eraill yng Ngwynedd.  I roi profiadau newydd, cyfeillgarwch newydd, ac atgofion newydd i chi. Bydd gofalwyr maeth arloesol profiadol yn eich cefnogi chi.

a group of people around a table listening and learning

cyfleoedd dysgu a datblygu

Mae ein fframwaith dysgu a datblygu wedi’i brofi, wedi’i ddatblygu gyda gofalwyr maeth ac yn gyson ledled Cymru. Mae cyrsiau hyfforddi lleol yn ffordd wych o gwrdd â gofalwyr maeth eraill, ac rydym yn cynnig adnoddau, offer a ffyrdd eraill o ddysgu hefyd.

Adult and young girl baking together in kitchen

mwy o gwestiynau am gymorth ariannol?

Byddwn yn rhannu ac yn esbonio'r holl gymorth y gallwch ei gael. I gael dadansoddiad llawn o'r lwfansau maethu lleol a'r cymorth ariannol yr ydym yn ei gynnig yng Ngwynedd, gofynnwch am becyn gwybodaeth.

gofyn am becyn gwybodaeth

cymorth arall a buddiannau

Allowances icon

gostyngiad ar dreth gyngor

Bydd pob un o’n gofalwyr maeth yn derbyn hyd at 50% o ostyngiad ar dreth gyngor, yn dibynnu ar y math o ofal maeth y byddwch yn ei ddarparu.

Car icon

pasys parcio

Parcio am ddim mewn mannau parcio Cyngor Gwynedd.

Icon of tickets/passes

disgownt ar ddigwyddiadau, aelodaeth a mwy

Bydd ein gofalwyr maeth yn derbyn cerdyn Max am ddim sy’n cynnig gostyngiadau gwych ar lawer o atyniadau lleol, parciau thema a dyddiau allan!

Coffee mug icon

awdurdod lleol maethu cyfeillgar

5 diwrnod ychwanegol o wyliau arbennig i weithwyr Cyngor Gwynedd sydd yn, neu’n ystyried dod yn ofalwr maeth.